Wyth ffilm i’w gwylio am garcharu a dianc.
A ninnau’n cadw pellter cymdeithasol ac yn aros yn ein cartrefi, dyma restr o wyth ffilm i'ch hysbrydoli, yn eich caethiwed!
Gofynnon ni i Nathan Abrams, Athro Ffilm yn yr Ysgol Cerddoriaeth a’r Cyfryngau awgrymu ffilmiau am garchar a chaethiwed… a braf yw cael dweud bod diweddglo hapus i bob un!
1. A Clockwork Orange (1971).  Yn y ffilm dadleuol yma gan Stanley Kubrick, mae Alex DeLarge yn cael ei anfon i'r carchar ond caiff ei ryddhau’n gynnar i gymryd rhan mewn arbrawf a adwaenir fel Techneg Ludovico. Ffurf ar therapi anghymell ydyw, sy’n seiliedig ar therapïau’r seicolegydd blaenllaw B.F. Skinner (a ymwelodd â Phrifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ, gyda llaw). Â
Ìý2.ÌýUnrhyw ffilm am Alfred Dreyfus. Iddew o Ffrancwr a Swyddog Milwrol a fu o flaen ei well mewn llys milwrol a hynny ar gam ac yntau’n ddieuog ac a gafodd ei ddedfrydu i 35 mlynedd ar yr erchyll Devil's Island yng Ngiana Ffrengig. Yn ffodus, cafodd ei ddedfryd ei gwrthdroi ac mi gafodd ei ryddhau. Mae nifer o fersiynau ffuglenol wedi ymddangos ar y sgrin fawr: cynhyrchodd Pathé The Dreyfus Affair yn 1899, a bu dwy ffilm Dreyfus ym 1930 a 1931, ac yna The Life of Emile Zola ym 1937, I Accuse ym 1958, Prisoner of Honor ym 1991 ac An Officer and a Spy y llynedd. Â
3. Escape from Alcatraz (1979). Dyma ffilm a seiliwyd ar stori wir, sy’n olrhain yr unig ddihangfa lwyddiannus, yn ôl y sôn, o’r carchar enwog yng Nghaliffornia. Clint Eastwood yw seren y ffilm ac ef yw’r un sy’n dyfeisio’r cynllun manwl ac yn ei roi ar waith.
4. The Simpsons. Yn "Krusty Gets Busted," caiff Krusty’r Clown ei garcharu ar gam am ladrad arfog. Dyma Bart a Lisa’n cynnal eu hymchwiliadau eu hunain, ac yn darganfod mai’r gwir droseddwr yw ei bartner, Sideshow Bob. Yn ddiweddarach mae Krusty’n cynnal Sioe Arbennig o’r Carchar.
5. Stir Crazy (1980). Yn y ffilm gomedi hon, caiff dau gyfaill, Gene Wilder a Richard Pryor, fai ar gam am ladrad banc. Maent yn ffoi mewn rodeo.Â
6. Midnight Express (1978). Ffilm filain a chignoeth, am brofiadau myfyriwr o America a gafodd ei garcharu am geisio smyglo cyffuriau, ond a lwyddodd i ddianc ac adrodd ei hanes.
7. The Shawshank Redemption (1994). Addasiad o nofel fer gan Stephen King yw hon ac mae’n aml yn cael ei phleidleisio ymhlith y 10 ffilm orau erioed. Fel Escape from Alcatraz, mae carcharor yn llwyddo trwy ryfedd wyrth i ddianc a chyffwrdd â bywydau ei gyd-garcharorion tra mae’n gaeth yn y carchar.Â
8. Papillon (1973). Stori wir arall am fywyd y carchar a Steve McQueen yn serennu, fel dyn sy’n wych am agor sêffs. Caiff y llysenw ‘Papillon’ (iâr fach yr haf mewn Ffrangeg) oherwydd y tatŵ sydd ar ei frest. Cafodd yntau hefyd ei garcharu ar gam a’i anfon i Giana Ffrengig, a dianc oddi yno.