Meddai’r Athro John Turner, Pennaeth yr Ysgol Gwyddorau Eigion:
“Mae'r llong yn hanfodol wrth gefnogi ein hyfforddiant o'r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr môr. Mae pob un o'n myfyrwyr israddedig ac ôl-radd hyfforddedig (dros 250 mewn blwyddyn arferol) yn elwa o'r profiad unigryw o weithio ar long ymchwil ar y môr, yn defnyddio offer gwyddonol i asesu prosesau, ansawdd dŵr a mesur amledd a dosbarthiad bywyd môr, ac mae'r rhan hon o'r profiad dysgu yn mynd i barhau.”
Mae'r ddau barti hefyd yn gobeithio ymestyn eu hymchwil mewn ynni adnewyddadwy’r môr, a gall y fenter ar y cyd arwain at wneud rhagor o waith technegol yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion.
Pwysleisiwyd hyn gan yr Athro Paul Spencer, Dirprwy Is-ganghellor Ymchwil ac Arloesi ym Mhrifysgol ϲʹ, gan ddweud:
“Mae’r fenter ar y cyd newydd yn sicrhau bod Prifysgol ϲʹ yn adeiladu ar ein dealltwriaeth sydd gyda’r gorau yn y byd o amgylchedd a lleoliad safleoedd ynni môr trwy weithio mewn partneriaeth â chwmni logisteg ac arolygu môr blaenllaw. Mae ehangu’r sector môr yn fasnachol yn dibynnu ar wybodaeth wyddonol, ac rydym yn falch iawn y bydd ein harbenigedd yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion a thrwy'r Prince Madog yn rhan annatod o’r fenter ar y cyd newydd i gefnogi’r sector diwydiant pwysig hwn.”
Dywedodd Vincent Nuernberg, Rheolwr Gyfarwyddwr, O.S. Energy:
“Mae'r Prince Madog yn ychwanegiad perffaith i'n llongau sy'n gweithredu yn y diwydiannau olew, gwynt a nwy ar y môr yn Ewrop. Rydym yn falch o gymryd drosodd oddi wrth P&O Maritime Services yn eu swyddogaeth fel rheolwr ac ymuno â Phrifysgol ϲʹ fel partneriaid newydd. Mae'r bartneriaeth newydd hon hefyd yn rhoi mynediad hawdd i'r brifysgol i longau arbenigol eraill sydd gan O.S. Energy. Rydym yn edrych ymlaen at y bartneriaeth dymor hir hon.”