Mae'r Ganolfan Gwerth Cymdeithasol yng (CHEME), a Chanolfan Newid Ymddygiad Cymru (WCBC) yn yr Ysgol Gwyddorau Dynol ac Ymddygiadol, yn ymchwilio i'r buddion lles a'r gwerth cymdeithasol y mae yn ei gynhyrchu i’r bobl sy'n ymweld â'r ardd ac yn gwirfoddoli yno, gan gynnwys staff, myfyrwyr ac aelodau o'r gymuned leol.
Mae’r cysylltiadau rhwng gerddi, garddio a lles yn cael eu cydnabod yn helaeth, ac mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) a'r Sefydliad Iechyd Meddwl wedi amlygu garddio fel rhywbeth a allai fod yn werthfawr wrth gefnogi iechyd a lles.
Mae oddeutu 35,000 o bobl yn ymweld â Gardd Fotaneg Treborth bob blwyddyn, lle cânt fynediad am ddim i 45 erw o goetir a gardd wedi ei thirlunio, ynghyd â saith tŷ gwydr trofannol a thymherus sy'n gartref i dros 3,500 o rywogaethau. Yng Nghymru gyfan, nid oes ond tair gardd fotaneg, ac mae gan Dreborth, yr unig un yng Ngogledd Cymru, enw da’n rhyngwladol ac mae’n gartref i gasgliadau cadwraeth pwysig a labordy gwreiddiau tanddaearol mwyaf Ewrop.
Mae Treborth yn cynnal ystod o fentrau gwirfoddoli sy'n rhoi cyfle i staff, myfyrwyr a'r gymuned ehangach ddysgu am blanhigion, sgiliau garddio a phrofi'r ardd fotaneg trwy'r tymhorau. Mae Cyfeillion Gardd Fotaneg Treborth, yn weithgar iawn yn cynorthwyo staff Treborth ac mae grŵp rheolaidd o wirfoddolwyr ymroddgar yn gofalu am yr ardd bob dydd Mercher a dydd Gwener. Mae Treborth hefyd yn gweithio'n agos gyda'r Grŵp Gweithredu Myfyrwyr Treborth sy’n trefnu i griwiau o fyfyrwyr ddod yno i wneud gwaith yn rheolaidd.
Yn fwyaf diweddar, llwyddodd Natalie Chivers, Curadur Gardd Fotaneg Treborth, i gael cyllid gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW) i gynnal rhaglen arddio i staff, sy’n cael ei hyrwyddo trwy dudalennau Datblygu Staff y Brifysgol, i gynnig cyfle i staff dreulio hanner diwrnod y mis yn yr Ardd, yn dysgu sgiliau newydd ac yn cymryd rhan mewn ystod o brojectau yn yr ardd fesul tymor.
Gardd Fotaneg Treborth
Meddai Natalie:
“Mae tystiolaeth wyddonol gynyddol yn tynnu sylw at bwysigrwydd gerddi a garddio i les corfforol, meddyliol a chymdeithasol. Rwy’n falch iawn bod y cyllid a gawsom gan HEFCW wedi ein galluogi i ddatblygu’r rhaglen arddio hir-ddisgwyliedig hon fel y gall staff ymwneud â mannau gwyrdd fel rhan o’u hwythnos waith.Â
Mae'r staff a'r gwirfoddolwyr yn Nhreborth yn darparu sesiynau garddio ymarferol ym mhob tymor lle gall staff ymlacio, mwynhau gweithgarwch corfforol a chwrdd â chydweithwyr newydd. Mae ein sesiynau'n cynnwys lluosogi planhigion, cynnal a chadw coetiroedd, compostio, cadw gwenyn, pwll bywyd gwyllt a rheoli dolydd blodau gwyllt. Rydyn ni'n mwynhau cael croesawu staff o nifer fawr o adrannau gwahanol i'r ardd, gan rannu gwybodaeth gyda nhw a manteisio i’r eithaf ar yr hyn sydd gan yr ardd fotaneg i'w gynnig."
Bydd yr astudiaeth hon yn ein helpu i wella ein dealltwriaeth o werth Gardd Fotaneg Treborth i'r Brifysgol a'r gymuned leol a bydd hefyd yn helpu Treborth i wella cyfleoedd gwirfoddoli wrth symud ymlaen. Bydd yr astudiaeth hefyd yn gweithredu fel cynllun peilot i lywio gwerthusiad CHEME o raglen iechyd a lles y Brifysgol.
Cefnogir yr astudiaeth gan Economeg Iechyd a Gofal Cymru (HCEC), a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, a chaiff ei chynnal rhwng Tachwedd 2021 a Mehefin 2022. Yr Athro Rhiannon Tudor Edwards, Cyd-gyfarwyddwr CHEME sy'n arwain yr astudiaeth, gan gydweithredu â'r Athro John Parkinson, Deon y Coleg Gwyddorau Dynol.
Meddai Rhiannon:
“Rydym wedi cyffroi o gael gweithio ar y cyd â Gardd Fotaneg Treborth i gynnal astudiaeth o adenillion cymdeithasol ar fuddsoddiad garddio gwirfoddol yn Nhreborth. Dadansoddiad cost a budd yw astudiaeth o’r fath sy'n ystyried barn llawer o randdeiliaid ac yn gosod gwerthoedd ar bethau nad oes ganddynt werth yn y farchnad, pethau megis lles. Trwy'r gwaith hwn rydym yn gobeithio gwella ein dealltwriaeth a chodi ymwybyddiaeth am y rôl y gall yr ardd ei chwarae wrth gefnogi iechyd a lles staff, myfyrwyr a'r gymuned leol."
Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd gwirfoddoli sydd ar gael yng Ngardd Fotaneg Treborth cysylltwch â Natalie Chivers yn n.j.chivers@bangor.ac.uk.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am yr astudiaeth hon neu am waith arall a wneir gan y Ganolfan Gwerth Cymdeithasol yn CHEME, cysylltwch â'r Athro Rhiannon Tudor Edwards yn r.t.edwards@bangor.ac.uk.