Galwad i wella gofal brys i'r gymuned Fyddar yng Nghymru
Mae arbenigwyr yng Nghymru ac Awstria yn galw am well mynediad i wasanaethau iechyd a brys i bobl Fyddar.
Mae'r gwasanaethau brys iechyd yn elfen hanfodol o unrhyw system gofal iechyd, a dylent fod ar gael ac yn hygyrch i bawb.
Mewn argyfwng, mae pobl Fyddar y mae Iaith Arwyddion Prydain (BSL) yn iaith gyntaf iddynt, yn aml yn cael eu hunain yn methu 芒 chyfathrebu'n iawn, naill ai wyneb yn wyneb neu trwy'r system negeseuon testun 999. Mae hyn yn rhoi eu hiechyd mewn perygl, ac yn peryglu eu gallu i ddod drwyddi.
Mae adolygiad diweddar a gynhaliwyd ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru gan ieithyddion ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料 a Phrifysgol Graz, Awstria, ac a gyhoeddwyd yn , yn tynnu sylw at sut a pham mae'r gymuned Fyddar yn cael eu gadael i lawr.
Er nad oes unrhyw ffigurau cyfrifiad swyddogol yn bodoli, amcangyfrifir bod rhwng 1,000 a 4,000 o bobl Fyddar yn byw yng Nghymru yn 么l (BDA, 2019; Sign Health, Action on Hearing Loss, 2020)
Fe wnaeth arbenigwyr ieithyddiaeth Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 Dr Christopher Shank a Dr Anouschka Foltz (sydd bellach ym Mhrifysgol Graz, Awstria) geisio profiadau a barn aelodau o gymuned bobl Fyddar Cymru sy鈥檔 defnyddio Iaith Arwyddion Prydain.
Gan ymateb i'w canfyddiadau, maent yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu鈥檔 sylweddol nifer y dehonglwyr BSL i fod ar gael ym maes gofal iechyd, ac yn enwedig mewn gosodiadau brys.聽
Maent yn awgrymu y dylid edrych ar wella mynediad at wasanaethau o safbwynt yr arbedion posibl y byddai gwella mynediad at ofal iechyd yn eu cynnig, a chael gwared ar anghydraddoldebau.
鈥淢ae'r diffyg dehonglwyr sydd ar gael ar gyfer apwyntiadau iechyd yn aml yn arwain at aelodau o'r gymuned Fyddar yn profi canlyniadau iechyd gwaeth na phobl eraill, a gall hyn arwain at fwy o argyfyngau iechyd.
Esboniodd Michelle Fowler-Powe, Cydlynydd Mynediad a Chynhwysiant (Eiriolaeth), Datblygu Cymunedol, Cymdeithas y Byddar Prydain:
聽 聽聽
鈥淓r mai hi yw unig iaith llawer yn y gymuned Fyddar yng Nghymru, nid oes gan BSL statws cyfreithiol fel iaith. Disgrifir BSL fel cefnogaeth 芒 chyfathrebu yng Nghanllawiau GIG Cymru, tra dylai mewn gwirionedd dderbyn yr un statws 芒'r Gymraeg fel 'elfen graidd gofal, nid ychwanegiad dewisol'."
Esboniodd Dr Christopher Shank:
鈥淢ae ein hadroddiad yn tynnu sylw at sut y gofynnir dro ar 么l tro i bobl Fyddar mewn sefyllfa ddifrifol, megis defnyddio system destun 999, anfon neges destun neu gyfleu disgrifiadau meddygol manwl yn Saesneg, sy鈥檔 aml yn iaith anghyfarwydd iddynt. Yn aml gofynnir iddynt fod yn fanwl gywir neu ddefnyddio geirfa nad oes ganddynt."聽
Ychwanegodd Dr Anouschka Foltz:聽
鈥淢ae cleifion byddar yn dod ar draws rhwystrau dro ar 么l tro wrth gael mynediad at ofal iechyd. Mae鈥檙 ffaith eu bod yn blino ac yn cael llond bol ar y rhwystrau sy'n deillio o hyn yn gallu arwain at ddisgwyliadau isel a phryder wrth orfod meddwl am gysylltu 芒'r gwasanaeth. Ni fyddai'r rhwystrau hynny'n bodoli pe bai'r holl wasanaethau gofal iechyd yn cael eu darparu yn BSL naill ai trwy ddehonglwr neu staff sy鈥檔 gallu arwyddo."聽
Dywedodd Louise McGrath o鈥檙 Wales Council for Deaf People:
鈥淵n gyffredinol, mae safon y gofal a dderbynnir gan bobl Fyddar sy'n defnyddio Iaith arwyddion fel eu hiaith gyntaf yn cael ei effeithio'n fawr oherwydd bod hyn yn cael ei ystyried fel angen meddygol. Nid dyma ydyw o gwbl. Mae'n hawl iaith ddiwylliannol ac ieithyddol, heb s么n am hawl ddynol i gyfathrebu yn BSL.聽
Hyd nes bod gan BSL hawliau cyfartal, fel sydd gan y Gymraeg yma yng Nghymru, rydym yn ofni y bydd newidiadau yn araf. Cydnabuwyd BSL fel iaith ar 18 Mawrth 2003 gan lywodraeth y Deyrnas Unedig, fodd bynnag, dros 17 mlynedd yn ddiweddarach, nid oes ganddi unrhyw amddiffyniad cyfreithiol o hyd. Rydyn ni'n teimlo pe bai hyn yn digwydd, yna gellir cymryd camau ac ni fydd pobl yn cael eu gwthio i'r cyrion lle mae eu hiechyd dan sylw, a byddent yn gallu cael statws cyfartal i'w gofal eu hunain."