Mae Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 wedi ennill tair gwobr Athena Swan pellach gan Advance HE. Mae Athena swan yn siarter ledled y DU sy'n annog ac yn cydnabod ymrwymiad i hyrwyddo cydraddoldeb rhywiol mewn addysg uwch ac ymchwil.
Mae Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 eisoes yn meddu ar Wobr Efydd ar gyfer y sefydliad a gwobrau Efydd ar gyfer Ysgolion Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig, Seicoleg, Busnes a Gwyddorau Eigion.
Bellach, mae gwobrau Efydd Athena Swan wedi eu dyfarnu i'r Ysgol Gwyddorau Naturiol, yr Ysgol Gwyddorau Iechyd, a'r Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer 听i gydnabod ymrwymiad parhaus yr ysgolion i gydraddoldeb rhywiol ymhlith y staff a鈥檙 myfyrwyr.
Ymgorffori cydraddoldeb ym mhopeth a wnawn.
Dywedodd Dr Lynne Williams, Pennaeth yr Ysgol Gwyddorau Iechyd: 鈥淩ydym yn gosod cydraddoldeb ac amrywiaeth wrth wraidd holl fusnes yr Ysgol, ac rydym yn falch iawn ein bod wedi derbyn gwobr Efydd Athena Swan. Hoffwn ddiolch i'r holl staff a myfyrwyr, a diolch arbennig i aelodau'r t卯m hunanasesu am eu hymrwymiad i'r broses gwneud cais. Mae'r wobr hon yn cadarnhau ein hymrwymiad parhaus i sicrhau bod cydraddoldeb ac amrywiaeth yn cael lle blaenllaw ar draws rhaglenni addysgu ac ymchwil yr Ysgol."
"Rydym yn falch iawn ein bod wedi derbyn ein Gwobr Athena Swan Efydd sy鈥檔 adlewyrchu ein hymrwymiad parhaus i gydraddoldeb a gydnabuwyd yn flaenorol yn yr Ysgol Gwyddorau鈥檙 Amgylchedd a Daearyddiaeth," meddai'r Athro Nia Whiteley, Pennaeth yr Ysgol Gwyddorau Naturiol.
"Rydym yn falch iawn gyda'r cynnydd rydym wedi'i wneud hyd yma wrth sicrhau bod yr Ysgol Gwyddorau Naturiol gymharol newydd wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb a lles ymhlith y staff a鈥檙 myfyrwyr. 听Edrychwn ymlaen at barhau i sicrhau ein bod yn ymgorffori cydraddoldeb, amrywiaeth a chynwysoldeb yn ethos a diwylliant ein hysgol.
Dywedodd Dr Jamie Macdonald, Pennaeth yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer:
听听
鈥淩ydym wrth ein bodd gyda鈥檙 newyddion hyn. Ni oedd yr ysgol gyntaf ym Mangor i dderbyn gwobr Efydd Athena Swan yn 2015 ac rydym yn falch iawn o dderbyn clod a bri y wobr hon am yr eildro. Mae'r ysgol yn hynod frwd am hyrwyddo cydraddoldeb ac mae'n cydnabod yr angen i sicrhau cyfle cyfartal i'n staff a'n myfyrwyr yn ogystal ag yn y maes gwyddorau chwaraeon, iechyd ac ymarfer yn ehangach. Mae'r wobr hefyd yn gydnabyddiaeth wych i'n hymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa sydd wedi ysgogi llawer o fentrau cydraddoldeb ac amrywiaeth arloesol yn ein hysgol yn ddiweddar.鈥
听
Dywedodd yr Athro Iwan Davies, Is-ganghellor:
听"Hoffwn longyfarch yr Ysgol Gwyddorau Naturiol, yr Ysgol Gwyddorau Iechyd, a'r Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer ar eu ceisiadau llwyddiannus. Rwy鈥檔 falch iawn bod tair Ysgol arall wedi ennill gwobrau Efydd SWAN Athena i gydnabod y gwaith 听rydym yn ei wneud i sicrhau cydraddoldeb rhywiol ym Mangor. Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i barhau 芒'n gwaith yn y maes hwn ac i ymgorffori cydraddoldeb ym mhopeth a wnawn."
听
Sefydlwyd Siarter Athena Swan yn 2005 i annog a chydnabod ymrwymiad i hyrwyddo gyrfaoedd merched sy鈥檔 gweithio mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, mathemateg a meddygaeth (STEMM) mewn addysg uwch. 听Ehangwyd y siarter yn 2015 i gynnwys yr holl adrannau academaidd a staff gwasanaethau proffesiynol. Bellach, mae Athena Swan yn cydnabod gwaith a wneir i roi sylw i gydraddoldeb rhyw yn fwy eang ac mae ei gwobrau'n cydnabod ymrwymiad i gydraddoldeb rhyw ac amrywiaeth, arferion gweithio rhagorol, a'r diwylliant cynhwysol yr ydym yn ei hyrwyddo i staff a myfyrwyr ar bob lefel.
听