Lansio adnoddau digidol Cymraeg i fyfyrwyr
Mae Prifysgol ϲʹ yn rhan o prosiect arloesol dan arweiniad y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i greu dros 130 o unedau dysgu digidol newydd sbon i gefnogi myfyrwyr ledled Cymru sy’n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae’r prosiect wedi creu adnoddau arbenigol ac unigryw ar gyfer dysgu nifer o bynciau poblogaidd drwy gyfrwng y Gymraeg, o Wyddorau Chwaraeon i Wyddorau Cymdeithas. Mae’r adnoddau yn darparu pecynnau dysgu sydd ar gael i myfyrwyr ar unrhyw adeg, gan gynnwys darlithoedd fideo, pecynnau darllen a chynnwys rhyngweithiol o’r safon uchaf i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith i’w defnyddio, lle bynnag yng Nghymru y maent yn astudio.
Cydweithiodd y Coleg â Rhwydwaith Dysgu ac Addysgu Prifysgolion Cymru i gyflwyno cais cydweithredol i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) am £2,730,000, i ddiogelu’r ddarpariaeth ddigidol gyfredol. Fel rhan o’r cais roedd y Coleg wedi adnabod yr angen am adnoddau digidol Cymraeg i gefnogi myfyrwyr sy’n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg ac ym mis Rhagfyr 2020 clustnodwyd £420,000 i ddatblygu’r prosiect adnoddau dan arweiniad y Coleg.
Yn ôl Dr Cynog Prys, ddarlithydd mewn Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol ac yn rhan o’r tim cenedlaethol a oedd yn arwain y prosiect a chydlynydd y tîm Cymdeithaseg:
“Mae’r pecynnau newydd wedi cynyddu’r ddarpariaeth Gymraeg sydd ar gael i fyfyrwyr, a hefyd yn cynyddu’r stôr o ddeunyddiau addysgu Cymraeg sydd ar gael i ddarlithwyr eu defnyddio.
“Mae’r pandemig COVID-19 wedi amlygu pa mor bwysig yw cael adnoddau digidol wrth ddysgu ac addysgu, yn enwedig wrth i ni gyd orfod symud i ddysgu ac addysgu o gartref. Mae gan yr adnoddau ddefnydd gwirioneddol y tu hwnt i ddiwedd y pandemig COVID-19, wrth i ni ddatblygu modelau dysgu ac addysgu newydd i’r gymuned academaidd yng Nghymru.”
Ar ôl ymgynghori â’r prifysgolion, penderfynwyd ar chwe phwnc blaenoriaeth, sef: Astudiaethau Busnes; Seicoleg; Gwyddorau Cymdeithas; y Gyfraith; Gwyddorau Chwaraeon; a Gwaith Cymdeithasol. Mae’r pecynnau hefyd yn darparu cyfleoedd i academyddion o brifysgolion Cymru i gydweithio ar greu cynnwys a all gael ei ddefnyddio ar draws y sefydliadau hynny, hyd yn oed ar ôl dychwelyd i’r ystafelloedd dosbarth.
Meddai Elen Boner, myfyrwraig PhD yn yr Ysgol Hanes, y Gyfriath a’r Gwyddorau Cymdeithas: "Roedd yn brofiad gwych cyd-weithio gydag academyddion blaenllaw prifysgolion Cymru a chyfrannu tuag ddarpariaeth iaith Gymraeg. Fel myfyriwr sy'n astudio drwy'r Gymraeg, rwy'n ymwybodol iawn o werth adnoddau o'r fath."
Dywedodd Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol: “Yn dilyn cyhoeddi’r cyfnod clo yn mis Mawrth 2020 aeth y Coleg ati i ymgynghori gyda phrifysgolion i ddeall pa gefnogaeth oedd ei hangen arnynt er mwyn parhau i gynnig darpariaeth Cymraeg ar-lein o safon, ac mae’r prosiect hwn yn ben llanw i’r gwaith hwnnw. Ryn ni’n ddiolchgar iawn i’r Athro Claire Taylor o Brifysgol Glyndŵr, Wrecsam, am arwain ar y cais cyllido ar ran Rhwydwaith Dysgu ac Addysgu Prifysgolion Cymru ac wrth gwrs i’r CCAUC am gytuno bod y cais yn un oedd yn deilwng o gefnogaeth ariannol.
“O ganlyniad i’r prosiect bydd myfyrwyr Cymraeg o hyn allan yn gallu manteisio ar arbenigeddau staff academaidd o brifysgolion ledled Cymru; yn gallu manteisio ar sesiynau anghydamserol Cymraeg sydd wedi’u creu gan staff o brifysgolion eraill, yn ogystal â manteisio ar drafodaeth a mewnbwn rhagor o fyfyrwyr. Bydd hyn o gymorth yn arbennig i fyfyrwyr mewn adrannau lle y mae’r niferoedd sy’n dilyn modiwl drwy gyfrwng y Gymraeg yn gymharol fach. Ryn ni hefyd yn obeithiol y bydd y prosiect yn arwain at fyfyrwyr yn cael cyfle na fyddai’n bodoli fel arall i astudio rhan o fodiwl drwy gyfrwng y Gymraeg, ac o bosib, i astudio modiwl cyfan a ellid ei greu a’i gyflwyno am y tro cyntaf drwy’r prosiect hwn.”
Penodwyd dau Dechnolegydd E-ddysgu, Bethan Wyn Jones a Siân Edwardson-Williams a gafodd eu secondio o Uned Gwasanaethau Technoleg Gwybodaeth Prifysgol ϲʹ. Ychwanegodd Dr Matthews:
“Mae Bethan a Siân wedi darparu arweiniad technegol arbenigol a hyfforddiant i'r chwe thîm prosiect sydd wedi creu'r deunyddiau, ac wedi cefnogi’r staff academaidd i greu, pecynnu a llwyfannu’r adnoddau.”
Mae’r adnoddau ar gyfer myfyrwyr israddedig yn bennaf, ond hefyd myfyrwyr Safon Uwch. Yn ogystal bydd staff academaidd yn defnyddio’r adnoddau i addysgu. Gellid dod o hyd i’r holl adnoddau newydd drwy’r a bydd holl allbynnau'r prosiect wedi'u cyhoeddi erbyn diwedd y flwyddyn academaidd gyfredol.