Y brifysgol wedi ei rhestru ymhlith 70 o sefydliadau ledled y byd sy'n gweithio tuag at Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig
Heddiw (22 Ebrill 2020) mae Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ wedi'i rhestru ymhlith 70 o brifysgolion ledled y byd sy'n gweithio tuag at Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig.
Mae hyn yn gydnabyddiaeth o bwys i'r sefydliad o Ogledd Cymru sy'n gweithio tuag at fod yn 'Brifysgol Gynaliadwy'. Y brifysgol yw'r unig sefydliad o Gymru ar y rhestr, ac mae ymhlith 15 o brifysgolion eraill o'r Deyrnas Unedig sydd yn y 70 uchaf.
Y Brifysgol yw’r unig sefydliad o Gymru i'w chynnwys o blith y 15 o’r DU yn 70 sydd ymysg y 70 uchaf yn y byd, sef categori’r Cynghrair effaith ei hun.
Mae'r Brifysgol eisoes yn y degfed safle trwy'r byd am ei hymrwymiad i gynaliadwyedd mewn o sefydliadau sy'n ystyriol o'r amgylchedd.Â
²Ñ²¹±ð’r Impact Rankings 2020 yn gosod y Brifysgol yn y 68fed safle o blith 766 o sefydliadau. Mae'r fenter arloesol hon yn cydnabod gwaith y mae prifysgolion yn ei wneud i ystyried eu heffaith gymdeithasol ac economaidd gan wneud hynny yn seiliedig ar Nodau Datblygu Cynaliadwy (SDG) y Cenhedloedd Unedig.
Mae'r drefn sgorio hefyd yn gosod y Brifysgol yn seithfed ledled y byd o ran Treuliant a Chynhyrchu Cyfrifol (SDG 12).
Mae'r Brifysgol wedi lleihau faint o ynni y mae yn ei defnyddio, a'i hallyriadau o nwyon tÅ· gwydr. Dros y flwyddyn ddiwethaf mae'r brifysgol wedi cynhyrchu llai o wastraff, wedi cynyddu faint y mae yn ei ailddefnyddio, yn ei ailgylchu a'i gompostio, wedi anfon dim gwastraff i safleoedd tirlenwi, wedi cynyddu faint o ynni y mae'n ei adfer o wastraff ac wedi lleihau ei hallyriadau o wastraff - ceir tystiolaeth o'r pethau hyn yn yr Adroddiad Cynaliadwyedd, sydd i'w gael ar-lein.
Mae'r Brifysgol hefyd yn y 23ain safle ar gyfer SDG 17 (Partneriaethau i Gyflawni Nodau). Mae hyn yn cydnabod yr ystod eang o fentrau cydweithredol sy'n rhoi sylw i faterion cynaliadwyedd, o rai lleol i rai byd-eang. Yn ogystal â llawer o brojectau ymchwil ac arloesi, mae'r brifysgol yn cydlynu Canolfan Ragoriaeth Ranbarthol Cymru er Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Mae hon yn rhan o rwydwaith byd-eang y Cenhedloedd Unedig o ganolfannau sy'n mynd i'r afael â'r Nodau Datblygu Cynaliadwy ledled y byd.
Wrth groesawu’r newyddion diweddaraf, dywedodd yr Athro Iwan Davies, Is-ganghellor Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ:
“Rydym wedi ymrwymo i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i'r byd yr ydym yn byw ynddo, nid yn unig trwy gynhyrchu graddedigion sy'n barod i ddilyn gyrfaoedd newydd, ond ym mhob agwedd o'n gweithgareddau. Mae gennym ymrwymiad hir a chadarn i wella agweddau amgylcheddol, cymdeithasol, moesegol, diwylliannol ac ariannol ein holl weithrediadau. Rydym yn adolygu ein gweithgareddau yn gyson, ac yn chwilio am ragor o ffyrdd o wella ein haddysgu, ein  hymchwil, ein hymdrechion i drosglwyddo gwybodaeth a'n gwaith ym maes cydraddoldeb rhywiol a chynaliadwyedd er mwyn gwireddu'r Nodau Datblygu Cynaliadwy.
Mae'r sgôr effaith hwn yn dangos ein bod ar y trywydd cywir ac mae'n gydnabyddiaeth o'r gwaith gwych y mae ein Labordy Cynaliadwyedd yn ei wneud drwy gydweithredu â myfyrwyr a staff ledled y Brifysgol i gyflawni ein nodau a darparu tystiolaeth o'r llwyddiannau hynny flwyddyn ar ôl blwyddyn."
Meddai Dr Einir Young, Cyfarwyddwr Cynaliadwyedd y Brifysgol:
“²Ñ²¹±ð’r Cenhedloedd Unedig wedi gosod her i ni i gyd gyflawni’r nodau hyn erbyn 2030. Mae cyfraniad Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ i'r ymdrech leol a byd-eang hon yn enghraifft o waith tîm ar draws cymuned staff a myfyrwyr y brifysgol mewn partneriaeth â'r gymuned leol a'r gymuned ehangach yn fyd-eang (Nod 17).
Rydym yn arbennig o falch o weld ein bod yn y deg uchaf am ein hymrwymiad i ddefnyddio adnoddau'n gyfrifol a'n hymrwymiad i'r economi gylchol. Rydym yn rhoi pwys mawr ar gydraddoldeb rhywiol (Nod 5) ac ar sicrhau tegwch i bawb (Nod 10) ac am y tro cyntaf eleni cawsom ein hasesu o ran ein cyfraniad at heddwch byd-eang, cyfiawnder a sefydliadau cryf (Nod 16).
Trwy gymryd rhan mewn asesiadau o'r fath, rydym yn gallu dysgu gan brifysgolion eraill ledled y byd. Mae'n darparu fframwaith gwych ar gyfer gweithio gyda'n gilydd i ymateb ar y cyd i faterion byd-eang pwysig ac adeiladu dyfodol gwell."