Dathlu hanes Iddewig Llandudno
Mae map yn dathlu hanes Iddewig Llandudno wedi'i greu gan Nathan Abrams, sy’n Athro mewn Astudiaethau Ffilm ym Mhrifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ.Â
Mae'r map yn dathlu presenoldeb Iddewon yn Llandudno o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg hyd heddiw. Mae'n cyd-fynd â'r map cynharach o hanes Iddewig Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ (Walking Jewish History a gyllidwyd gan Gyfrif Cyflymydd Effaith y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol).
Cynhyrchwyd y map mewn cydweithrediad â Gareth Roberts o Broject Cerdded a Darganfod Menter Fachwen ac Amgueddfa Llandudno gyda chymorth Cronfa Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ. Mae Cronfa Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ, trwy roddion gan gyn-fyfyrwyr , yn rhoi grantiau sy’n cefnogi myfyrwyr a’r iaith a diwylliant Cymreig.
Mae trigolion lleol yn cael eu hannog i rannu eu hatgofion am Iddewon Llandudno, gan gynnwys yr unigolion a redai’r siopau adnabyddus, Wartski's, Blairman's a Gubbay's Oriental Stores.
Meddai'r Athro Abrams:
Mae gan Landudno a'r cyffiniau hanes Iddewig cyfoethog, Ond yn anffodus, wrth i'r gymuned ddirywio a diflannu, a'r trawsnewid a fu ar y stryd fawr, does dim llawer o bobl yn gwybod yr hanes. Mae yno o flaen ein llygaid ond er hynny mae dan gêl. Ac nid yn unig y mae'r map yn cofnodi'r hanes mae hefyd yn eich helpu chi i ddod o hyd i’r hanes hwnnw.
Symudodd Iddewon a oedd yn ffoi rhag erledigaeth yn nwyrain Ewrop - ac yn dymuno bywyd gwell ym Mhrydain - i Landudno ar ddiwedd y 19eg ganrif. Wrth i'r gymuned dyfu, agorwyd synagog a siop cigydd kosher hyd yn oed.
Cafwyd mewnlifiad pellach adeg yr Ail Ryfel Byd, yn faciwîs ac yn bobl yn ffoi rhag y Natsïaid.
Fe wnaethant integreiddio'n dda i fywyd lleol, gan ddysgu Cymraeg a chymryd rhan yn yr Eisteddfodau lleol.
Cawsant effaith drawsnewidiol ar y dref a chânt eu cofio hyd heddiw.
Mae taith gerdded ac arddangosfa yn yr arfaeth pan ellir cynnal digwyddiadau o'r fath yn ddiogel.
Mae'r Athro Abrams a Gareth Roberts bellach yn gweithio ar arddangosfa am hanes Iddewig Ynys Môn a ariennir gan y Jewish Historical Society of England.Â
Mae'r Athro Abrams yn gobeithio y gellir cyflwyno'r fenter archifol hon mewn ardaloedd eraill lle bu Iddewon yn byw yng Ngogledd Cymru, sef Bae Colwyn, y Rhyl a Wrecsam. Ond byddai angen cyllid pellach i wneud hynny.
Os hoffai unrhyw un gael copi am ddim o'r mapiau, cysylltwch â'r Athro Abrams. n.abrams@bangor.ac.uk