听
Bu farw John Dolwin ar 17 Awst 2022, yn 89 oed.
Ar 么l graddio o Fangor gyda gradd Anrhydedd mewn Coedwigaeth ym 1959, bu John yn gweithio yn Nhanzania fel Swyddog Ymchwil Coedwriaeth ac yna fel Swyddog Coedwig Ardal, o 1960 i 1964/5.
Ar 么l dychwelyd i'r Deyrnas Unedig, sicrhaodd John swydd fel rheolwr coetiroedd Syr William Pennington-Ramsay yn Ravenglass, Cumbria.
听
Ar 么l rhai blynyddoedd symudodd John i Ddwyrain Sussex i weithio gyda Choedwigaeth Tilhill. Aeth ymlaen wedyn i gyflawni ei uchelgais o redeg ei fusnes coedwigaeth ei hun gan sefydlu Dolwin a Gray gyda Don Gray, a fu鈥檔 gwasanaethu ystadau yn Sussex a鈥檙 cyffiniau, gydag adrannau Meithrinfa Goed, Cynnal a Chadw Coedwigoedd, Ymgynghoriaeth, Trin Coed a Thirweddu. Pan fu farw Don Gray, cadwodd John y cwmni i fynd yn llwyddiannus iawn am flynyddoedd lawer, gan werthu yn y pen draw i 3 o'i weithwyr profiadol.
听
Yn ystod ei yrfa, gwnaeth John lawer o waith i Adran yr Amgylchedd; gwaith ymgynghorol ar draws y Deyrnas Unedig ar nifer helaeth o faterion. Enillodd Dolwin a Gray gytundeb i glirio ardal fawr yn Sussex i baratoi ar gyfer adeiladu Cronfa Dd诺r Ardingly. Yn ei 60au hwyr, dyfarnwyd Doethuriaeth i John am ei ymchwil i ddulliau o ganfod pydredd pren mewn coed heb eu torri.
听
Roedd John yn Feistr Sgowtiaid gweithgar yn Rotherfield a drefnodd lawer o ddigwyddiadau pentref a chodi arian i adeiladu cwt sgowtiaid newydd. Bu鈥檔 allweddol yn y gwaith o sefydlu鈥檙 Millennium Green, llecyn hardd a hynod o boblogaidd yn Rotherfield.听
Roedd bywyd John yn un cyfoethog a gafodd ei fyw'n dda.听