Enillodd ‘Sleeping Eurasian oystercatchers adjust their vigilance in response to the behaviour of neighbours, human disturbance and environmental conditions’, wobr Papur y Flwyddyn ar gyfer 2020 gan y Journal of Zoology.
Gwnaed yr ymchwil gan Meaghan McBlain yn 2017 ar gyfer ei gradd Meistr mewn Sŵoleg ar y cyd â’r darlithwyr Dr Graeme Shannon a Dr Katherine Jones o Ysgol Gwyddorau Naturiol, Prifysgol ϲʹ.
Astudiodd Meghan biod môr oedd yn cysgu ar lannau’r Fenai i asesu sut oeddynt yn cael eu haflonyddu gan gerddwyr, cŵn a synau eraill ar hyd y glannau.
Mae cwsg yn swyddogaeth bwysig, a dros amser, gall aflonyddu effeithio ar ffitrwydd, yn enwedig pan fo adnoddau yn brin yn y gaeaf, pan fo’r galw ar adnoddau egni yn uchel.
Pan glywodd am y Wobr, dywedodd Meaghan McBlain, sydd bellach yn athrawes gwyddoniaeth yn Whitehaven, Cumbria:
“Roedd yn braf cael fy enwebu ar gyfer papur y flwyddyn, y Journal of Zoology. Doeddwn i ddim yn disgwyl i mi a fy nghyd-awduron ennill - yn bennaf am nad wyf yn ysgolhaig. Rwyf ar hyn o bryd yn dysgu gwyddoniaeth mewn ysgol uwchradd yn Whitehaven, Cumbria ac roedd fy ysgol yn llawn cyffro am ein gwobr. Mae fy nisgyblion Blwyddyn 9 wedi eu hysbrydoli ac roeddynt yn garedig iawn ac yn awyddus i fy llongyfarch. Dywedon nhw eu bod wedi gweld y clipiau ar Springwatch yn gynharach yn y flwyddyn. Mae fy nisgyblion blwyddyn 9 yn dewis opsiynau TGAU ac mae nifer ohonynt bellach yn ysu i ddewis llwybr gwyddoniaeth driphlyg.”
Piod Môr wrth eu cwsg
'Sbecian'
Dywedodd ei chydawdur a’r darlithydd mewn ymddygiad anifeiliaid, Dr Graeme Shannon:
“Mae’n wych bod ein hastudiaeth wedi derbyn y fath gydnabyddiaeth gan olygyddion y Journal of Zoology. Gwnaeth Meaghan waith ardderchog wrth gasglu’r data ar ymddygiad sbecian piod môr. Mae’r data yn ein galluogi i archwilio sut mae aflonyddu dynol, amgylchiadau amgylcheddol a chyd-destun cymdeithasol yn dylanwadu ar y cyfaddawdu rhwng cwsg a gwyliadwriaeth.”
Ychwanegai Dr Katherine Jones, darlithydd Sŵoleg sydd hefyd yn gydawdur:
“Mae’r ymchwil hwn yn chwarae rôl bwysig yn ein dealltwriaeth o ymddygiad mewn anifeiliaid gwyllt, yn enwedig y rhai hynny sydd a’u niferoedd yn dirywio, fel y bioden fôr.”
Fel yr esbonia Meaghan McBlain, am ei gwaith:
“Bûm yn recordio symudiadau llygaid yr adar tra oeddent yn cysgu, ar sawl achlysur a lleoliad dros gyfnod o bedwar mis. Mae’r adar wedi esblygu strategaeth a elwir yn ‘sbecian’, sef y gallu i agor un llygad am gyfnod byr iawn bob hyn a hyn, tra’n cysgu, i fonitro eu hamgylchedd am unrhyw fygythiadau posib.”
Wrth asesu’r amlder y ‘sbecian’ a hyd yr edrychiad tra’n cysgu o dan amgylchiadau gwahanol, canfu’r ymchwilwyr bod presenoldeb pobl â chŵn yn arwain at lai o gwsg ar y cyfan, gan bod yr adar yn cynyddu’r amlder ac amser agor y llygad.
Wrth glywed cychod yn mynd heibio, roedd yr adar yn ‘sbecian’ yn amlach ond am lai o hyd.
Roedd yr adar hefyd yn monitro’u cymdogion cyfagos ac yn cysgu llai os oedd eu cymdogion yn effro. Ar y cyfan, roedd y piod môr yn cysgu mwy pan yng nghanol haid fawr o adar gan fod unigolion yn rhannu’r dasg o fonitro’r amgylchfyd am fygythiadau posib.