Mae galw ar holl drigolion Ynys Môn, oed 16 a hŷn, i gymryd rhan yn yr arolwg o siaradwyr rhugl i ddysgwyr, i’r rhai sy’n ymwybodol o’r iaith ar yr Ynys.
Comisiynwyd yr gan Fenter Iaith Môn a Chyngor Sir Ynys Môn gyda chyllid gan Gronfa Adfywio Cymunedol y Deyrnas Unedig. Bydd yr arolwg yn ffurfio rhan bwysig o fenter iaith Gymraeg.
Meddai Elen Hughes, Prif Swyddog Menter Iaith Môn,
“Dyma’r tro cyntaf i ni ymgymryd â phrosiect ymchwil o’r math hwn ar lawr gwlad ym Môn. Rydan ni’n hynod o falch o fod yn cyd-weithio gyda Phrifysgol ϲʹ. Bydd eu harbenigedd a dealltwriaeth o’r maes ymchwil yn rhoi data fydd yn werthfawr i ni ac yn helpu ni gynllunio ein gwaith dros y blynyddoedd nesaf.
“Yn ystod yr wythnosau nesaf byddwn yn ymestyn at gymunedau a chymdeithasau Môn er mwyn sicrhau bod cymaint o bobl â phosib yn cael y cyfle i lenwi’r holiadur. Y mwya’n byd fydd yn cymryd rhan, y gorau’n byd - i ni gael y darlun llawn, felly plîs ewch ati i’w gwblhau - mae’r Gymraeg yn perthyn i ni gyd.”
Dywedodd Dr Rhian Hodges sy’n Uwch Ddarlithydd Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol ym Mhrifysgol ϲʹ,
“Mae'r project yma'n cynnig cyfle pwysig i ni roi'r chwyddwydr ar sut mae'r Gymraeg yn cael ei defnyddio o ddydd i ddydd ar Ynys Môn. Mae'n gyfle i ni ddysgu mwy am y cyfleoedd amrywiol i ddefnyddio'r Gymraeg yn gymunedol, ond hefyd i ni geisio deall rhai o'r rhwystrau sy'n atal rhai unigolion rhag defnyddio'r Gymraeg hefyd.”
Mae Dr Cynog Prys hefyd yn Ddarlithydd Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol ym Mhrifysgol ϲʹ, ychwanegodd,
“Dyma gyfle gwych i astudio ardal unigryw o Gymru, ac ardal sydd â chanran uchel o siaradwyr Cymraeg. Ѳ’r astudiaeth hon yn cael ei chynnal yn ystod cyfnod diddorol, yn enwedig felly wrth i ni ymdopi â nifer o newidiadau cymdeithasol rydan ni wedi eu gweld yn sgil y pandemig.”
Bydd canfyddiadau’r holiadur yn helpu Menter Iaith Môn a Fforwm Iaith Môn i greu cynllun gweithredu yn seiliedig ar y canlyniadau, fydd yn gosod seiliau cadarn i’w gwaith o ran datblygu a hyrwyddo’r iaith fel iaith fyw ar yr ynys dros y blynyddoedd nesaf.
Ѳ’r yn rhan o waith Menter Iaith Môn sydd wedi derbyn £250,000 o Gronfa Adfywio Cymunedol Llywodraeth y Deyrnas Unedig.