Gwybodaeth newydd am ymwrthedd i gyffuriau canser
Cyhoeddwyd ymchwil o labordy Dr Edgar Hartsuiker yn Sefydliad Ymchwil Canser y Gogledd Orllewin, yn Ysgol Gwyddorau Meddygol 香港六合彩挂牌资料, yn rhifyn diweddaraf (29 Mai) y cyfnodolyn uchel ei barch Science Advances.
Mae llawer o gyffuriau canser yn lladd celloedd canser trwy rwystro dyblygiad eu deunydd genetig, sef y DNA. Un o'r cyffuriau hyn yw Gemcitabine, a ddefnyddir i drin canser y pancreas, y bledren a'r ysgyfaint, ymhlith eraill. Mae Gemcitabine yn dynwared un o flociau adeiladu DNA, diocsisytidin niwcleosid, ac yn cystadlu ag ef i integreiddio i DNA celloedd canser. Ar 么l iddo integreiddio, mae'n rhwystro'r DNA rhag dyblygu ac mae hynny'n rhwystro'r gell ganser rhag rhannu.
Mae labordy Hartsuiker wedi dod o hyd i fecanwaith newydd i wrthsefyll Gemcitabine gan eu bod wedi darganfod bod protein o鈥檙 enw Mre11 yn gallu tynnu Gemcitabine o鈥檙 DNA, sy'n caniat谩u i ddyblygu barhau.
Meddai Dr Edgar Hartsuiker:
鈥淕an fod Mre11 yn mwtanu鈥檔 aml mewn celloedd canser, gellir manteisio ar y wybodaeth hon yn y dyfodol i drin canser gyda thriniaethau newydd a/neu ddatblygu cyffuriau canser newydd. Rydym eisoes wedi dechrau ar y broses o ddarganfod cyffuriau newydd, ac wedi nodi sawl cyfansoddyn sy'n rhwystro gweithgaredd Mre11."
Ariannwyd yr ymchwil hon gan Sefydliad Ymchwil Canser y Gogledd Orllewin, Cancer Research UK, yr elusen 8Q03 Cancer Research Fund, Rhwydwaith Gwyddorau Bywyd Cymru a rhodd o Gronfa Hannah Mary Michael.
Mae'r erthygl 鈥淢re11 exonuclease activity removes the chain-terminating nucleoside analog gemcitabine from the nascent strand during DNA replication鈥 ar gael yn .