Bob blwyddyn, mae’r tîm sy’n trefnu’r gwobrau’n derbyn tua 35,000 o adolygiadau wedi'u dilysu o ymweliadau â phrifysgolion ledled y Deyrnas Unedig ac o gyflwyniadau ar-lein.
Mae'r dull o gasglu adolygiadau dan arweiniad myfyrwyr yn golygu bod y prifysgolion sydd ar y rhestr fer yn cael eu cydnabod gan fyfyrwyr am ddarparu profiad eithriadol.  Mae Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categorïau canlynol:    
• Neuaddau a Llety Myfyrwyr
• Cefnogi Myfyrwyr 
• Darlithwyr ac Ansawdd yr Addysgu 
• Ôl-radd
• Prifysgol y Flwyddyn 
• Undeb y Myfyrwyr 
• Rhyngwladol 
Mae addysgu ysbrydoledig sy'n seiliedig ar ymchwil o'r radd flaenaf yn ein galluogi i ymdrechu bob amser i ddarparu'r profiad prifysgol gorau i'n myfyrwyr. Mae cymuned Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ yn falch iawn bod ein myfyrwyr wedi dangos eu cefnogaeth a'u gwerthfawrogiad drwy enwebu eu prifysgol yn y gwobrau hyn.
Dywedodd Simon Emmett, Prif Weithredwr IDP Connect, sef noddwyr y gwobrau: 
"Mae bod ar y rhestr fer am un o wobrau Whatuni Student Choice Awards yn gyflawniad eithriadol. Mae cael cymaint o gydnabyddiaeth gan eich myfyrwyr yn arwydd o ragoriaeth. Dylai sefydliadau fod yn falch o gyrraedd y cam hwn o’r broses a dylent ddathlu'r profiad y maent wedi'i ddarparu i'w myfyrwyr dros y 12 mis diwethaf."
Mae'r gwobrau wedi'u seilio'n gyfan gwbl ar farn myfyrwyr sy'n astudio yn y Deyrnas Unedig ac mae hyn yn caniatáu i fyfyrwyr gael gafael ar ddata gonest, diduedd fel y gallant wneud y dewisiadau cywir am eu dyfodol ar lwyfan Whatuni. Caiff yr enillwyr eu cyhoeddi ar ddydd Mawrth, 24 Mai 2022.