Cafodd Tracey Witty o Loughborough ddiagnosis o ddiffyg fitamin B12 yn 2012. Mae fitamin B12 yn cyflawni sawl swyddogaeth bwysig yn y corff, gan gynnwys cadw'r system nerfol yn iach. Gall diffyg fitamin b12 achosi amrywiaeth eang o broblemau, yn cynnwys blinder eithafol, iechyd meddwl gwael a gwendid yn y cyhyrau.聽
Gellir trin y rhan fwyaf o bobl yn hawdd 芒 phigiadau os nad ydynt yn gallu amsugno B12 o fwyd neu dabledi. Pigiad ar ffurf hydroxocobalamin yw'r driniaeth a argymhellir fel arfer yn y Deyrnas Unedig, rhoddir hwn gan feddyg teulu neu nyrs ac mae ar gael ar bresgripsiwn yn unig. 聽
Mae diffyg fitamin B12 yn aml yn cael camddiagnosis a chanfu Tracey fod diffyg gwybodaeth ymhlith gweithwyr iechyd proffesiynol am y cyflwr. 聽聽
Meddai Tracey: 鈥淢ae llawer o bobl sydd wedi cael diagnosis o ddiffyg B12 yn cael triniaeth annigonol ac felly maent yn cael eu gorfodi naill ai i brynu B12 o dramor, lle mae ar gael i unrhyw un ei brynu, neu i ddirywio. 聽聽
鈥淏yddai cael gwared 芒鈥檙 dosbarthiad meddyginiaeth presgripsiwn yn unig i B12 chwistrelladwy yn cael effaith gadarnhaol iawn ar ddioddefwyr, eu teuluoedd a'r gymdeithas gyfan. 聽
鈥淒echreuais ymgyrch i godi ymwybyddiaeth yn 2014 gyda deiseb sydd wedi cael dros 96,000 o lofnodion hyd yma. Yna cysylltais 芒 Jane Hunt AS a gyflwynodd yr ymgyrch i'r Senedd. Wedi hyn, bu鈥檔 rhan o lle roddodd Ms Hunt AS ei haraith ar y mater, yn cynnwys achosion cleifion. Rydym yn disgwyl am ymateb yn awr.鈥澛
Mae ymgyrch Tracey wedi ei hysbrydoli i astudio am ddoethuriaeth sy'n edrych ar y rhwystrau i ddiagnosis a thriniaeth diffyg fitamin B12.聽
Meddai Dr Marjorie Ghisoni, Darlithydd Nyrsio Iechyd Meddwl a goruchwyliwr doethuriaeth Tracey:聽
鈥淢ae dull tosturiol Tracey yn rhagorol ac er nad yw wedi bod yn nyrs nac yn weithiwr iechyd proffesiynol, mae ganddi wybodaeth helaeth am ddiffyg B12. Datblygodd hyn o'i hymchwil ei hun i symptomau nad oedd gan y meddygon esboniad amdanynt. 聽
鈥淢ae Tracey yn rhywun tosturiol iawn gan ei bod yn rhannu dealltwriaeth gyffredinol o'r problemau y gall pobl 芒'r anhwylder hwn eu hwynebu yn ogystal ag amrywiaeth anghenion gwahanol bobl. Mae Tracey hefyd yn gallu helpu pobl eraill i wella trwy rannu ei gwybodaeth a'i phrofiad a'u cefnogi trwy鈥檙 profiad gofal iechyd cymhleth hwn.聽
鈥淩wyf wedi bod yn ffodus i ddysgu gan Tracey a鈥檌 hagwedd dosturiol tuag at godi ymwybyddiaeth i bobl 芒 diffyg B12, a allai hefyd fod wedi cael camddiagnosis o ddementia, iselder, seicosis, dryswch, pryder a mwy.鈥澛