Gall llanw gwan fod wedi cyfrannu at y Ddaear gaseg eira
Roedd y llanw 715-630 miliwn o flynyddoedd yn 么l yn wan iawn ac wedi cyfrannu at yr oesoedd i芒 hir iawn a allai fod wedi dal y Ddaear yn y cyflwr a elwir yn 鈥済aseg eira鈥, yn 么l papur a gyhoeddwyd heddiw yn Nature Communication.
Yr astudiaeth hon sy'n cynnwys gwyddonydd o Brifysgol 香港六合彩挂牌资料 (DU), Prifysgol Lisbon (Portiwgal), a Phrifysgol Talaith Oregon a Phrifysgol Gogledd-orllewinol (UDA), yw'r cyntaf i archwilio manylion llanw'r cefnfor, 715-635 miliwn o flynyddoedd yn 么l, ar adeg 聽pan allai'r Ddaear fod wedi bod yn gartref i rewlifoedd 聽bron yn fyd-eang am gyfnodau hir a barhaodd filiynau o flynyddoedd.聽
Trwy ail-greu sut roedd 聽y Ddaear yn edrych ar y pryd mewn model llanw rhifiadol, dangosodd y t卯m fod y llanw fel rheol yn wan yn ystod yr oesoedd 聽i芒 - dim ond 10-20% o gryfder y llanw heddiw. Ond pan oedd y Ddaear yn rhydd o rew, roedd y llanw tua hanner mor egn茂ol ag y mae ar y Ddaear heddiw.
Eglurodd Dr Mattias Green o Ysgol Gwyddorau'r Eigion Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 ac un o awduron y papur:
鈥淢ae'r egni sy'n cael ei bwmpio i'r cefnfor gan y llanw yn un o brif ysgogiadau prosesau eraill y Ddaear, yn cynnwys rhannau o gylchrediad y cefnfor yn rheoleiddio'r hinsawdd ac fel ffordd o doddi ochr isaf i芒 sy'n arnofio. Felly gallai diffyg ynni'r llanw fod wedi bod yn un broses a arweiniodd at y rhewlifoedd yn para am gyfnodau hir iawn.聽
鈥淢ae鈥檙 ymchwil yn ymestyn ein dealltwriaeth o鈥檙 llanw, gan roi鈥檙 amcangyfrif penodol cyntaf o egni'r llanw yn ystod y cyfnod. Mae鈥檙 t卯m wedi agor drysau i wneud rhagor o ymchwil i gyfnod gwahanol iawn yn hanes y Ddaear.鈥澛