Mae'r rhan fwyaf o bobl sy'n byw gyda dementia yn cael cefnogaeth ac yn derbyn gofal gan aelodau'r teulu. Mae'r rhan fwyaf o bobl sy'n byw gyda dementia yn derbyn gofal gartref, a gall y gwaith achosi straen mawr, gyda llawer o ofalwyr yn profi salwch meddyliol a chorfforol o ganlyniad.
Yn aml mae gan y 'gofalwyr anffurfiol' hyn wybodaeth arbenigol gyfyngedig am dementia a gofal dementia, heb s么n am sut y maent yn gallu rheoli eu straen eu hunain fel gofalwyr. Mae Covid-19 wedi golygu bod llawer o wasanaethau cefnogi cymunedol i bobl sy'n byw gyda dementia wedi'u canslo, gan roi pwysau cynyddol ar ofalwyr.
Bwriad 'iSupport' yw helpu gofalwyr dementia i ddarparu gofal da ac i ofalu am eu hunain. 听Gall gofalwyr ddefnyddio iSupport wrth eu pwysau. Gallant fynd at unrhyw rannau o iSupport maent yn teimlo sydd fwyaf perthnasol iddyn nhw o'r lle o'u dewis gan ddefnyddio cyfrifiadur, tabled neu ff么n clyfar.
Fel yr eglurodd yr Athro Gill Windle, sy'n arwain y t卯m ymchwil rhyngwladol o'r Ysgol Gwyddorau Iechyd, Prifysgol 香港六合彩挂牌资料:
鈥淧ryd bynnag y cyflwynir gwasanaethau neu weithdrefnau meddygol newydd, mae angen eu hasesu i sicrhau eu heffeithlonrwydd a鈥檜 heffeithiolrwydd. 听Mae canllawiau'r GIG yn argymell y dylid cynnig hyfforddiant 听i ofalwyr anffurfiol pobl sy'n byw gyda dementia fel teulu a ffrindiau i'w helpu i ddatblygu sgiliau gofalu a sgiliau i reoli eu hiechyd corfforol a meddyliol eu hunain. 听Credwn y bydd iSupport yn ateb da. Cyn unrhyw gyflwyniad, mae angen i ni gynnal gwerthusiad llawn o'r costau a'r buddion, gan ystyried pa mor effeithiol yw'r cwrs ar-lein wrth leihau trallod, a pha agwedd ar y cwrs y mae gofalwyr yn ei hoffi."听
Dywedodd Faaiza Bashir, Rheolwr Ymchwil Polisi ac Ymgysylltu ar gyfer Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru:
鈥淢ae gofalwyr di-d芒l yn rhoi cefnogaeth ymarferol ac emosiynol hanfodol i filoedd o bobl ledled Cymru bob dydd. Heb ofalwyr di-d芒l, byddai'r system iechyd a gofal cymdeithasol yn anghynaladwy a byddai hyd yn oed mwy o bobl yn cael eu gadael yn methu ag ymdopi. Mae'r cyfraniad y mae gofalwyr di-d芒l yn ei wneud nid yn unig yn newid bywydau ond yn arbed mwy na 拢8.1bn y flwyddyn i economi Cymru. Er gwaethaf hyn, yn aml nid ydyn nhw'n cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw na'r gydnabyddiaeth maen nhw'n ei haeddu.鈥
鈥淢ae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru yn falch iawn o gydweithio 芒 Phrifysgol 香港六合彩挂牌资料 i sicrhau bod gofalwyr pobl 芒 dementia ledled y DU yn gallu ennill sgiliau a hyder fel gofalwyr trwy'r project hwn a mynediad at wybodaeth ac offer i'w helpu i gynnal eu hiechyd a'u lles eu hunain.鈥
Mae gofalwyr ifanc 11-17 oed yn ganolbwynt arall i'r gwaith. Dywedodd Dr. Patricia Mastersen-Algar sy'n arwain yr agwedd hon ar yr astudiaeth:
鈥淎r hyn o bryd nid oes ymyriadau cefnogi ar sail tystiolaeth ar gyfer pobl ifanc sy'n gofalu am bobl 芒 dementia. Felly bydd y t卯m yn gweithio gyda gr诺p o ofalwyr ifanc ac yn addasu iSupport iddyn nhw ei ddefnyddio. Rydym eisiau nodi pa ganlyniadau sydd bwysicaf iddyn nhw, ac asesu'r fersiwn newydd hon o iSupport gyda 30 o ofalwyr ifanc."
Cynhelir yr ymchwil gan Brifysgol 香港六合彩挂牌资料, Coleg Prifysgol Llundain a Phrifysgol Strathclyde, gyda Sefydliad Iechyd y Byd, Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, Alzheimer's Scotland, Vrije Universiteit Amsterdam, a gyda chymorth 365 o ofalwyr dementia o bob rhan o Gymru, Lloegr a'r Alban.听
Bydd pedair swydd newydd yn cael eu creu, ac mae'r t卯m ar hyn o bryd yn recriwtio ar gyfer rheolwr fydd 芒 chyfrifoldebau dros sefydlu, cydgysylltu a chyflawni'r astudiaeth iSupport. Rhagor o wybodaeth .
听