Mae'r ddarlith yn rhad ac am ddim ac yn agored i bawb. Cyflwynir y siaradwr gan yr Is-Ganghellor, Yr Athro Iwan Davies. I gofrestru, ewch i’r tudalennau 'digwyddiadau' ar wefan y Brifysgol.
Meddai’r Athro Julia Jones:
“Rhaid i unrhyw ateb i newid yn yr hinsawdd gynnwys coedwigoedd trofannol. Mae datgoedwigo yn gollwng carbon i'r atmosffer, ond mae adfer coedwigoedd yn gallu amsugno carbon sylweddol. Yn ddiweddarach eleni, bydd Glasgow yn cynnal y 26th Conference of the Parties of the United Nations Framework Convention on Climate Change (COP26).
Mae llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi addo gwneud 'atebion ar sail natur' yn ganolog i’r gynhadledd hon. Mae'r rhain yn cynnwys polisi'r Cenhedloedd Unedig o'r enw REDD+ (Reducing Emissions from Deforestation and forest Degradation). Mae REDD+ yn ymddangos fel syniad syml (mae gwledydd tlotach gyda choedwigoedd trofannol yn cael cyllid i leihau’r datgoedwigo sy’n digwydd yn eu gwledydd) ond mae wedi bod yn ddadleuol iawn.
Gan ddefnyddio fy 20 mlynedd o brofiad yn gwneud ymchwil gymhwysol yng nghoedwigoedd glaw dwyreiniol Madagascar, byddaf yn edrych ar y problemau gyda REDD+ ac yn trafod pam mae’n bwysig bod y materion hyn yn cael sylw.”
Mae Julia P.G. Jones yn wyddonydd cadwraeth sydd â diddordeb yn effeithiau ymyriadau cadwraeth ac yn agweddau cymdeithasol cadwraeth. Hi yw arweinydd y project , sy'n ceisio sicrhau bod rhaglenni carbon coedwig yn fwy effeithiol ac yn osgoi effeithiau negyddol ar bobl dlawd.
Mae hi wedi cymryd swydd Cyfarwyddwr Rhwydwaith Ymchwil Cenedlaethol Sêr Cymru i Ynni Carbon Isel a'r Amgylchedd yn ddiweddar. Yn 2020, ymddangosodd ar raglen ddogfen y BBC 'Extinction: The Facts’, a gyflwynwyd gan Syr David Attenborough.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â public.lectures@bangor.ac.uk.