Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ

Fy ngwlad:

Maes Mynan

Maes Mynan: Llys, Plas, Stad

Yn 2019, comisiynwyd Dr. Shaun Evans gan Acorn Leisure a Chyngor Sir y Fflint i ysgrifennu adroddiad ar hanes Maes Mynan – sydd wedi’i leoli rhwng Caerwys a Bodfari yng ngogledd ddwyrain Cymru.

Yn y traddodiad Cymreig, ystyrir Maes Mynan yn un o lysoedd tywysogion Gwynedd. Er nad oes unrhyw ffynonellau sy'n cadarnhau'r cysylltiad hwn, mae corff o dystiolaeth amgylchiadol yn cefnogi'r honiad yn gryf. Er enghraifft, gellir dweud gyda pheth sicrwydd roedd y tiroedd yn perthyn i Gwenllian de Lacy, merch Llywelyn ab Iorwerth. Yn dilyn concwest Edward I o Wynedd, rhoddwyd Maes Mynan i deulu de Grey o Ruthun, a reolodd y tiroedd fel canolfan faenoraidd bwysig fel rhan o'u harglwyddiaeth mers Ddyffryn Clwyd neu Ruthun, cysylltiad oedd â goblygiadau sylweddol i natur y ffin ddiweddarach rhwng Sir Ddinbych a Sir y Fflint. Dengys tystiolaeth o’r 14eg a’r 15fed ganrif fod Maes Mynan yn safle amaethyddol o bwys, gyda melin a pharc ceirw ar Foel y Parc.

Gwerthodd y teulu Gray Faes Mynan i'r Goron ar ddechrau'r 16eg ganrif, ac wedi hynny aeth i'r Salusburys a'r Masseys trwy brydles a phryniant yn y drefn honno. Erbyn canol yr 17eg ganrif roedd yr ystâd wedi’i meddiannu gan deulu pwerus Mostyn – fe ailadeiladodd John Mostyn y neuadd a bu few yno hyd ei farwolaeth yn 1675.  Wedi hynny parhaodd yn rhan o stad Mostyn tan 1864, ac fe'i defnyddiwyd gan ambell fab iau a'i rhenti i denantiaid di-ri. Yn ystod y cyfnod hwn llwyddodd y Mostyniaid i gaffael a chyfnerthu darn enfawr o dir o amgylch Maes Mynan a thref Caerwys.

O’r 18fed ganrif roedd y dirwedd o amgylch Maes Mynan yn cael ei edmygu am ei harddwch, ei bywyd gwyllt, ei chynhyrchiant amaethyddol a’i photensial chwaraeon. Rhoddwyd sylw arbennig i nodweddion megis Nant Mihangel a Moel y Parc. Roedd hefyd yn gysylltiedig â nifer o gysylltiadau trafnidiaeth cyfagos. O'r 1860au ymlaen bu nifer o werthiannau ar yr ystâd - a leihaodd yn raddol o ran maint - ac roedd preswyliad teuluoedd Pickstone a Davey yn arbennig o nodedig. Yn ystod y cyfnod hwn daeth yr ystâd i'r amlwg fel canolfan bwysig ar gyfer profi gwelliannau ac offer amaethyddol, ac fel canolfan garddwriaeth.

Gweler yr adroddiad llawn.

Ysbrydolwyd yr adroddiad gan ddatblygiad parc gwyliau newydd, wedi'i leoli ar safle 90 erw sydd â chysylltiad agos â thirwedd Maes Mynan. Gweledigaeth Louise a Peter Barlow o Acorn Leisure yw . Ei bwriad oedd defnyddio'r wybodaeth am hanes y safle sydd yn yr adroddiad i ysbrydoli sut caiff Parc Maes Mynan ei farchnata, ei ddylunio, a’i gyflwyno, fel cyrchfan ddeniadol i ymwelwyr, fel arddangosfa ddilys o hanes, diwylliant a thirwedd yr ardal, ac fel canolbwynt ar gyfer bywiogi a chysylltu'r economi ymwelwyr lleol.

Agorwyd Parc Maes Mynan yn swyddogol gan yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, ym mis Medi 2019, a chyflwynwyd copi o’r adroddiad i’r Dirprwy Weinidog ar yr achlysur.

Cyflwynodd Dr. Evans sgwrs ar hanes Maes Mynan i Gymdeithas Hanes Caerwys ym mis Ebrill 2021.

Paentiad dyfrlliw o blasty gwledig.