Athro ym Mangor yn dylanwadu ar benderfyniad Cyngor Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig i fabwysiadu 'Hawl i breifatrwydd yn yr oes ddigidol'
Mae technolegau adnabod emosiwn bellach yn flaenoriaeth newydd
Ìý
Mae Cyngor Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig wedi derbyn bod angen cydnabod technolegau adnabod emosiwn fel blaenoriaeth newydd mewn hawliau byd-eang i breifatrwydd yn yr oes ddigidol. Datblygwyd pwysigrwydd hyn gan yr Athro Andrew McStay o Brifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ a'r a .Ìý
Technolegau Adnabod Emosiwn
Mae data biometreg ac emosiwn yn cyfeirio at elfennau personol o fywydau pobl. Maent yn darparu syniad o gyflwr meddyliol defnyddwyr ac am eu cyflwr corfforol hefyd. Mae technolegau adnabod emosiynau wedi denu llawer o feirniadaeth (er enghraifft am fethodolegau heb eu profi), ond nid yw hyn wedi rhwystro eu defnydd ledled y byd mewn gwrthrychau, gwasanaethau a sefyllfaoedd bob dydd. Yn wir, mae marchnad fyd-eang newydd i ddata am emosiynau, gydag adnabod emosiwn bellach o ddiddordeb mawr i'r diwydiant technoleg, a'r sectorau amrywiol sy'n canfod gwerth economaidd wrth ddeall ein cyflwr emosiynol a meddyliol.Ìý
Efallai y byddwch yn dod ar draws technolegau adnabod emosiwn mewn ysgolion i fonitro emosiwn ac ansawdd ymgysylltiad myfyrwyr; mewn canolfannau galw i olrhain naws emosiynol lleisiau galwyr a gweithwyr; mewn siopau i broffilio emosiynau cwsmeriaid tuag at gynhyrchion; mewn ceir i fesur blinder, straen a dicter gyrwyr i gynhyrchu rhybuddion llais neu gerddoriaeth briodol; ac mewn cyd-destunau diogelwchi reoli ffiniau, plismona a rheoli torfeydd.
Dylanwadu ar Gyngor Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig
Mae Cyngor Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig wedi mabwysiadu'n ffurfiol y penderfyniad o'r enw '.' Mewn egwyddor, diweddariad yw hwn o ddealltwriaeth y Cenhedloedd Unedig o hawliau dynol i gymryd bywyd digidol modern i ystyriaeth, a chwestiynau preifatrwydd a godwyd ynddo.
Gyda'r mwyafrif o wladwriaethau wedi mabwysiadu cyfansoddiadau a deddfau eraill sy'n diogelu hawliau dynol sylfaenol yn ffurfiol, bydd y penderfyniad hwn yn rhyngwladol o ran ei gyrhaeddiad a’i ddylanwad, gan ddylanwadu ar gytuniadau a chyfraith ryngwladol, a chyfraith ranbarthol a chenedlaethol.
Mae'r penderfyniad yn ganlyniad adroddiad yn 2014 gan yr Uchel Gomisiynydd ar yr hawl i breifatrwydd yn yr oes ddigidol (A/HRC/27/37) ac ar y cyflwyniadau a'r trafodaethau mewn gweithdy arbenigol a gynhaliwyd yn Genefa ym mis Chwefror 2018. Mae hefyd yn cynnwys tystiolaeth ysgrifenedig.
Ìý
Cyfraniad Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ
Gwahoddwyd Andrew McStay i’r gweithdai arbenigol yn Genefa yn 2018 a chyflwynodd argymhellion ysgrifenedig ynddynt. O ganlyniad, mae technolegau adnabod emosiwn wedi eu cydnabod fel blaenoriaeth newydd, gydag argymhelliad 3 yn cynnwys 'adnabod emosiwn' a'r angen am 'fesurau diogelu cywir’.Cyflwyniad yr Athro McStay oedd yr unig gyflwyniad i ymdrin ag adnabod emosiynau a theimladau.Ìý
Mae'r Athro McStay yn arwain y Lab AI Emosiynol, grŵp ymchwil rhyngwladol sy'n archwilio effaith gymdeithasol a diwylliannol technolegau deallusrwydd artiffisial (AI) sy'n gweithredu mewn perthynas â data am emosiwn dynol, hwyliau a gwladwriaethau affeithiol.Ìý