Cyfansoddiad emosiynol gan fyfyriwr yn cael ei berfformio am y tro cyntaf mewn cyngerdd diwedd blwyddyn
Wrth i Brifysgol ϲʹ baratoi i lwyfannu ei Chyngerdd Gala Diwedd y Flwyddyn yn Neuadd Prichard-Jones ddydd Gwener, 3 Mehefin, mae un ferch ifanc yn paratoi ar gyfer noson i’w chofio gan y bydd ei chyfansoddiad blwyddyn olaf yn cael ei chwarae am y tro cyntaf ar y noson, sy’n rhan o ddathlu 100 Mlynedd o Gerddoriaeth ym Mangor.
Cyfansoddodd Charlotte Oxberry, sy’n fyfyriwr blwyddyn olaf ar y radd BA Cerddoriaeth, y gwaith fel rhan o’i phroject blwyddyn olaf far gyfansoddi, ac mae ‘Disaster at Holditch’ yn deyrnged i’r trychineb chwarel ddigwyddodd yn ei hardal enedigol Stoke on Trent yn 1937. Bydd y gerddorfa symffoni yn perfformio'r symudiad olaf, ‘Symudiad Pedwar: Galargan’.
Dywedodd Charlotte, sydd wedi treulio’r rhan fwyaf o’r ddwy flynedd diwethaf ym Mangor i ffwrdd o’i theulu, “Mae’n deimlad mor od, gwybod mod i wedi treulio’r rhan fwyaf o’r flwyddyn academaidd ddiwethaf ar hwn, ac wedyn cael gwybod y bydd yn cael ei berfformio yn y Cyngerdd Gala yn ystod dathliadau’r canmlwyddiant! Ar un llaw, dwi’n ofnus iawn, ond ar yr un pryd yn hollol gyffrous bod darn bach o fy hanes lleol yn mynd i gael ei gyfleu trwy gerddoriaeth.
Mae’r gerddorfa wir yn fendigedig, a dw i’n teimlo’n freintiedig iawn. Roeddwn am gadw hyn yn gyfrinach o’m rhieni a gadael iddynt glywed ar y noson, ond mae’r gyfrinach allan rŵan, a dwi’n siŵr y bydd yn foment arbennig iawn iddynt hwythau hefyd.
Bydd y gerddorfa symffoni yn perfformio’r gwaith gan ychwanegu’r Tiwbglychau, sy’n ddarn nodweddiadol o’r darn, yn arbennig ar y diwedd.
Meddai Charlotte, “Fel mae teitl y symudiad ‘Galargan’ yn awgrymu, roeddwn eisiau cyfleu’r synnwyr yna o adlewyrchu ac emosiwn. Byddwn yn hoffi meddwl y bydd y gynulleidfa’n synhwyro’r galar a’r golled o’r rhai hynny brofodd colled, ond hefyd teimlad o gymuned. Wedi’r trychineb, death y gymuned ynghyd i gefnogi teuluoedd y chwarelwyr. Felly, dylai’r gynulleidfa deimlo’r tristwch ond hefyd y gymuned, yn cael ei chefnogi gan gerddoriaeth.”
Bydd y Cyngerdd Gala Diwedd Blwyddyn yn cynnwys bandiau ac ensemblau o’r Brifysgol drwyddi dra, gan gynnwys jazz, llinynnau a phedwarawd sacsoffon, yn ogystal â chôr y gymdeithas gerddorol, y côr siambr, y band cyngerdd a’r gerddorfa symffoni. Bydd Steven Evans, cyn-fyfyriwr cerdd ym Mangor, hefyd yn chwarae’r organ mewn perfformiad o’r Concerto i'r Organ gan Handel.
Meddai’r Athro Andrew Lewis, Pennaeth yr Adran Gerddoriaeth, “Wrth i ni agosáu at ddiwedd y flwyddyn academaidd, mae’n bleser pur gallu dod at ein gilydd i ddathlu’r cyfoeth o gerddoriaeth sy'n cael ei greu ar draws y Brifysgol. Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr am flwyddyn o waith caled, ymroddiad, a cherddoriaeth wirioneddol wych!”
Ychwanegodd Gwyn L Williams, Cyfarwyddwr Cerdd y Brifysgol, “Yn ystod ein dathliad blwyddyn o hyd ar ganmlwyddiant Cerddoriaeth ym Mangor rydym wrth gwrs wedi bod yn canolbwyntio ar lwyddiannau mawr y Brifysgol yn y gorffennol. Mae gennym ni lawer i fod yn falch ohono. Yn yr un modd, bu'r flwyddyn yn ymwneud ag edrych i'r dyfodol. Rydym wedi ail-sefydlu ein cysylltiadau â’r gymuned, cymaint o gerddoriaeth nodwedd yn y Brifysgol, ac yn y cyngerdd ar Fehefin 3 mae’n bleser cynnwys cerddoriaeth gan y genhedlaeth nesaf o offerynwyr, cantorion a chyfansoddwyr. Mae gwaith teimladwy Charlotte yn ein hatgoffa bod mwy sy’n cysylltu nag yn gwahanu cymunedau ar draws Prydain, gan drasiedi a cholled, ond hefyd gan yr arfer cyffredin o alaru a chan y cysur a ddaw yn sgil cerddoriaeth.”
Cyngerdd Gala Prifysgol ϲʹ
Nos Wener 3 Mehefin, 7.30pm Neuadd Prichard-Jones, Prifysgol ϲʹ
Tocynnau: AM DDIM a dim angen tocyn.