Fel Prifysgol rydym yn condemnio’n ddiamwys benderfyniad llywodraeth Rwsia i ymosod ar Wcráin a thresmasu ymhellach fyth ar ei thiriogaeth. Mae canlyniadau dynol, economaidd ac amgylcheddol y weithred hon yn dangos bod trefn amlochrog y byd, trefn sy'n seiliedig ar reolau, wedi ei thanseilio'n sylweddol.
Mae pob math o ormes yn wrthun i mi ac mae ymosodiad direswm Rwsia ar Wcráin yn peri gofid mawr i mi. Gwn fod llawer o gydweithwyr a myfyrwyr hefyd yn teimlo pryder cynyddol wrth i’r gwrthdaro a’r trychineb dynol waethygu dros y dyddiau diwethaf. Rwyf am fynegi cefnogaeth Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ i bobl Wcrain.
Bydd symudiad ffoaduriaid a cheiswyr lloches oherwydd y rhyfel yn Wcráin yn parhau i greu penbleth wleidyddol, cymdeithasol, economaidd a diwylliannol am amser hir i ddod. Mae’n ymddangos na fu erioed adeg fwy tyngedfennol i brifysgolion fel sefydliadau sy’n ceisio’r gwirionedd i ddangos gwerth i’r cyhoedd yn gyffredinol, nid yn unig o ran y wybodaeth y maent yn ei chynhyrchu, ond hefyd o ran gwerth eu hymchwil a’u haddysgu o ran mynd i’r afael â’r heriau mawr sy’n wynebu’r byd heddiw – canlyniadau rhyfel a gwrthdaro, tlodi, anghyfiawnder cymdeithasol, a thrychinebau amgylcheddol i enwi dim ond rhai – ac o ran paratoi pobl ifanc at fyd sy’n newid yn barhaus.
Fel prifysgol sy’n sefyll dros werthoedd rhyddfrydol, hawliau dynol a’r hawl i ymholi beirniadol mae’n rhaid i ni obeithio am ddiwedd i’r rhyfel a’r drasiedi ddynol a achosir ganddo. Galwn am ddatrysiad cyflym a heddychlon i’r sefyllfa.