Mae cyn gogyddes ysbyty yn gofalu am fwy na bwydo ei chleifion wedi iddi gymhwyso fel nyrs mewn pryd i ymuno 芒'r frwydr yn erbyn y pandemig.
Mae'r fam i dri Claire Davies o Ddinbych, erbyn hyn yn gwisgo dillad amddiffynnol ac yn gweithio ar y rheng flaen yn Ysbyty Glan clwyd, Bodelwyddan wedi iddi gwblhau cwrs tair blynedd yn Ysgol Gwyddorau Iechyd Prifysgol 香港六合彩挂牌资料.
Roedd hi'n rhan o'r gr诺p cyntaf i wneud y cwrs sydd wedi anelu at weithwyr cefnogol o fewn y GIG yng Ngogledd Cymru ac erbyn hyn mae Claire yn annog eraill sydd 芒 diddordeb cymryd llwybr tebyg drwy gymryd golwg ar wefan y Brifysgol neu ymuno ar un o'r diwrnodau agored yn yr hydref.
Dechreuodd Claire, 42, ei gyrfa fel cogyddes ym mro ei mebyd yn Ysbyty Dinbych a phan ddaeth cyfle i geisio am swydd fel gweithiwr cefnogi iechyd dywedodd Claire wrth ei hun "Dwi wastad wedi bod eisiau gwneud hyn", llwyddodd i gael y swydd a disgynnodd mewn cariad.
"Roeddwn i wastad wedi bod eisiau dysgu am yr hun yr oedden ni'n ei wneud, a sut oedd hynny o fudd i'r claf."
Ond gyda tri o blant i'w magu, dim ond pryd gafodd cwrs rhan-amser ei gyflwyno gan y Brifysgol dair mlynedd yn 么l ddaeth y cyfle i droi'r freuddwyd yn wir diolch i gefnogaeth rheolwr ei ward.
Meddai Claire, "Gwneud y gorau i'r cleifion yn eu anhwylder sy'n bwysig i mi. Mae'n bleser medru eu helpu - mae'n gallu bod yn anodd ond mae'n talu ar ei ganfed."
"Fyddwn i ddim wedi medru fforddio hyfforddi fel nyrs nes i'r cyfle i wneud y cwrs rhan-amser godi, nid gyda tri o blant, ond fel hyn roeddwn i dal yn cael fy nghyflog.
"Doedd o ddim yn hawdd, fe gefais i ychydig o drafferth ar yr ochr academaidd felly roedd rhaid i mi weithio'n galed iawn, ond mae wedi bod werth yr holl waith!"
Meddai Arweinydd y cwrs Gill Truscott, enillodd Athro'r Flwyddyn yng Ngwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr Prifysgol 香港六合彩挂牌资料, "Cefais fy mhenodi i lansio'r cynllun yma ac mae wedi bod yn fraint - alla i ddim聽pwysleisio digon faint dwi'n edmygu cadernid ac ymroddiad y myfyrwyr.
"Roedd Claire yn un o'r grwp cynta' un - astudiodd drwy'r pandemic Covid, ond weithiodd bawb drwyddi a gwneud yn arbennig o dda - rwy'n llawn edmygedd o ymrywmiad pob un o'r myfyrwyr ac yn falch iawn o bob un ohonynt.
"Pan ddaeth Claire am gyfweliad, roedd yn amlwg fod ganddi botensial i fod yn nyrs gofrestredig.
"Mae gweithwyr cefnogol sy'n gwneud y rhaglen yn dod 芒 llond lle o brofiadau a gwybodaeth clinigol gyda nhw, ac rydym yn eu hannog nhw i rannu a datblygu rheiny yn ystod eu cyfnod yn hyfforddi fel nyrs cofrestredig.
"Rhan o lwyddiant y cynllun yw'r cydweithio rhwng Prifysgol 香港六合彩挂牌资料, Coleg Llandrillo a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, sy'n bwysig o ran llwyddiant y cwrs a'r gallu i gefnogi myfyrwyr drwy gydol y cwrs.
"Roedd yn fraint derbyn y wobr am addysgu - nid yr ennill oedd yn bwysig i mi, ond yn hytrach bod y myfyrwyr wedi cymryd yr amser i fy enwebu i a meddwl amdana i, hynny oedd y deyrnged mwyaf arbennig, oedd yn golygu cymaint."
Yn fuan wedi iddi gymhwyso ym mis Rhagfyr, daeth ail don y pandemig ac mae Claire a'i chyd-weithwyr wedi treulio llawer o amser ers hynny mewn PPE llawn am bedair awr ar y tro.
Meddai, "Roeddwn i'n gwybod beth i'w ddisgwyl. Dwi wedi gweithio yn yr Ymddiriedolaeth am amser hir ac rydym yn adeiladu ar y wybodaeth sydd gennym ni'n barod.
"Dywedodd un o'r consultants y byddai gennym lawer o wybodaeth wrth ddechrau yn y r么l gan ein ein bod eisoes yn brofiadol.
"Doeddwn i ddim yn sylweddoli wrth ddechrau y byddwn yn cymhwyso yng nghanol pandemig ond dwi'n caru fy swydd.
"Does dim un diwrnod yn mynd heibio lle dwi'n meddwl i mi fy hun 'does gen i'm awydd mynd i'r gwaith heddiw' oherwydd dwi eisiau gwneud siwrne'r claf 'chydig bach yn well."
Mae merch hynaf Claire, sy'n 24, erbyn hyn yn dilyn llwybr ei mham drwy ddilyn cwrs bydwreigiaeth ac yn dweud "Mae hithau wrth ei bodd hefyd. Mae hi'n yrfa wych."聽