UBC Global Masters 2019-20 - Raja Asad
UBC Global Masters 2019-20 - Raja Asad
Llongyfarchiadau i Raja Asad a ddaeth yn chweched yn rownd derfynol y gystadleuaeth UBC Global Masters 2019-20 a gynhaliwyd fel digwyddiad rhithwir ddydd Iau 2 Ebrill 2020. Llwyddodd pob t卯m i oresgyn y cyfyngiadau symud byd-eang i wneud y diwrnod yn brofiad dysgu rhagorol a chofiadwy.
Mae'r Global Masters yn gystadleuaeth ar sail efelychiad sydd wedi ei chynllunio'n benodol i ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd myfyrwyr 么l-radd o safon uchel. Mae efelychiadau busnes o'r radd flaenaf yn rhoi cyfle i redeg cyfres o fusnesau sy'n galluogi'r cystadleuwyr i ddatblygu 'meddylfryd entrepreneuraidd' ac yn darparu prawf go iawn o allu pob t卯m i yrru perfformiad busnes.
Dywedodd Dr Siwan Mitchelmore听 鈥淩ydym yn falch iawn o lwyddiant Raja, rydym wedi ymrwymo i roi cyfle a chefnogaeth i fyfyrwyr wella eu sgiliau cyflogadwyedd. Mae cystadlu yng nghystadleuaeth yr UBC Postgraduate Global Masters yn rhoi cyfle i ddatblygiad personol a phroffesiynol sy'n heriol yn ddeallusol ac yn ymarferol berthnasol, gan arfogi'r cyfranogwyr 芒 sgiliau cyflogadwyedd hanfodol."
Dywedodd Raja "Mae fy mhrofiad gyda'r UBC wedi bod yn hynod werthfawr, llwyddais i ddysgu sut i redeg busnes oedd eisoes wedi ei sefydlu yn y rownd gyntaf ac yna rhedeg busnes newydd yn rownd derfynol cystadleuaeth y Global Masters. Bu'n brofiad unigryw iawn a bu'n fodd imi ddatblygu llawer o fy sgiliau personol a phroffesiynol. Byddwn yn argymell i unrhyw un sy'n ystyried cymryd rhan yn yr UBC Masters i fynd amdani, bydd yn ffordd wych o ddysgu sgiliau gweithio mewn t卯m, sgiliau gwneud penderfyniadau a sgiliau cyflwyno."
听
听
听
听
听