Arolwg rhyngwladol mawr ar brofiadau gofalwyr anffurfiol
Gyda hyd at 13.6 miliwn neu un o bob pedwar o bobl yn y DU yn rhoi rhywfaint o ofal anffurfiol ers dechrau'r pandemig Coronafeirws yn 么l Carers UK, ac ystadegau sy'n awgrymu bod cymaint ag un o bob tri yn Ewrop yn rhoi gofal anffurfiol, mae'n bwysicach nag erioed i ni wybod sut i gefnogi'r gofalwyr hanfodol, gwirfoddol hyn yn ein cymunedau, sy'n aml heb unrhyw gefnogaeth o gwbl.
Amcangyfrifir y byddai'r gefnogaeth a roddir i berthynas neu ffrind sy'n h欧n, yn anabl neu'n ddifrifol wael, yn costio 拢132 biliwn y flwyddyn i'r wlad, neu gymaint ag 'ail GIG', pe bai'n cael ei ddarparu trwy ofal iechyd cyhoeddus neu breifat.
Mae ymchwilwyr yn Ysgol Seicoleg Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 yn arwain pecyn gwaith o fewn project ymchwil ac arloesi cydweithredol mwy, sef project Horizon 2020 yr Undeb Ewropeaidd (ENTWINE). Mae'r project hwn, sy'n cynnwys ymchwilwyr blaenllaw ym maes iechyd yn yr Iseldiroedd, yr Eidal, Sweden ac Israel, yn casglu data rhyngwladol ar brofiadau cadarnhaol a negyddol y rhai sy'n rhoi gofal a'r rhai sy'n derbyn gofal, ac ar y math o ffactorau personol a chymdeithasol sy'n dylanwadu ar eu profiad.
Caiff y wybodaeth a ddaw o hyn ei defnyddio mewn pecynnau gwaith eraill a fydd yn datblygu ac yn mesur effeithiolrwydd gwahanol lefelau a mathau o gefnogaeth arloesol i ofalwyr.
I gymryd rhan, gall pobl lenwi arolwg ar-lein a gallant hefyd ddarparu gwybodaeth fanylach trwy ddyddiadur wythnosol os ydynt yn dewis gwneud hynny. Gweler https://www.entwine-icohort.eu/ am ragor o wybodaeth ac i gymryd rhan.
Meddai Val Morrison, Athro Seicoleg Iechyd ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料, sy'n arwain pecyn gwaith ENTWINE:
听
鈥淓r bod datblygiadau meddygol ac iechyd yn golygu bod disgwyliad oes pawb wedi ymestyn, mae hyn yn golygu hefyd bod llawer o bobl yn byw gyda salwch cronig neu eiddilwch, a bod ganddynt anghenion gofal na all iechyd a gofal cymdeithasol eu diwallu bob amser. Yn gyffredinol, caiff y bwlch hwnnw yn y ddarpariaeth ei lenwi gan ffrindiau a theulu, a ddisgrifir yn aml fel gofalwyr anffurfiol neu ddi-d芒l.
Pa ddisgwyliadau y mae cymdeithas yn eu gosod ar aelodau'r teulu i ddarparu gofal a beth yw profiad y rhai a g芒nt eu rhoi yn y sefyllfa honno o ddisgwyliadau o'r fath? A oes amrywiadau yn y disgwyliadau hyn ledled Ewrop? A yw gofalwyr yn wahanol o ran eu parodrwydd a'u gallu i ofalu ac os felly, ym mha ffordd? A yw hyn yn effeithio ar eu profiad hwy, a phrofiad y sawl sy'n derbyn gofal mewn ffordd negyddol neu gadarnhaol? Dim ond trwy arolygon cymharol rhyngwladol o'r fath y gallwn ddechrau cael syniad o anghenion rhoddwyr gofal ac yna targedu dulliau cefnogi yn well."
Miko艂aj Zarzycki, a ddewiswyd o Wlad Pwyl ar gyfer y t卯m ymchwil rhyngwladol, sy'n gwneud yr ymchwil yn Ysgol Seicoleg Prifysgol 香港六合彩挂牌资料. Meddai:
鈥淢ae'n debyg ein bod ni i gyd yn adnabod rhywun sy'n rhoi gofal anffurfiol, er efallai nad ydynt yn diffinio eu hunain fel gofalwyr, maent yn darparu'r gefnogaeth sydd ei hangen ar aelod o'u teulu oherwydd afiechyd neu oedran. Ond mae rhoi gofal i rywun yn aml yn anodd, ac mae'r bobl hyn yn haeddu cael cefnogaeth sy'n addas i'w hanghenion, yn enwedig ar hyn o bryd. Yn yr un modd, mae derbyn gofal yn gallu cynnwys heriau yn ogystal 芒 manteision a dyna pam rydym yn gobeithio dysgu mwy am brofiad unigol rhoi a derbyn gofal a sut gallai hynny newid yn 么l pwy ydych chi, neu ble rydych chi'n byw neu amryw o ffactorau eraill.鈥
Dywedodd Mikolaj Zarzycki hefyd:
鈥淢ae鈥檔 fraint cael bod yn rhan o鈥檙 rhwydwaith ENTWINE sydd wedi fy ngalluogi i ddod i Brifysgol 香港六合彩挂牌资料 a gweithio mewn t卯m rhyngwladol gydag ymchwilwyr enwog ac astudio am ddoethuriaeth ar bwnc sydd mor bwysig yn gymdeithasol 芒 gofal anffurfiol.鈥