Papur ar wella ansawdd yn rhestr papurau gorau 2019
Mae ymchwil gan Dr Lorelei Jones, Darlithydd Gwyddorau Gofal Iechyd, Prifysgol 香港六合彩挂牌资料, a chydweithwyr yn UCL, Kings ac Imperial, wedi ei gynnwys yn y rhestr BMJ Quality and Safety o bapurau gorau 2019.聽
Mae'r聽papur聽yn trafod sut mae sefydliadau gofal iechyd yn ymateb i wella ansawdd.聽
Mae gwella ansawdd y gofal a ddarperir gan ysbytai yn flaenoriaeth i systemau gofal iechyd ledled y byd.聽Roedd yr astudiaeth hon yn rhan o werthusiad o fenter mewn 6 ysbyty yn Lloegr i gynorthwyo'r uwch dimau rheoli i wella ansawdd y gofal a ddarperir gan y sefydliad.聽Nod yr astudiaeth oedd egluro effeithiau'r fenter, a nodi gwersi ar gyfer cynllunio mentrau yn y dyfodol.聽聽
Er mwyn i sefydliadau elwa o fentrau gwella ansawdd, canfu fod rhaid iddynt gael rhywfaint o ryddid - a ddisgrifiwyd gan y cyfranogwyr fel 'amser i feddwl' a 'rhywun i wneud y gwaith'.鈥燫oedd gan y sefydliadau a elwodd o'r ymyriad hefyd dimau rheoli sefydlog a gweledigaeth gyffredin ar gyfer gwella ansawdd.聽Goblygiadau ein hymchwil i reoleiddwyr sy'n ymwneud 芒 chryfhau gallu ysbytai i wella yw bod rhaid iddynt gymryd rhyddid o ddifrif, a lleihau nifer y galwadau ar sefydliadau yn unol 芒 hynny.聽Efallai y bydd sefydliadau sy'n ystyried cymryd rhan yn y math hwn o fenter yn ystyried yn gyntaf yr hyn y gallent roi'r gorau i'w wneud er mwyn caniat谩u digon o ryddid.
聽Mae ein hastudiaeth yn awgrymu na fydd ychwanegu un fenter arall at sefydliad sydd eisoes wedi ei orlwytho yn arwain at y canlyniadau a ddymunir.聽Dylid addasu cynllun ymyriadau ar lefel y bwrdd i'r cyd-destun, er enghraifft, trwy ganolbwyntio ar gryfhau blociau adeiladu gweithrediad bwrdd iach mewn sefydliadau lle mae hyn yn wan.聽
Cyllidwr:聽National Institute for Health Research Collaboration for Leadership in Applied Health Research a Care North Thames聽
T卯m ymchwil:聽Dr Lorelei Jones, Ysgol Gwyddorau Iechyd, Prifysgol 香港六合彩挂牌资料聽
Linda Pomeroy, Department of Applied Health Research, UCL聽
Glenn Robert, Florence Nightingale Faculty of Nursing, Midwifery & Palliative Care,聽聽
King's College, Llundain聽
Susan Burnett, Department of Surgery and Cancer, Imperial College London聽
Janet Anderson, Florence Nightingale Faculty of Nursing, Midwifery & Palliative Care,聽聽
King's College, Llundain聽
Steve Morris, Department of Applied Health Research, UCL聽
Estela Capelas Barbosa, Department of Applied Health Research, UCL聽
Naomi Fulop, Department of Applied Health Research, UCL (Principal Investigator)聽
Llongyfarchiadau i bawb a gyfranodd!聽