Ar ôl perfformio ar lwyfan cerddoriaeth ddawns danddaearol amgen Glastonbury, gŵyl gerddoriaeth fwyaf y byd, mae’r DJ o fri rhyngwladol a chynhyrchydd recordiau Sasha, wedi gwisgo clogyn academaidd heddiw (dydd Mawrth 5 Gorffennaf), i dderbyn gradd er anrhydedd gan y brifysgol yn ei dref enedigol ym Mangor, gogledd Cymru.
Wrth dderbyn y Radd er Anrhydedd, datgelodd y DJ a aned ym Mangor fod ei gig gyntaf wedi digwydd yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol ϲʹ - a’i fod wedi arwain at yrfa sydd wedi mynd ag ef o amgylch y byd!
Ganwyd Sasha i rieni a raddiodd o Brifysgol ϲʹ, ac mae wedi cadw cysylltiad â chymuned ehangach ϲʹ ac wedi dychwelyd i’r ardal i weithio fel DJ dros nifer o flynyddoedd, gan chwarae yng nghlwb nos Academi Undeb Myfyrwyr y brifysgol mor ddiweddar â mis Tachwedd 2021.
Mae Sasha'n fwyaf adnabyddus am ei ddigwyddiadau byw a cherddoriaeth electronig fel artist unigol yn ogystal â'i brojectau cydweithio gyda John Digweed. Cafodd ei ethol fel y DJ gorau yn y byd yn 2000 mewn arolwg barn a gynhaliwyd gan DJ Magazine ac arhosodd yn y pump uchaf am wyth mlynedd yn olynol ac yn y 10 uchaf am 11 mlynedd yn olynol. Mae wedi ennill gwobr yn yr International Dance Music Awards bedair gwaith, wedi ennill gwobr yn y DJ Awards bedair gwaith ac wedi ei enwebu am Wobr Grammy.
Cyflwynodd yr Athro Andrew Edwards, Dirprwy Is-ganghellor, Ddoethuriaeth er Anrhydedd gan y brifysgol i Sasha gan ddweud,
“Mae’n bleser mawr i mi gyflwyno Sasha, a anwyd ym Mangor, am yr anrhydedd hwn. Mae Sasha wedi gwneud cyfraniad rhagorol at ddiwylliant, iaith, cerddoriaeth a’r celfyddydau trwy ei waith greadigrwydd ac mae ei waith yn cael ei gydnabod a’i barchu’n fawr yn y diwydiant cerddoriaeth ar draws y byd. Mae’n llawn haeddu’r radd er anrhydedd, Doethur mewn Cerddoriaeth.”
Gan annerch tair blynedd o raddedigion cerddoriaeth, drama a pherfformio o Brifysgol ϲʹ, meddai Sasha,
“Diolch o waelod calon i’r brifysgol am roi’r fath anrhydedd i mi, mae’n golygu cymaint i mi. Fyddwn i byth wedi dychmygu y byddwn yn dychwelyd i’r Brifysgol lle chwaraeais fy gig gyntaf yn Undeb y Myfyrwyr, a phwy fyddai’n meddwl y byddai’r gig hwnnw wedi arwain at yrfa’n teithio’r byd!
Llongyfarchiadau i’r holl raddedigion y diwrnod: fy nghyngor i chi yw i ganfod yr hyn sy’n eich cyffroi, ac i ddilyn eich calon - gall eich arwain chi i’r llefydd mwyaf anhygoel!”