Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料, sy'n gweithio gydag Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru a Fossil Plants yn ceisio amddiffyn y rhywogaeth brin hon.
Adroddiad ) yw un o'r asesiadau cyntaf yn y byd o goed sydd o dan fygythiad. Mae'n cywain ynghyd gwaith a wnaed o dan arweiniad y Global Tree Assessment (GTA), ac yn benllanw pum mlynedd o ymchwil i nodi鈥檙 diffygion sylweddol yn yr ymdrechion i ddiogelu coed.听
Mae鈥檔 archwilio 60,000 o rywogaethau coed y byd, ac yn datgelu bod 30% (17,500) ohonynt mewn perygl o ddiflannu. Mae hynny'n golygu bod dwywaith nifer o rywogaethau coed o dan fygythiad yn fyd-eang na sydd yna o famaliaid, adar, amffibiaid ac ymlusgiaid prin gyda'i gilydd. 听
Mae'r adroddiad yn datgelu bod dros 440 o rywogaethau coed ar fin diflannu, sy'n golygu bod llai na 50 ohonynt yn weddill yn y gwyllt. Dim ond oddeutu 30 o goed Cerddinen y Fenai (Sorbus arvonensis) sydd ar 么l; pob un i'w gael ar hyd arfordir y Fenai.听
Mae'r adroddiad yn gweld gobaith ar gyfer y dyfodol, fodd bynnag, wrth i ymdrechion cadwraeth gynyddu o dan arweiniad y gymuned fotaneg fyd-eang. Nodi pa goed sydd mewn perygl a sicrhau y c芒nt eu gwarchod yw'r ffordd fwyaf effeithiol o atal difodiant ac adfer rhywogaethau prin. Mae'r adroddiad yn datgelu y gellir dod o hyd i o leiaf 64% o'r holl rywogaethau coed mewn o leiaf un ardal warchodedig, ac mae tua 30% i'w cael mewn gerddi botaneg, cadwrfeydd hadau, neu gasgliadau ex situ eraill, ond mae angen gweithredu ymhellach.
Dywedodd Robbie Blackhall-Miles, o Fossil Plants:
鈥淩wy鈥檔 gweithio i warchod rhywogaethau planhigion o bob cwr o鈥檙 byd sydd mewn perygl, felly pan ddarganfyddais bod rhywbeth mor brin yn tyfu yma bron iawn ar fy rhiniog roedd yn rhaid i mi wneud rhywbeth i sicrhau nad oeddem yn ei golli am byth.鈥
Dywedodd Chris Wynne (Uwch Reolwr Gwarchodfeydd, Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru):
鈥淒im ond un coetir o blith llawer yr ydym ni'n eu rheoli ledled Gogledd Cymru yw Gwarchodfa Natur Nantporth. Mae presenoldeb Cerddinen y Fenai yn ei wneud yn unigryw ymhlith ein gwarchodfeydd natur a'n coetiroedd ledled y Deyrnas Unedig. Mae'n ychwanegu dimensiwn arall i'r coetir hyfryd, atmosfferig hwn, sy鈥檔 gyforiog o redyn, yn frith o flodau lliwgar yn y Gwanwyn a chaneuon adar. A hyn i gyd nid nepell o ganol tref 香港六合彩挂牌资料 ar Lwybr Arfordir Cymru.鈥澨
Dywedodd yr Athro Julia Jones, Athro Gwyddor Cadwraeth ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料:
鈥淩hyfeddais o sylweddoli y gellir dod o hyd i goeden mor brin yn y warchodfa natur heb fod ymhell o'n Prifysgol. Mae Cerddinen y Fenai yn codi cwestiynau diddorol am yr hyn sy'n diffinio rhywogaeth ac mae ganddi'r potensial i gynnwys pobl leol mewn cadwraeth leol. Rydym yn dechrau gwneud rhywfaint o ymchwil ar y goeden a'r bygythiadau sy'n ei hwynebu; mae un o'n myfyrwyr yn gwneud ei thraethawd hir ar y bygythiadau iddi.鈥
Dywedodd Hannah Taylor, myfyrwraig sy'n astudio cadwraeth amgylcheddol ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料:
鈥淢ae'n wych sylweddoli y gallai'r gwaith rwy'n ei wneud yn rhan o fy nhraethawd hir gael effaith ar gadwraeth coeden sydd mewn perygl difrifol.鈥澨
Mae Cerddinen y Fenai yn aelod o un o'r grwpiau coed mwyaf amrywiol yn Ewrop; y coed Cerddin, a elwir hefyd yn Griafol a Cherddin Gwynion. O'r 170 rhywogaeth Criafol sy'n frodorol i Ewrop, ystyrir bod dros eu tri chwarter o dan fygythiad. Mae nifer o rywogaethau Criafol yn fychan eu poblogaeth sy'n eu gwneud yn fwy bregus yn wyneb bygythiadau. Mae angen golau fel arfer ar y coed hyn, ac maent yn flasus i lysysyddion, felly fe鈥檜 ceir yn aml mewn cynefinoedd cyfyngedig fel clogwyni creigiog lle nad oes pori. Nid yw Cerddinen y Fenai yn ddim gwahanol ac mae'n tyfu mewn dim ond un rhan fach o arfordir serth ar lannau鈥檙 Fenai.
听