Fe wnaeth Olaitan Olawande, sy鈥檔 gwneud cwrs Meistr mewn Dadansoddi Ymddygiad Cymhwysol, sefydlu Practice What You Speak i ddarparu gweithdai siarad cyhoeddus i bobl ifanc ar draws y Deyrnas Unedig. Bwriedir y gweithdai ar gyfer tair ystod oedran, 7-11 oed, 12-17 oed a 18-24 oed, gydag Olaitan eisoes wedi cynnal gweithdai i dros 30 o bobl ifanc.聽
Bwriedir ar gyfer plant sydd eisoes yn gyfforddus yn siarad yn gyhoeddus ond sydd eisiau mireinio eu sgiliau, neu ar gyfer plant sy鈥檔 ddihyder ac angen help ychwanegol. Drwy gyfrwng gweithgareddau gan gynnwys cylymau tafod, ymarfer ynganu a gemau dadlau, dywedodd Olaitan ei bod wedi lansio鈥檙 busnes er mwyn i blant deimlo wedi鈥檜 鈥済rymuso鈥.聽
Dechreuodd Olaitan ei busnes gyda help Syniadau Mawr Cymru, sy鈥檔 rhan o Busnes Cymru ac a ariennir yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. Bwriedir y gwasanaeth ar gyfer unrhyw un rhwng 5 a 25 oed sydd eisiau datblygu syniad am fusnes.聽
Cafodd busnes Olaitan ei lansio i ddechrau fel gweithdy y byddai pobl ifanc yn ei fynychu, ond oherwydd cyfyngiadau symud Covid aeth ati i gynnig gweithdai ar-lein.聽
Wrth siarad am sefydlu ei menter ei hun, dywedodd Olaitan: 鈥淩wyf wastad wedi bod wrth fy modd 芒 siarad cyhoeddus ers pan oeddwn yn ifanc ac roeddwn eisiau defnyddio hynny i helpu pobl eraill a rhoi iddynt yr offer i wella ansawdd eu bywyd pan yn blant. Bydd gosod y sylfeini yn gynnar i alluogi plant i deimlo鈥檔 hyderus yn rhoi iddynt sgiliau gydol oes.聽
鈥淓r bod y llynedd wedi bod yn anodd i bron bob agwedd ar redeg busnes, yr amser segur yn ystod y cyfyngiadau symud oedd y cymhelliant yr oedd arnaf ei angen i addasu鈥檙 busnes fel y gallai ddal i weithredu er gwaethaf y cyfyngiadau cadw pellter cymdeithasol. Roeddwn yn falch dros ben gweld y gallai鈥檙 gweithdai redeg yr un mor llwyddiannus dros alwad fideo ag y gallent yn bersonol.鈥澛
Mae gweithdai 6 awr Olaitan yn rhedeg yn ystod gwyliau鈥檙 ysgol, ond mae ganddi eisoes uchelgais i drefnu digwyddiadau siarad cyhoeddus graddfa fawr i redeg dros nifer o ddyddiau.聽
Ar 么l mynychu digwyddiad B Enterprising ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料, cyfeiriwyd Olaitan at Syniadau Mawr Cymru lle cyfarfu 芒鈥檌 chynghorydd busnes Katherine Lewis. Gan siarad am y gwasanaeth, dywedodd Olaitan: 鈥淢ae cael rhywun ar ben arall y ff么n i ofyn am gyngor am fy musnes wedi bod yn help mawr, yn enwedig mewn blwyddyn cwbl ryfeddol ar gyfer sefydlu busnes. Mae Katherine wedi gosod nodau imi ac wir wedi fy annog i fod 芒 hyder yn fy arlwy wrth i鈥檙 busnes ddod yn fwy sefydledig.鈥澛
Meddai Lowri Owen, Rheolwr B-fentrus: "Mae Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 yn falch iawn o allu cydweithio 芒'n partneriaid i allu cynnig cyfleoedd ac adnoddau i'n myfyrwyr a'n graddedigion ddatblygu eu sgiliau menter a dechrau eu busnesau eu hunain. Drwy B-Fentrus, gallwn gynnig cyngor a chymorth i'n myfyrwyr yn ogystal 芒 chyllid ar gyfer masnachu profion ac ymchwil i'r farchnad a gofod deori am ddim yn M-Sparc. Croesawodd Olaitan bob cyfle a gynigiwyd iddi a hoffem ddymuno pob llwyddiant iddi gyda'i menter gyffrous newydd."聽
Mae Olaitan hefyd wedi manteisio ar rai o鈥檙 digwyddiadau rhad ac am ddim a gynhelir gan Syniadau Mawr Cymru sydd ar gael i unrhyw un 16-25 oed yng Nghymru sydd 芒 syniad am fusnes, gan gynnwys Bwtcamp i Fusnes ac wythnos Cychwyn Busnes yr Haf. Nod y ddau ddigwyddiad yw cysylltu egin entrepreneuriaid 芒 phobl fusnes llwyddiannus i gael cefnogaeth wrth iddynt roi eu busnes ar ben ffordd.聽
Meddai Katherine Lewis, cynghorydd busnes Syniadau Mawr Cymru: 鈥淵n 21 oed, mae Olaitan wedi cymryd rhywbeth mae鈥檔 ei garu a鈥檌 droi yn fusnes, gan ddefnyddio鈥檙 sgiliau a ddysgodd yn nigwyddiadau Syniadau Mawr Cymru i ddatblygu busnes cadarn. Mae鈥檙 esiampl wych o entrepreneur uchelgeisiol a phenderfynol, ac mae hynny鈥檔 sylfaen gwych ar gyfer tyfu ei busnes. Mae ei brwdfrydedd naturiol a鈥檌 gallu i gael y gorau o bobl heb os yn mynd i wneud Practice What You Speak yn fenter lwyddiannus am flynyddoedd lawer.鈥澛
A ydy hyn wedi eich ysbrydoli chi i roi eich syniad chi am fusnes ar waith? Ewch i www.bigideas.wales i ddechrau arni.聽