Ymchwilydd PhD yn chwalu'r rhwystrau
Fel rhan o Wythnos Codi Ymwybyddiaeth Byddardod, bu Cymdeithas Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Prydain yn tynnu sylw ar y cyfryngau cymdeithasol at waith Libby Steele, sy鈥檔 ymchwilydd PhD yn Ysgol Gwyddorau Dynol ac Ymddygiadol Prifysgol 香港六合彩挂牌资料.听听听听
Cydweithrediad yw PhD Libby gyda UK Deaf Sport ac England Athletics ac mae'n cael ei oruchwylio gan Dr Vicky Gottwald, sy鈥檔 ddarlithwraig mewn gwyddorau chwaraeon ac ymarfer, a Dr Gavin Lawrence, uwch ddarlithydd mewn gwyddorau chwaraeon ac ymarfer.
Eglura Libby, "Cefais fy ngeni'n fyddar, felly dwi wedi gorfod goresgyn nifer o heriau o ran cyfathrebu, cynhwysiant cymdeithasol a rhwystrau eraill drwy gydol fy mywyd. Wrth dyfu i fyny sylweddolais cymaint o anghydraddoldeb y mae鈥檙 gymuned fyddar yn ei wynebu a theimlais fod yn rhaid i mi wneud rhywbeth i newid hynny.听 听听
"Nod fy noethuriaeth yw cyfrannu at y gwaith o ddatblygu system safonol i ddechrau rasys a fydd yn gwella cydraddoldeb i athletwyr byddar mewn chwaraeon. Ar hyn o bryd nid oes llwybr perfformiad penodol na system dechrau rasys safonol ar waith ar gyfer athletwyr byddar, sy鈥檔 atal hygyrchedd a darpariaeth i athletwyr byddar, gan fynd yn groes i鈥檙 ymdrechion i greu cymdeithas mwy egalitaraidd."听听
Meddai Dr Vicky Gottwald, "Mae'n wych bod Libby yn codi ymwybyddiaeth am chwaraeon pobl fyddar drwy ei gwaith a bod i鈥檙 prosiect gymaint o botensial o ran cynorthwyo gr诺p heb gynrychiolaeth ddigonol mewn chwaraeon elitaidd. Bydd deall mwy am sut mae amseroedd ymateb yn amrywio rhwng athletwyr sy鈥檔 clywed ac athletwyr byddar wrth ddefnyddio gwahanol fathau o symbyliadau yn ein helpu i nodi unrhyw anghydraddoldebau perfformiad gan wneud y gamp yn decach a denu rhagor o athletwyr byddar."听听
Ychwanegodd听Dr Gavin Lawrence, "Mae gan y gwaith yma botensial mawr i newid tirlun cydraddoldeb o fewnchwaraeon. Gall cael system dechrau rasus safonol sydd ddim yn rhoi maintais nac anfantais i athletwyr byddar neu rhai sy'n clywed ehangu'r gronfa dalent a lleihau'r rhwystrau o ran mynediad i fyd chwaraeon."