Dyma Emyr Wynne Jones yn edrych yn ôl ar ei brofiadau cerddorol fel myfyriwr TAR ym Mangor ym 1978. Cyn bo hir, bydd yn dychwelyd i Fangor i berfformio yn y cyngerdd 'Gerontius ’, a gynlluniwyd fel rhan o'r dathliadau #Cerddoriaeth100.
Hydref 5ed 1978. Wedi graddio gyda B.Mus ac MA o Brifysgol Caerdydd, dyna’r diwrnod yr oeddwn yn cofrestru ar fy nghwrs TAR ym Mangor. Ond pam symud i Fangor? Wel roedd fy nyweddi (sydd erbyn hyn yn wraig i mi ers 41 mlynedd) newydd ddechrau swydd fel athrawes yn Ysgol Gynradd Craig y Don Llandudno. Gan fod fy nhad a’m mam yn byw’n Llandudno roedd gwneud cwrs ym Mangor yn gwneud synnwyr llwyr o bersbectif personol.
Ond o bersbectif cerddorol nid oeddwn wedi sylweddoli'n llwyr y cyfoeth o brofiadau cerddorol fyddai ar gael i mi ym Mangor, a chefais flwyddyn wrth fy modd yn rhan o fwrlwm gweithgaredd Adran Gerdd y Brifysgol. Mae gennyf atgofion melys iawn o ganu mewn côr siambr – minnau a Wyn Thomas drws nesaf i’n gilydd yn y baswyr! A chefais hefyd y fraint a’r anrhydedd o chwarae’r corn yn y gerddorfa o dan arweiniad brwdfrydig a chelfydd John Hywel. Roedd yn flwyddyn wych o greu cerddoriaeth, a chael cymhwyster athro yn fy amser sbâr!
Ymlaen a mi wedyn i dreulio 15 mlynedd fel athro cerdd a phennaeth adran mewn ysgolion yng ngogledd orllewin Lloegr – saith mlynedd yn Bury, ac wyth ym Manceinion. Yna dychwelyd i Gymru fel Ymgynghorydd Cerdd dros Ddyfed ym 1994, a pharhau gyda goruchwyliaeth cerddoriaeth ieuenctid y tair sir yma yn ne orllewin Cymru wedi ad-drefnu llywodraeth leol ym 1996. Dyma gyfnod euraidd, yn llawn atgofion sy’n rhy niferus i’w croniclo fan hyn.
Ond erbyn 2011 ‘doedd fawr ddim cerddoriaeth ar ôl o fewn fy swydd fel ymgynghorydd, a phan ddaeth y cyfle i mi ymddeol yn gynnar yn 2015 roedd yn gynnig rhy dda i mi ei wrthod. Dyma gyfle gwych i mi ailgydio yn fy ngherddoriaeth – rhywbeth roeddwn wedi’i esgeuluso ers blynyddoedd oherwydd galwadau fy swydd. I ffwrdd a mi yn syth i Lundain i brynu Corn Ffrengig a dechrau ei ymarfer yn ddyddiol - er nad wyf eto wedi mentro ei chwarae’n gyhoeddus mewn unrhyw gyd-destun!
Rwy’n aelod o Gorws Cenedlaethol y BBC ers pum mlynedd, ac wrth fy modd, er i Covid-19 rhoi taw ar y canu am ddeunaw mis. Hefyd rwy’n gadeirydd ymddiriedolwyr Cerddorion Ifanc Dyfed – elusen sy’n cynnig rhaglen gynhwysfawr i ddatblygu sgiliau offerynwyr, cantorion a chyfansoddwyr ifanc. Mae’r llun yn fy nangos ar bumed diwrnod her Kilimanjaro yn 2016, yn codi arian tuag at waith yr elusen.
Edrychaf ymlaen yn eiddgar at ddychwelyd i Fangor mis Ebrill nesaf; byddaf yn aelod o gerddorfa cyngerdd ‘Gerontius’. Ond rhaid rhoi taw ar ysgrifennu pwt o air fel hyn yn awr. Mae’n rhaid i mi fynd ati i ymarfer fy nghorn!
Bydd Corws a Cherddorfa Symffoni Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ, ynghyd â sawl côr lleol arall, yn perfformio’r oratorio enwog Dream of Gerontius gan Edward Elgar ar Nos Sadwrn, 2il o Ebrill 2022 fel un o uchafbwyntiau dathliadau can mlynedd o Gerddoriaeth ym Mangor. Bydd manylion pellach a gwybodaeth am sut i archebu tocynnau ar gael ar y wefan hon yn fuan.