Darganfu’r tîm fod lefelau MDMA a chocên yn y dŵr yn ystod yr ŵyl mor uchel fel y gallai niweidio bywyd gwyllt ymhellach i lawr yr afon, yn cynnwys poblogaethau prin o lyswennod.
Dan arweiniad Dr Christian Dunn o Brifysgol ϲʹ, mae'r gwyddonwyr bellach yn annog pawb sy’n mynd i wyliau a gynhelir ar dir glas i ddefnyddio'r toiledau swyddogol a ddarperir gan y trefnwyr oherwydd credir bod cyffuriau’n mynd i mewn i afonydd cyfagos oherwydd bod pobl yn pasio dŵr yn gyhoeddus.
Gweithiodd Dan Aberg, myfyriwr Meistr yn yr Ysgol Gwyddorau Naturiol gyda Dr Daniel Chaplin o'r Ganolfan Biotechnoleg Amgylcheddol i fesur lefelau cyffuriau anghyfreithlon cyn, yn ystod ac ar ôl gŵyl Glastonbury, pan gafodd ei chynnal ddiwethaf yn 2019.
Canfuwyd bod crynodiadau MDMA wedi cynyddu bedair gwaith yr wythnos ar ôl yr ŵyl, gan awgrymu bod rhyddhau tymor hir o’r safle a bod crynodiadau cocên wedi codi i lefelau sy’n effeithio ar gylch bywyd llyswennod Ewropeaidd, rhywogaeth dan warchodaeth.
Meddai Mr Aberg: “Mae halogiad cyffuriau anghyfreithlon o basio dŵr yn gyhoeddus yn digwydd ym mhob gŵyl gerddoriaeth. “Nid yw lefel y rhyddhau yn hysbys, ond heb os, mae gwyliau yn ffynhonnell flynyddol o ryddhau cyffuriau anghyfreithlon.”
“Yn anffodus, mae agosrwydd safle gŵyl Glastonbury at afon yn golygu nad oes gan unrhyw gyffuriau a ryddheir gan y rhai sy’n dod i’r ŵyl lawer o amser i ddiraddio yn y pridd cyn mynd i mewn i’r ecosystem dŵr croyw bregus,” ychwanegodd.
Er mwyn lleihau rhyddhau ac effaith cyffuriau anghyfreithlon yn ystod gwyliau, mae'r gwyddonwyr yn cynnig y dylid gwneud ymchwil i driniaeth bosib trwy ddulliau sy’n gyfeillgar i’r amgylchedd, fel gwlyptiroedd trin gwneud.
Yn ogystal, dylid parhau i ddarparu gwybodaeth am effeithiau niweidiol pasio dŵr yn gyhoeddus i bobl sy’n mynd i’r ŵyl er mwyn lleihau halogiad adnoddau naturiol.
Wrth egluro arwyddocâd eu canlyniadau, meddai Dr Christian Dunn: 'Ein prif bryder yw'r effaith amgylcheddol. Mae'r astudiaeth hon yn dangos bod cyffuriau'n cael eu rhyddhau ar lefelau sy'n ddigon uchel i darfu ar gylch bywyd y llysywen Ewropeaidd, gan rwystro ymdrechion cadwraeth i ddiogelu’r rhywogaeth hon sydd mewn perygl.
“Mae addysg yn hanfodol yn achos materion amgylcheddol, yn yr un modd ag y mae pobl wedi cael gwybod am broblemau llygredd plastig, ac mae Glastonbury wedi gwneud ymdrech fawr i fod yn rhydd o blastig; mae’n rhaid i ni hefyd godi ymwybyddiaeth ynglŷn â gwastraff cyffuriau a fferyllol - mae'n llygrydd cudd, pryderus iawn ond gall fod yn ddinistriol.”
Mae'r papur a gyhoeddwyd yn Science Direct ar gael .