Bydd disgyblion Blynyddoedd 6 a 7 yn dilyn cyfres o weithgareddau creadigol digidol eleni, ac un ohonynt y cael ei harwain gan y bardd a’r awdur Anni Llŷn, wrth iddi ymgolli mewn geiriau Cymraeg yn y Brifysgol.
Bydd y diwrnod o ddarllediadau Cymraeg Taith y Sgriblwyr yn rhad ac am ddim ac ar gael o ddydd Iau 26 Tachwedd, yn gwahodd disgyblion i ddefnyddio’r Gymraeg yn greadigol.
Hefyd yn cyfrannu at thema’r “yr amgylchedd naturiol” bydd y bardd Aneirin Karadog, sydd yn arwain taith farddonol o “dref lyfrau” y Gelli, a’r awdur Mererid Hopwood yn archwilio crefft gwrando ym Mae Ceredigion a’r Hen Goleg ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Cyflwynir y sesiynau gan y darlledwr Ameer Rhys Davies-Rana, a gellir eu ffrydio’n fyw neu eu hailwylio yn hayfestival.org/scribblers, lle y bydd disgyblion ac athrawon yn gallu dod o hyd i ddeunyddiau ategol ychwanegol hefyd.
Nod Taith y Sgriblwyr Gŵyl y Gelli yw ennyn diddordeb y genhedlaeth nesaf a’u hannog i adrodd straeon a sgwrsio, gan ysbrydoli empathi a chreadigrwydd. Mae’r daith, sydd bellach yn ei degfed flwyddyn, hefyd yn rhoi cyfle i ddisgyblion ymgysylltu â’u prifysgol agosaf a chael blas ar fywyd ar y campws.
Dywedodd Carys Roberts, Cyfarwyddwr Recriwtio a Marchnata'r DU ym Mhrifysgol ϲʹ:
“Roedd yn wych cynnal y Digwyddiad Scribblers y llynedd a gweld cymaint o bobl ifanc yn dod i Brifysgol ϲʹ i brofi ymwneud â geiriau a chreadigrwydd. Roeddem yn falch iawn o helpu eto eleni a dymunwn bob llwyddiant i'r fenter, a'r rhai sy'n cymryd rhan."
Dywedodd Aine Venables, rheolwr addysg Gŵyl y Gelli: “Fis Mai diwethaf, ymunodd hanner miliwn o bobl â ni ar-lein i gyfarfod â’u hoff awduron a thrafod pynciau llosg y dydd. Nawr, rydym ni’n dod â’r profiad hwnnw i bobl ifanc ledled Cymru trwy wahoddiad i fod yn greadigol. Yn ystod y diwrnod gŵyl rhad ac am ddim hwn, byddwn yn cychwyn ar daith greadigol gyda’n gilydd i rannu straeon, datblygu deialog a dathlu grym ysgrifennu a darllen er pleser, oll trwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym eisiau dechrau sgyrsiau gyda phobl ifanc, clywed eu lleisiau ac ysbrydoli eu hunaniaeth greadigol.”
Ariennir Taith y Sgriblwyr Gŵyl y Gelli gan Lywodraeth Cymru ac mae’n rhan o waith allgymorth ac addysg ehangach Sefydliad Gŵyl y Gelli sy’n cynnwys y Rhaglen i Ysgolion rhad ac am ddim, Academi’r Gelli, Cwmpawd y Gelli, Prosiect y Bannau, rhaglenni cyfnewid ysgolion, a’r gyfres Lefelau’r Gelli o fideos addysgol rhad ac am ddim.
Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams: “Rwy’n falch ein bod yn gallu cefnogi Taith y Sgriblwyr Gŵyl y Gelli wrth iddi fynd yn ddigidol eleni. Yn yr un modd â chynifer o ddigwyddiadau eraill eleni, mae’n wych eu gweld nhw’n addasu yn y cyfnod digynsail hwn. Mae Taith y Sgriblwyr Gŵyl y Gelli yn gyfle gwych i ddysgwyr hogi eu sgiliau ysgrifennu creadigol, gan eu hannog i ymgysylltu â phobl ifanc eraill ac ennill sgiliau gwerthfawr a fydd yn ffurfio eu dawn i adrodd straeon yn greadigol.”
Taith Ddigidol y Sgriblwyr Gŵyl Y Gelli yn dod o Fangor
Mae Prifysgol ϲʹ yn falch o’r cyfle i gefnogi a chymryd rhan mewn Taith y Sgriblwyr Gŵyl y Gelli eto eleni.