香港六合彩挂牌资料

Fy ngwlad:

Thomas Edward Ellis

Prosiectau Doethurol

Teitl y prosiect:聽'The life of Thomas Edward Ellis, MP for Merioneth 1866-1899 and his contribution to the political life of Wales'

Ymchwilydd Doethurol:聽Ieuan Wyn Jones

Goruchwylir gan:聽Dr Mari Wiliam a Dr Lowri Ann Rees

Portread o Thomas Edward Ellis gan James Francis Richard Wood

Bydd prosiect ymchwil Ieuan yn asesu cyfraniad Thomas Edward Ellis, AS Meirionnydd 1866-1899, i fywyd gwleidyddol Cymru. Bydd yn edrych o'r newydd ar ei fywyd trwy astudio deunydd nad oedd ar gael i fywgraffwyr blaenorol neu na ddefnyddir ganddynt. Bydd yn taflu llygad gwrthrychol ar ei gyfraniad i ail-ddeffro ymwybyddiaeth genedlaethol yng Nghymru yn chwarter olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg.聽Bydd Ieuan yn ystyried effaith Brad y Llyfrau Gleision (1847), diwygiad crefyddol 1859, cwestiwn y tir, ymrysonau mewn addysg, lle鈥檙 Gymraeg, diffyg sefydliadau cenedlaethol, Datgysylltiad Eglwysig, a鈥檙 syniadau eginol ar Senedd neu Gynulliad Cymreig. Edrychir yn feirniadol ar r么l Tom Ellis yng nghreadigaeth mudiad Cymru Fydd a'i rinweddau arweinyddol a arweiniodd at y sobriquet 'Parnell Cymru' a dylanwad cenedlaetholwyr Gwyddelig megis Michael Davitt a chenedlaetholwyr Eidalaidd megis Giuseppe Mazzini ar ei syniadau聽wleidyddol.聽

Bydd ymchwil Ieuan hefyd yn edrych ar y berthynas agos rhwng anghydffurfiaeth a radicaliaeth Ryddfrydol ym mywyd a gwaith Tom Ellis ac i ba raddau y dylanwadodd sosialaeth Gristnogol ar ei feddwl yn dilyn ei gyfnod yn New College Rhydychen fel myfyriwr israddedig. Bydd Ieuan hefyd yn archwilio ei ddull cynnar a chyson o ymestyn yr etholfraint i fenywod. Bydd yr ymchwil hefyd yn edrych ar ei benderfyniad dadleuol i dderbyn swydd yn y Llywodraeth Ryddfrydol fel chwip o鈥檙 etholiad yn 1892, yn edrych ar ei resymau dros wneud hynny ac a oedd y feirniadaeth a ddenodd yn deg a chytbwys. Bydd ei gyfeillgarwch gyda鈥檙 gwleidydd dadleuol o Dde Affrica, Cecil Rhodes, a鈥檌 syniadau am Senedd Gymreig oedd yn israddol i鈥檙 Senedd Ymerodrol ar y llinellau a hyrwyddir gan Rhodes yn cael eu hasesu o鈥檙 newydd. Bydd traethawd ymchwil Ieuan yn ystyried y ddadl bod etifeddiaeth Tom Ellis wrth ailddeffro ymwybyddiaeth genedlaethol yng Nghymru wedi arwain at gyfnod pan oedd dyfodol Cymru fel cenedl yn rhan o鈥檙 disgwrs gwleidyddol am y tro cyntaf ers canrifoedd. Yn wir, bydd hefyd yn ystyried i ba raddau y dylanwadodd ei weithredoedd ar wleidyddion diweddarach ac a arweiniodd y disgwrs hwnnw at newidiadau cyfansoddiadol diwedd yr ugeinfed ganrif a dechrau鈥檙 unfed ganrif ar hugain.

Gweithgarwch diweddar:聽Papur a gyhoeddwyd yn Trafodion Cymdeithas Hynafiaethwyr M么n ar hanes ASau M么n rhwng 1800-1945 a chymryd ran mewn seminar Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru ar effaith etholiad 1868.