Gwella gallu gofodol er mwyn helpu i gau'r bwlch rhwng y rhywiau mewn pynciau STEM
Prifysgol ϲʹ yn bartner mewn cyllid gan Horizon 2020 werth €4m
Bydd Prifysgol ϲʹ yn cyfrannu arbenigedd at broject Ewropeaidd newydd i wella galluoedd gofodol plant, gyda'r nod o helpu i gau'r bwlch rhwng y rhywiau ym maes gwyddoniaeth, peirianneg technoleg a mathemateg (STEM).
Mae disgyblion â lefelau uchel o allu gofodol yn llawer mwy tebygol o lwyddo mewn pynciau STEM, o fwynhau eu gwneud ac o'u dewis i'w hastudio ymhellach ac fel gyrfa o gymharu â disgyblion â gallu gofodol isel.
Dyfarnwyd €4.12M i'r project amlasiantaethol, Spatially Enhanced Learning Linked to STEM (SellSTEM) gan y Marie Skłodowska Curie Innovative Training Network o dan Horizon 2020, menter flaenllaw gan yr UE yn 2020 gyda'r nod o sicrhau cystadleurwydd Ewrop yn y byd. Caiff y project ei arwain gan y Technological University Dublin.
Mae'r bwlch mawr rhwng y rhywiau o blaid bechgyn mewn gallu gofodol yn golygu bod merched yn cael eu gorgynrychioli yn y grŵp gallu gofodol isel a'u bod dan fwy o anfantais ym maes dysgu STEM. Dros bedair blynedd bydd SellSTEM yn recriwtio ac yn hyfforddi 15 o fyfyrwyr PhD i ddatblygu dulliau arloesol ac ymarferol i wella gallu gofodol ymhlith pobl ifanc yn Ewrop, fel eu bod wedi eu paratoi'n well i ddysgu am bynciau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM).
Meddai Dr Gavin Duffy, TU Dulyn, am y project:
"Bydd SellSTEM yn datblygu dulliau i feithrin gallu gofodol ymhlith plant trwy ddysgu ar-lein, gweithgareddau cyffyrddol, gweithdy gofod gwneuthurwr, dysgu trwy brojectau, a bydd y rhain wedi eu hintegreiddio â'r cwricwlwm STEM. Byddant yn gweithio gydag athrawon ac addysgwyr athrawon i nodi rhwystrau a galluogwyr i ddatblygu gallu gofodol fel y gallant ddarparu atebion cynaliadwy yn y dosbarth i godi gallu gofodol plant uwchlaw'r lefelau presennol. Mae SellSTEM yn dod â syniadau newydd i'r gwaith o hyrwyddo addysg a gyrfaoedd ym maes STEM, yn cynnwys rhoi sylw i'r bwlch rhwng y rhywiau o ran cofrestru i astudio pynciau STEM, a thrwy hynny galluogi Ewrop i gyflawni ei hamcanion o ran twf a swyddi."
Thora Tenbrink, Athro Ieithyddiaeth yn yr Ysgol Ieithoedd, Llenyddiaethau ac Ieithyddiaeth yw'r gwyddonydd â gofal ar gyfer y consortiwm ym Mhrifysgol ϲʹ.
Meddai:
"Hon fydd yr astudiaeth ar raddfa fawr gyntaf yn Ewrop i bennu effaith gallu gofodol ar addysg a dewis gyrfa a sut mae hyn yn amrywio yn ôl oedran, rhyw a rhanbarth. Ym Mhrifysgol ϲʹ, byddwn yn astudio cyfraniad gallu gofodol at gynrychioliadau meddyliol o dasgau STEM, gan ddefnyddio dadansoddiad iaith i ymchwilio i'r ffyrdd penodol y mae gallu gofodol yn effeithio ar lwyddiant wrth wneud tasgau STEM.
“Er enghraifft, gallai plant â gallu gofodol isel ei chael yn anodd deall y cysyniad o gyfaint. Bydd y ffordd maent yn siarad am dasgau dysgu STEM yn cynnwys cyfaint yn adlewyrchu beth yn union yw'r anawsterau hyn a beth sy'n cael ei gamddeall. Mae gwybodaeth o'r fath yn dylanwadu ar gynllunio gweithgareddau yn y dosbarth i helpu plant oresgyn yr anawsterau hyn."
Dyma aelodau eraill y consortiwm: Technische Universiteit Delft, Norges Teknisk-Naturvitenskapelige Universitet – NTNU, Latvijas Universitāte, Universiteit Leiden, Paris-Lodron-Universität Salzburg – PLUS, Universität Regensburg, Universität Koblenz-Landau a'r Kungliga Tekniska Högskolan - KTH, Microsoft Ireland Operations, Stichting VHTO, SAP Service and Support Centre, Ionad Oideachais Mhuineacháin, De Galan School Voor Training, Science Hub TU Delft, Marino Institue of Technology a'r Stichting Waag Society.