Mae Mapio Dwfn Archifau Ystad yn brosiect cydweithredol ar draws prifysgolion, archifau a sefydliadau treftadaeth Cymru a ariennir gan yr AHRC. Mae'r prosiect wedi mapio cofnodion hanesyddol yn ddigidol i'r lleoliadau go iawn y maent yn berthnasol iddynt, sy'n caniat谩u dadansoddiad manwl o barhad a newid tirwedd.
Mae'r prosiect peilot hwn wedi canolbwyntio ar ardal fechan o Ogledd Ddwyrain Cymru sy'n cynnwys tri phlwyf yn Sir Ddinbych; Llanarmon yn i芒l, Llanferres a Llandegla a thri phlwyf cyfagos yn sir y Fflint; Treuddyn, Nercwys a'r Wyddgrug (cyn belled ag afon Alun). Mae'r prosiect wedi dod ag ystod eang o fapiau hanesyddol ar raddfa fawr at ei gilydd i greu map gwe sy'n hygyrch i'r cyhoedd, sy'n cynnwys mapiau AO, Degwm, Cau Tir a Stadau.
Mae'r map gwe yn cyflwyno delweddau wedi'u sganio'n ddigidol o'r mapiau hanesyddol gwreiddiol sydd wedi'u halinio'n ddaearyddol 芒'r map modern gan ddefnyddio proses a elwir yn 'geogyfeirio'. Mae ffynhonnell pob听map hefyd wedi'i 'fectoreiddio'. Mae hyn yn golygu bod siapiau (polygonau) sy鈥檔 cyfateb i鈥檙 llinellau a dynnwyd ar y mapiau hanesyddol wedi鈥檜 creu鈥檔 ddigidol, gan alluogi defnyddwyr i glicio ar unrhyw nodwedd tirweddol (parsel cae, adeilad, ffordd) a chael rhagor o wybodaeth.
Roedd y prosiect dwy flynedd hwn yn gydweithrediad rhwng Sefydliad Astudio Ystadau Cymru ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru (CBHC), Prifysgol Aberystwyth, Gwasanaeth Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru (LlGC). Dechreuodd y prosiect ym mis Mai 2020 a chafodd ei gwblhau ym mis Rhagfyr 2022.
Prif bwyslais y prosiect oedd dod ag ystod o wahanol fapiau hanesyddol at ei gilydd mewn amgylchedd mapiau gwe sy'n hygyrch i'r cyhoedd. Mae hyn yn caniat谩u dadansoddi ac archwiliaeth o'r ffynonellau hyn, yn enwedig yng nghyd-destun newid tirwedd. I gyflawni hyn, datblygwyd methodoleg o bum prif linyn:
- Cyrchu - Y broses o ddod o hyd i ddeunydd perthnasol yn ymwneud 芒 maes y prosiect o fewn ystorfeydd archifau a sefydliadau cenedlaethol.
听 - Digido - Y broses o gymryd eitem ffisegol a'i sganio i greu copi digidol. Cafodd yr holl fapiau a ddefnyddiwyd yn y prosiect hwn eu sganio gan LlGC.
听 - Geogyfeirio - Y broses o gymryd map digidol ac ychwanegu gwybodaeth ddaearyddol at y ddelwedd i'w leoli ar fap modern. Mae 'pwyntiau rheoli' yn cael eu creu ar nodweddion sy'n bodoli ar y map hanesyddol a modern, er enghraifft croestoriad ffiniau caeau neu gorneli hen adeilad. Bydd mwy o bwyntiau rheoli yn gwella cywirdeb y map. Gellir defnyddio algorithmau mathemategol a elwir yn drawsnewidiadau i ymestyn ac ystofio'r map hanesyddol ychydig i roi'r ffit topograffig orau i fapio modern.
听 - Fectoreiddio - Y broses o greu data gofodol digidol o ddelwedd. Mae dwy ran i fector data:- yr elfen ofodol weledol sy鈥檔 darlunio nodwedd (h.y., adeilad, parsel cae, ffordd), a鈥檙 wybodaeth sydd y tu 么l i鈥檙 data hwnnw. Mae hyn yn golygu y gellir cofnodi gwybodaeth am bob nodwedd unigol mewn cronfa ddata sylfaenol, sy'n caniat谩u i bobl weld gwybodaeth am y nodwedd benodol honno trwy glicio botwm.
听 - Mynediad - Y broses o uwchlwytho鈥檙 deunydd fel ei fod yn hygyrch i gynulleidfa eang ar ffurf map gwe.
听
Datblygwyd y prosiect gan Dr Shaun Evans, Dr Julie Mathias, Scott Lloyd a Jon Dollery.