Tywysogion, pererinion a chaethwasiaeth - mapio plasdai gogledd ddwyrain Cymru
Mae plasty yn Sir y Fflint o'r 16eg ganrif sy'n eiddo i un o ddisgynyddion tywysogion Cymru ac a oedd unwaith yn westy rhad i bererinion yn y Canol Oesoedd, bellach yn rhan o broject arloesol gwerth 拢250,000 i olrhain dros 400 mlynedd o hanes gogledd ddwyrain Cymru.
Mae t卯m dan arweiniad arbenigwyr o Brifysgol 香港六合彩挂牌资料 yn bwriadu olrhain datblygiad pedwar plwyf ar ffiniau Sir y Fflint, Wrecsam a Sir Ddinbych trwy edrych ar blastai ac ystadau hanesyddol tirfeddianwyr yr ardal.
Dyma fydd y tro cyntaf i unrhyw ran o'r DU gael ei harchwilio mewn modd mor fanwl gyda'r nod o gynhyrchu map ar-lein arbennig gyda haenau o wybodaeth hanesyddol i ddangos nid yn unig hanes y bobl ond hefyd y dirwedd rhwng 1500 a 1930 wrth i'r tai roeddent yn byw ynddynt a'r ffordd yr oeddent yn ffermio ac yn gweithio newid y tir.
Mae Neuadd Pentrehobyn, ar gyrion yr Wyddgrug, a adeiladwyd ym 1550 gan deulu Lloyd, yn un o nifer o blastai gwledig yn yr ardal sydd 芒 hanes yn mynd yn 么l canrifoedd. Cafodd ei adeiladu gydag arian yn deillio o byllau glo a mwynfeydd plwm, caethwasiaeth, y fasnach frethyn a lledr ac amaethyddiaeth.
Arweinir y project gan Dr Shaun Evans, o Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料, gyda Dr Julie Mathias o Brifysgol Aberystwyth a Scott Lloyd a Jon Dollery o Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru.
Bydd yn canolbwyntio ar bedwar plwyf hynafol lle mae Sir y Fflint, Wrecsam a Sir Ddinbych yn cwrdd, yr Wyddgrug, Llanferres, Llandegla a Llanarmon yn I芒l, ardal sy'n cynnwys nifer fawr o blastai.
Meddai Dr Evans, Cyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru: 鈥淢ae gan yr ardal hon nifer anhygoel o鈥檙 ystadau hyn, rhai cymharol fach ond hirsefydlog, fel Bodidris, Colomendy, Gelligynan, Gwysaney, Hartsheath, Leeswood, Nercwys, Rhual, Pentrehobyn, Plas Onn, Plas Teg a Tower.
鈥淢ae yna lawer iawn o ddeunydd archif yn deillio o鈥檙 ystadau hyn, mae llawer ohono yn Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru ym Mhenarl芒g a Rhuthun ac yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth.
鈥淢ae pobl yn cymryd bod yr ystadau bach hyn yn gyfyngedig o ran eu pwysigrwydd - eu bod yn blastai cymharol fach gydag ychydig o barcdir a gerddi, ond cawsant ddylanwad enfawr ar y byd ehangach lle roedd pobl gyffredin yn byw ac yn gweithio.
鈥淢ae gennym ddiddordeb mawr yn y modd y dylanwadodd y lleoedd hyn ar adeiladau a thirwedd yr ardal drwy鈥檙 mathau o ffermio a diwydiant oedd yn digwydd yno.
鈥淕wnaeth teulu Grosvenor, sef Dugiaid San Steffan yn ddiweddarach, lawer o鈥檜 harian trwy fwyngloddio plwm yn Sir y Fflint tra enillodd eraill eu harian mewn rhannau eraill o'r byd a dod 芒 dylanwadau eraill yn 么l gyda hwy.
鈥淩ydym yn ceisiau cyfleu'r pwyntiau pwysig ar ffurf map sy'n olrhain datblygiad tirweddau ac adeiladau dros 430 mlynedd, o'r cyfnod canoloesol hwyr hyd at ddechrau'r oes fodern ar ddechrau'r 20fedganrif. 鈥
Yn Neuadd Pentrehobyn, gall Teddy Clarke olrhain ei achau yn 么l i deulu Lloyd a adeiladodd y plasty tywodfaen ym 1550 ac a oedd yn arddel perthynas 芒'r enwog Edwin ap Gronwy, Arglwydd neu Frenin Tegeingl, sy'n cynnwys llawer o Sir y Fflint heddiw, yn yr 11egganrif.
Mae'r plasty'n cynnwys y neuadd fawr wreiddiol gyda'r palis derw gwreiddiol gydag 么l offer y seiri coed yn dal yn glir ar y pren er bod estyniadau a lloriau uwch wedi eu hychwanegu'n ddiweddarach.
Meddai: 鈥淢ae'n debyg bod y teulu wedi gwneud eu harian trwy fwyngloddio plwm yn yr ardal hon ond y prif ffynhonnell arian erbyn hyn yw gosod y tir a'r bythynnod a chodi t芒l am ddefnyddio'r lle fel lleoliad ar gyfer priodasau.
鈥淎deiladodd un o berchnogion cynnar y t欧 nifer o l锚tau, ystafelloedd bach lle gallai pererinion ar y ffordd i Ffynnon Gwenfrwi yn Nhreffynnon aros dros nos.
鈥淩oedd y briffordd o Wrecsam i鈥檙 Wyddgrug, a oedd yn llwybr pererinion, yn mynd heibio i鈥檙 drws ffrynt yr adeg honno.
鈥淢ae yna chwedl hefyd bod mynach wedi syrthio i gysgu yma ger y ffordd at y plasty ac wedi deffro 100 mlynedd yn ddiweddarach, fel rhyw fath o Rip Van Winkle o Gymru.鈥
Ceir portreadau o'r teulu ar y waliau ac yn eu plith mae un o Trevor Lloyd, sy鈥檔 enwog am ail-godi Colofn Eliseg ger Llangollen, tra bod perchennog diweddarach y t欧, Pennant Lloyd, yn asiant i ystad enfawr Penrhyn ym Mangor a Bethesda, perchnogion y chwareli llechi yno a wnaeth eu ffortiwn cyntaf o lafur caethweision ar blanhigfeydd siwgr yn Jamaica.
Bu鈥檔 rhaid i Lloyd drafod ar eu rhan gyda'r chwarelwyr oedd ar streic ar ddiwedd y 19egganrif ond pan ymddeolodd i Neuadd Pentrehobyn, trodd ei gefn ar y Toriaid a daeth yn gefnogwr brwd i brif elynion gwleidyddol teulu Pennant, sef y Rhyddfrydwyr.
Nod ymchwil y project yw creu system wybodaeth ddaearyddol (GIS) ar-lein y gellir ei digideiddio a mapio cofnodion hanesyddol yn uniongyrchol ar y lleoliad sy'n gysylltiedig 芒 hwy.
Y cynnyrch terfynol fydd map manwl yn ymgorffori'r holl gofnodion hyn ac yn galluogi i wybodaeth o wahanol archifau gael ei gweld ar unwaith ac ar yr un pryd.
Meddai Scott Lloyd o Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru: 鈥淏yddwn yn mynd yn 么l trwy fapiau鈥檙 Arolwg Ordnans a mapiau鈥檙 degwm a mapiau'r clostiroedd hyd at 1800 a chyn hynny i fapiau ystadau unigol hyd at tua 1600.
鈥淏yddwn yn eu digideiddio ac yn eu geo-gyfeirio a gallwn hefyd atodi dogfennau atynt fel y gallwch glicio ar blasty ar y map a chael gwybodaeth amdano neu hyd yn oed wybodaeth am gae unigol a gweld cofnod o'r defnydd tir.鈥
Meddai Dr Evans: 鈥淲rth glicio ar y botwm, bydd yn bosibl i chi weld a symud trwy hanes llawn o'r dirwedd a'i nodweddion unigol, cam wrth gam trwy haenau cofnodion o bob rhan o'r cyfnod ar 么l y canol oesoedd.
鈥淒yna pam rydym wedi dewis yr ardal hon, oherwydd mae ganddi lawer o ystadau ac mae llawer o wybodaeth amdanynt, ac mae rhywfaint o'r wybodaeth yn mynd yn 么l i'r 14egganrif, ac mae gwneud hyn gyda'r lefel hon o fanylion yn newydd a bydd yn dempled ar gyfer ymarferion tebyg yng Nghymru a thu hwnt.
鈥淢ae'n ddiddorol iawn oherwydd bod cymysgedd o blastai, amaethyddiaeth, diwydiant, coetir ac ucheldir yn yr ardal a bydd y map yn dangos y newidiadau mewn cymdeithas dros y cyfnod hwn trwy brofiad pobl y cyfnod.鈥
Am ragor o wybodaeth am Brifysgol 香港六合彩挂牌资料 ewch i /