DIWEDDARIAD:
O GANLYNIAD I'R TYWYDD GARW A'R FFAITH BOD CYNGERDD 'WELSH OF THE WEST END' WEDI EI OHIRIO AM Y TRO, NI FYDD Y DOSBARTH MEISTR YN CAEL EI GYNNAL YFORY DYDD SADWRN 19 CHWEFROR. MAE'R RHAI SYDD WEDI COFRESTRU WEDI CAEL GWYBOD A BYDD DYDDIAD NEWYDD YN CAEL EU DREFNU MOR FUAN 脗 PHOSIB.
Fel rhan o ddathliadau Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 o gan mlynedd o Gerddoriaeth yn y brifysgol, ar ddydd Sadwrn 19 Chwefror rhwng 9.45-12pm bydd perfformwyr o sioe 鈥榃elsh of the West End鈥 yn rhannu eu profiadau a chyngor trwy ddosbarth meistr ar gyfer rhai oed 16-25 yng nghanolfan gelfyddydau鈥檙 Brifysgol, Pontio 香港六合彩挂牌资料.
听
听
听
Eglura Ffion Evans, Pennaeth Drama, Theatr a Pherfformiad, 鈥淒yma gyfle gwych i鈥檔 myfyrwyr a phobl ifanc eraill sydd 芒 diddordeb mewn perfformio gael profiad rhyngweithiol iawn gydag unigolion sy鈥檔 dilyn gyrfa ym maes sioe gerdd. Byddwn yn cynhesu鈥檙 llais, ac yn gwneud ymarferion llais a pherfformio i sioeau cerdd mewn gr诺p. Yna bydd cyfle i unigolion ganu yn unigol gydag eraill yn gwylio. Os nad yw rhywun yn teimlo'n ddigon cyfforddus i ganu ar ben ei hunain, tydi hynny ddim yn broblem, gan fod yna croeso i wylio hefyd.鈥
Bydd y dosbarth meistr yn cael ei redeg gan Steffan Rhys Hughes o Sir Ddinbych, sydd wedi ennill dors 160 gwobr cenedlaethol, wedi gwneud deuawdau gyda Katherine Jenkins, wedi canu gyda Only Men Aloud a rhyddhau dwy albwm a Tom Hier, yn wreiddiol o Ferthyr Tydfil, sydd hefyd wedi teithio gyda Only Men Aloud a chwarae rhan Chris yn Miss Saigon (Taith Rhyngwladol); Joseph yn Joseph and the Amazing Technicolor Dreamcoat (Taith y Deyrnas Unedig) a Chuck Cranston yn Footloose (Taith y Deyrnas Unedig).
Meddai Steffan Rhys Hughes, 鈥淒wi鈥檔 edrych 鈥榤laen yn fawr i ddychwelyd i Pontio ar 么l rhai blynyddoedd erbyn hyn. Mae鈥檔 adeilad arbennig i鈥檙 celfyddydau yng Ngogledd Cymru, ac mi fydd hi'n braf cael perfformio yno hefo criw Welsh of the West End听am y tro cyntaf. Mae鈥檙 cyfle i gael cynnig dosbarth meistr i dalentau ifanc disglair yr ardal yn un arbennig iawn, yn enwedig yn y maes Sioe Gerdd. Bydd Tom Hier yn arwain y dosbarth meistr - perfformiwr sy鈥檔 hynod brofiadol yn y maes ac erbyn hyn yn hyfforddi disgyblion rhai o golegau perfformio mwyaf eiconig Llundain, gan gynnwys Italia Conti, a Guilford School of Acting.鈥
Sylfaen ein dathliadau #Cerddoriaeth100 eleni yw tynnu sylw at weithgareddau cerddorol y Brifysgol o fewn y gymuned.
Mae鈥檙 hyn a ddechreuodd can mlynedd yn 么l, sef y gerddorfa a鈥檙 c么r - y ddau a鈥檜 gwreiddiau yn nyfn yn y ddinas - yn gryf iawn o hyd. 听
Hynod braf yw croesawu bobol ifanc i鈥檔 dathliadau hefyd.听 A pha well ffordd o wneud hyn na chreu cyfle i bobl ifanc yr ardal fwynhau gwaith y goreuon o鈥檙 cerddorion Cymraeg sydd yn mwynhau llwyddiannau mawr ym myd y sioe gerdd, a hefyd iddynt gyfarwyddo eu hunain 芒 holl adnoddau bendigedig Pontio.
I gofrestru ar gyfer y dosbarth meistr sy鈥檔 rhad ac am ddim . Dim ond nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael, ac fe fydd y sesiwn yn ddwyieithog.
Bydd sioe 鈥楾he Welsh of the West End鈥 yn Theatr Bryn Terfel, Pontio nos Wener 18 Chwefror. Ewch i am ragor o fanylion.