(Datganiad llywodraeth Cymru)
Mae prosiect y (RILL), a arweinir gan Brifysgol 香港六合彩挂牌资料, yn darparu rhaglen iaith a llythrennedd ddwys a rhyngweithiol yn Gymraeg neu yn Saesneg i blant rhwng 7 ac 11 oed am gyfnod o ddeng wythnos, naill ai yn y dosbarth neu o bell.
Lansiwyd RILL ym mis Ebrill 2020 yn sgil cyflwyno cyfyngiadau i atal y Coronafeirws rhag lledaenu, ac mae'n cael ei hehangu bellach er mwyn helpu i wella sgiliau llythrennedd dysgwyr yng Nghymru. Fel rhan o'r gwaith hwn, caiff RILL ei chyflwyno mewn rhagor o ysgolion, caiff ei hehangu yn Gymraeg, a darperir gwersi ychwanegol i blant a rhieni eu defnyddio wrth ddysgu gyda'i gilydd yn y cartref.
Mae Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 yn gweithio gyda gwasanaeth gwella ysgolion Gogledd Cymru, GwE, i ddatblygu RILL Cymraeg. Bydd y fersiwn Gymraeg bwrpasol hon yn canolbwyntio ar ddatblygu geirfa Gymraeg dysgwyr a meithrin eu sgiliau llythrennedd trosglwyddadwy. Mae 33 o ysgolion yn y Gogledd wedi bod yn rhan o'r prosiect.
Mae RILL wedi helpu plant i gynnal eu sgiliau llythrennedd yn ystod cyfnod COVID-19. Wrth i ysgolion adfer, bydd cyllid RILL yn helpu i gefnogi dysgwyr ac athrawon i wella sgiliau iaith, cyfathrebu a darllen. Drwy hyn, sicrheir bod dysgwyr yn barod ar gyfer eu dyfodol academaidd, ac ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru.
Mae sgiliau iaith, cyfathrebu a darllen wrth wraidd pob math o ddysgu. Nod y Rhaglen Iaith a Llythrennedd, a gafodd ei datblygu yng Nghymru ac sy'n unigryw o ran canolbwyntio ar y Gymraeg a'r Saesneg, yw helpu dysgwyr i wella eu sgiliau ar 么l y pandemig. Rwy'n edrych ymlaen at weld canlyniadau'r prosiect arloesol hwn.
Dywedodd prif ymchwilwyr y prosiect, y Dr Manon Jones o Brifysgol 香港六合彩挂牌资料 a'r Dr Cameron Downing o Brifysgol y Drindod Leeds:
鈥淢ae'n bleser mawr gennym weithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu ac ehangu ein rhaglen llythrennedd ymhellach. Bydd y prosiect hwn yn datblygu'r bartneriaeth gydweithredol sydd eisoes ar waith rhwng GwE a Phrifysgol 香港六合彩挂牌资料 o ran defnyddio ymchwil er mwyn gwella canlyniadau addysgol i ddysgwyr.
鈥淵n y b么n, mae'r Rhaglen Iaith a Llythrennedd yn seiliedig ar ein dealltwriaeth ddamcaniaethol ac empirig o'r ffordd rydym yn dysgu sut i ddarllen a sillafu. Mae'r rhaglen RILL Cymraeg 鈥 a ddatblygwyd ar y cyd 芒 GwE 鈥 wedi cael ei chynllunio ar gyfer y Gymraeg yn benodol. Dyma sy'n wahanol i raglenni llythrennedd Cymraeg eraill.
鈥淏ydd y cyllid hwn yn rhoi cyfle inni weithio gydag ysgolion ac athrawon ledled Cymru er mwyn datblygu a darparu'r rhaglen a'i gwerthuso'n drylwyr. Ein gobaith yw y bydd y rhaglen yn helpu athrawon a dysgwyr i wella sgiliau llythrennedd yng Nghymru.鈥