Mae astudiaeth o gobraod poerllyd, a gyhoeddwyd yn Science (22 Ionawr 2021 doi 10.1126/science.abb9303) yn datgelu sut mae cyfuniad o elfennau gwenwyn wedi esblygu i greu gwenwyn sy鈥檔 boenus ar unwaith ar dri achlysur gwahanol.听
Dyma'r enghraifft glir gyntaf o wenwyn neidr yn esblygu at ddiben amddiffyn, ac mae'n enghraifft ryfeddol o esblygiad cydgyfeiriol, neu sut gall detholiad naturiol beri i'r un ateb i broblem esblygu sawl gwaith.听
Yn wahanol i'r theori bod gwenwyn yn addasu'n bennaf i alluogi nadroedd i ladd eu hysglyfaeth, yn achos cobraod poerllyd, mae gwenwyn sy'n achosi poen ar unwaith, a system sy'n galluogi'r neidr i chwistrellu'r gwenwyn i bellter o hyd at 2.5 metr tuag at lygaid unrhyw beth sy'n dod yn rhy agos, yn awgrymu mecanwaith amddiffyn, yn hytrach nag arf hela.听
Meddai Dr Wolfgang W眉ster, Ysgol Gwyddorau Naturiol Prifysgol 香港六合彩挂牌资料, cyd-ymchwilydd ar y project ymchwil rhyngwladol hwn 听a arweinwyd gan听Dr. Taline Kazandjian a'r Athro听Nick Casewell yn y听Liverpool School of Tropical Medicine,:
鈥淒yma ddarn cryf arall o dystiolaeth i ddangos bod heriau esblygiadol tebyg yn aml yn cynhyrchu鈥檙 un atebion. Er ein bod wedi astudio tri gr诺p gwahanol o gobraod, a esblygodd mewn gwahanol leoliadau ac ar wahanol gyfnodau esblygiadol, esblygodd pob un yr un mecanweithiau amddiffynnol yn wyneb bygythiad.
Mae gan bob cobra elfennau yn eu gwenwyn sy'n achosi dinistr i feinwe, o'r enw cytotocsinau. Ond yn achos cobraod poerllyd, mae ychwanegu gr诺p arall o docsinau, sef ffosffolipasau A2, wedi creu effaith synergaidd, gan gynhyrchu gwenwyn sy鈥檔 achosi poen ar unwaith, a all atal ymosodwr yn gyflym a hyd yn oed eu dallu.
Mae deall i ba raddau y mae esblygiad yn anrhagweladwy, bron ar hap, neu'n rhagweladwy, yn un o gwestiynau mawr bioleg. Dyma enghraifft ryfeddol o鈥檙 un broblem yn arwain at yr un ateb yn esblygu sawl gwaith - hynny yw, esblygiad rhagweladwy
听
Cobraod poerllyd
A yw'n bosib bod bodau dynol wedi chwarae rhan?
Yn ddiddorol iawn, trwy weithio'n 么l trwy linachau esblygiadol, canfu'r t卯m hefyd fod y newidiadau wedi digwydd yn y tri lleoliad daearyddol gwahanol tua'r un amser ag yr ymddangosodd bodau dynol cynnar yng nghofnod ffosiliau yr ardaloedd hynny.
Meddai Dr W眉ster hefyd: 鈥淢ae llawer o brimatiaid yn ymosod ar nadroedd gyda ffyn a cherrig. Efallai mai dyfodiad primatiaid gyda dwy goes a dwy law yn rhydd i wneud drygioni oedd y math o bwysau ar ddetholiad a arweiniodd at esblygiad yn ngallu鈥檙 cobraod i amddiffyn eu hunain o bell trwy boeri a gwenwyn amddiffynnol a addaswyd yn arbennig.听
Mae鈥檙 syniad y gallai bodau dynol cynnar, filiynau o flynyddoedd yn 么l, fod wedi achosi esblygiad cobraod poerllyd yn pwysleisio sut roedd ein gwreiddiau ynghlwm wrth ecosystemau ehangach Affrica ac Asia ar y pryd.鈥
Cafodd myfyrwyr MSc Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 sy'n astudio ar yr unig gwrs s诺oleg 芒 herpetoleg yn y Deyrnas Unedig gyfle i gyfrannu at y project ymchwil rhyngwladol hwn. Roedd y myfyrwyr yn gyfrifol am gynhyrchu dilyniannau DNA i gynhyrchu ffylogenedd, neu goeden deulu esblygiadol, cobraod, a ganiataodd i'r astudiaeth olrhain esblygiad addasiadau gwenwyn.
听鈥淐yfeirir yn aml at Brifysgol 香港六合彩挂牌资料 fel prifddinas herpetolegol y Deyrnas Unedig a hi oedd yr unig sefydliad yn y Deyrnas Unedig a oedd yn cynnig cwrs herpetoleg penodol. Mae ganddi d卯m o herpetolegwyr byd-enwog.听
Anthony Plettenberg Laing, sy'n wreiddiol o Gaergrawnt, ac sydd bellach yn byw yn Berlin yn yr Almaen yw un o'r awduron. Ar 么l ennill BSc mewn S诺oleg gyda Herpetoleg, bu鈥檔 gweithio ar y project hwn ar gyfer ei MScRes ac meddai:
鈥淐yfeirir yn aml at Brifysgol 香港六合彩挂牌资料 fel prifddinas herpetolegol y Deyrnas Unedig a hi oedd yr unig sefydliad yn y Deyrnas Unedig a oedd yn cynnig cwrs herpetoleg penodol. Mae ganddi d卯m o ymchwilwyr byd-enwog sy'n arbenigo yn y maes hwn. Roeddwn yn gwybod felly y byddai dod i Fangor yn meithrin fy niddordeb ac yn fy helpu i dyfu a ffynnu yno hefyd, gan ganiat谩u i mi chwarae rhan fawr ym maes herpetoleg.鈥
"Yn ystod fy nghyfnod ym Mangor, b没m yn gweithio ar amryw o brojectau cyffrous gyda Dr Wolfgang W眉ster a chydweithwyr, gan gynnwys ymchwilio i'r cobraod eiconig Affricanaidd ac Asiaidd yn y genws Naja. Roedd fy ngwaith yn cynnwys dilyniannu nifer o enynnau a chreu coed ffylogenetig i ddeall pryd a pham roedd gwahanol rywogaethau wedi gwahanu. Mae bod yn awdur astudiaeth mor bwysig yn y cyfnodolyn Science yn anrhydedd anhygoel ac yn lwyddiant personol mawr."
Daeth Cara Hall o Barrow-in-Furness, Cumbria i Fangor i astudio S诺oleg gydag Ymddygiad Anifeiliaid.
Meddai: 听鈥淩oedd y radd S诺oleg yn ddelfrydol i mi. Llwyddais i ddysgu cymaint mewn llawer o wahanol feysydd ymchwil, dysgu mwy am fioleg ac esblygiad yn gyffredinol a chymryd rhan weithredol mewn ymchwil i ddysgu sgiliau labordy hanfodol ar gyfer fy nyfodol. Heb wybod ar y pryd, mae fy ymchwil yno wedi cyfrannu at astudiaethau mwy ac wedi cael effaith fwy nag y gallwn fod wedi ei ragweld."