Myfyrwraig Prifysgol ϲʹ yn ennil gwobr Prif Lenor Eisteddfod T
Mared Fflur Jones o Ddolgellau yw enillydd Prif Lenor Eisteddfod T, gyda darn o waith “llawn cariad a gwewyr” yn ôl y beirniad, Manon Steffan Ros.
Yn ferch fferm Fronalchen ar gyrion Dolgellau mynychodd Ysgol Ieuan Gwynedd, Rhydymain ac Ysgol y Gader, Dolgellau cyn symud ymlaen i’r chweched dosbarth yn Ysgol Bro Hyddgen, Machynlleth. Mae Mared ar fin cwblhau ei hail flwyddyn yn astudio Cymraeg ym Mhrifysgol ϲʹ.
Mae’n hen law ar ennill eisteddfodol – wedi ennill cadair Eisteddfod Ysgol y Gader ac wedi dod yn ail a thrydydd am gadair Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Meirionnydd. Mae’n chwarae rygbi, yn canu a pherfformio ac yn treulio’r cyfnod hwn yn helpu ar y fferm, yn darllen ac ymgymryd ag ambell brosiect ‘DIY’.
Datgelwyd mai Mared oedd yr enillydd mewn seremoni arbennig a ddarlledwyd yn fyw ar S4C a BBC Radio Cymru, gyda’r beirniad, Manon Steffan Ros, a'r tri chystadleuydd terfynol yn ymuno ar sgriniau o’u cartrefi. Daeth Osian Owen o'r Felinheli a raddiodd gyda gradd BA Cymraeg dosbarth-cyntaf o Fangor yn drydydd yn y gystadeuaeth.
Wrth gyhoeddi mai Mared oedd Prif Lenor Eisteddfod T, ac yn derbyn tlws wedi ei greu yn arbennig gan y cerflunydd Ann Catrin, roedd Manon Steffan Ros yn uchel ei chanmoliaeth: “Mae’r awdur yn gyffrous ac yn grefftus, gan ddefnyddio arddull lafar, naturiol a chynildeb clyfar i ddal sylw’r darllenydd. Mae’n plethu stori syml ond dirdynnol, ac yn creu darlun yn y meddwl sy’n gwbl real, yn gwbl glir, yn gwbl deimladwy ac yn llawn cariad a gwewyr.”
Mae’r Eisteddfod T arloesol, lle mai ar-lein mae’r holl gystadlu, ar y pedwerydd diwrnod o ddarlledu llwyddiannus. Bu’r ymateb gan y cyhoedd yn wych, gyda llawer yn datgan eu gwerthfawrogiad o fenter yr Urdd ar y cyfryngau cymdeithasol.