Cam nesaf cyffrous i Brifysgol ϲʹ wrth i’r Is-Ganghellor drosglwyddo'r baton
Ar ôl cyfnod o newid a datblygiad sylweddol i’r Brifysgol mae’r Athro Iwan Davies wedi cyhoeddi y bydd yn rhoi’r gorau i’w rôl fel Is-ganghellor Prifysgol ϲʹ ym mis Medi 2022.
Mae’r Athro Davies wedi llwyddo i gyflawni trawsnewidiad sylweddol sydd wedi sicrhau cynaliadwyedd ariannol i’r Brifysgol ac wedi ei llywio drwy heriau digynsail y pandemig. Ymhlith rhai o’r llwyddiannau arwyddocaol mae cadarnhau a sefydlu Ysgol Feddygol annibynnol yng Ngogledd Cymru ym Mhrifysgol ϲʹ a chael cydnabyddiaeth am lwyddiannau ym maes cynaliadwyedd trwy gael ein rhestru ymhlith y 70 prifysgol orau ledled y byd ac yn y 15 uchaf yn yr UI GreenMetric World University Rankings.
Dywedodd yr Athro Davies: “Mae fy amser ym Mhrifysgol ϲʹ wedi bod yn gyfnod cyffrous a boddhaus yn fy ngyrfa. Rwyf wedi cyflawni’r hyn y des i yma i’w gyflawni gan greu momentwm go iawn. Dyma’r amser i feddwl am drosglwyddo’r baton i’r Is-ganghellor nesaf. Mae gan y Brifysgol gymaint i'w gynnig fel Prifysgol gogledd Cymru a’r brifysgol ar gyfer gogledd Cymru. Wrth imi ymddeol o’r rôl hon a symud ymlaen rwy’n bwriadu parhau i ymwneud â datblygu polisi addysg uwch yng Nghymru ac yn hynny o beth, bydd gennyf ddiddordeb o hyd yn llwyddiant y Brifysgol yn y dyfodol.”
Wrth dalu teyrnged i’r Athro Davies, dywedodd Cadeirydd Cyngor Prifysgol ϲʹ, Marian Wyn Jones: “Mae Iwan wedi dangos arweiniad aruthrol. Gydag eglurder gweledigaeth ac egni, mae wedi creu strategaeth uchelgeisiol ac wedi darparu llwyfan ariannol cadarn a fydd yn darparu sylfaen gref i’w olynydd ei siapio a’i datblygu wrth inni edrych y tu hwnt i’r pandemig. Rwyf wrth fy modd â’r cynnydd yr ydym wedi’i wneud o dan ei arweinyddiaeth. Bydd pawb yn gweld colled fawr ar ôl Iwan ond bydd ei gyfraniad enfawr yn parhau i hybu a gwella ein safle fel prifysgol gogledd Cymru a’r brifysgol ar gyfer gogledd Cymru, sy’n cael ei harwain gan ymchwil.
“Rydym nawr yn dechrau ar y broses gyffrous o benodi Is-ganghellor newydd a fydd yn dod ag egni a brwdfrydedd i adeiladu ar lwyddiannau eithriadol y blynyddoedd diwethaf. Mae’r tîm Gweithredu mewn sefyllfa dda i sicrhau cyfnod pontio sefydlog ar gyfer llwyddiant parhaus a chynaliadwy.”