Ac yntau wedi gadael yr ysgol ar ei ben-blwydd yn 16, a chreu gyrfa iddo’i hun ym maes comedi a darlledu, mae’r digrifwr enwog, Tudur Owen yn derbyn gradd Doethur mewn Llenyddiaeth heddiw (Mawrth 5 Gorffennaf) a’i urddo gyda Gradd er Anrhydedd ym Mhrifysgol ϲʹ.
Roedd Tudur yn ymuno â myfyrwyr sy’n graddio’n ffurfiol o dair blynedd o raddau mewn cerddoriaeth, drama a pherfformio yn ystod tair wythnos o seremonïau graddio na fu eu tebyg o’r blaen.
Wrth gyflwyno Tudur am ei anrhydedd, dywedodd Yr Athro Andrew Edwards,
“Mae Tudur yn adnabyddus am ysgrifennu a pherfformio ar y radio a’r teledu – mae ei raglen radio ar y BBC yn boblogaidd iawn. Mae’n denu llawer o wrandawyr na fyddai’n gwrando ar Radio Cymru fel rheol, a thrwy hynny mae’n cyflwyno rhaglenni a diwylliant Cymraeg i gynulleidfa ehangach. Bu hefyd yn ysgrifennu ac yn cyflwyno rhaglenni Saesneg ar BBC Radio 4.
Mae Tudur yn lladmerydd gwych dros Gymru a’r Gymraeg ac yn fwyaf diweddar bu’n ymgyrchu i gadw’r enwau Cymraeg gwreiddiol ar lefydd yng Nghymru."
rth dderbyn er Radd er Anrhydedd dywedodd Tudur Owen,
“Mae disgrifio hyn fel braint ac anrhydedd yn dan ddatganiad llwyr,”
Anerchodd y graddedigion gan ddweud:
“Dwi wedi bod mor lwcus dwi’n teimlo nad oes gen i mo’r hawl i roi cyngor yn aml iawn, ond yr unig beth faswn yn cynghori pobol ydy i beidio â bod ofn gwneud camgymeriadau, ond trïwch beidio â gwneud yr un camgymeriad ddwywaith. Byddai’n annog pobol i ddysgu drwy fethiant ac i lwyddo drwy drio eto. Ffeindiwch be da chi’n dda am ei wneud ac os da chi’n ddigon lwcus ei ffeindio, mi wnewch chi ffeindio’ch llwybr, mae’n rhaid gweithio’n galed er mwyn cyrraedd y nod.”
Mae Tudur yn enw cyfarwydd yng Nghymru. Mae’n ddigrifwr ac yn gyflwynydd a enillodd wobr BAFTA. Fel comedïwr mae’n llwyddo i gyfuno agwedd ddarostyngedig a Chymreigaidd gydag arddull hwyliog sy’n codi’r galon.
Ar ôl gadael yr ysgol, bu Tudur yn gweithio mewn nifer o swyddi fel mecanic ceir, bu’n trwsio ffensys, ac yn gyrru lorïau. Bu’n gweithio fel rhedwr i Stiwdio Barcud yng Nghaernarfon, a dysgodd lawer am y diwydiant adloniant, ac amdano’i hun. Crisialwyd ei ddewisiadau gyrfa’n ‘cynhesu’r gynulleidfa’ wrth weithio fel cynorthwyydd i reolwr llawr y stiwdio a sylweddoli fod ganddo’r ddawn i wneud i bobl chwerthin.
Bu gan Tudur ddiddordeb mewn comedi erioed. Cafodd gyfle yn Eisteddfod Môn yn 1999 i berfformio pum munud o gomedi stand-yp ac ni fu pethau byth yr un fath. Daeth yn adnabyddus ar y gylchdaith stand-yp, a bu’n perfformio mewn clybiau comedi ledled Cymru a Lloegr. Bu’n perfformio’n gyson yn nigwyddiadau ymylol Gŵyl Caeredin dros y 15 mlynedd diwethaf.
Yn ystod ei yrfa, enillodd Tudur wobr BAFTA fel y cyflwynydd gorau a chafodd ei enwebu am nifer o anrhydeddau, gan gynnwys un gan y Gymdeithas Deledu Frenhinol. Roedd yn falch iawn o gael ei dderbyn i’r Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst 2019.
Mae Tudur hefyd yn ddyn busnes llwyddiannus. Mae’n creu swyddi lleol trwy’r caffis, Tŷ Golchi yn y Felinheli a Clustiau Mul ym Mhorthaethwy. Cododd Tudur hefyd swm sylweddol o arian at elusennau dros y degawd diwethaf fel noddwr Hosbis Dewi Sant, yn ogystal â chymryd rhan mewn digwyddiadau i elusennau eraill.
Mae Tudur hefyd yn adnabyddus am ysgrifennu a pherfformio ar y radio a’r teledu – mae ei raglen radio ar y BBC yn boblogaidd iawn. Mae’n denu llawer o wrandawyr na fyddai’n gwrando ar Radio Cymru fel rheol, a thrwy hynny mae’n cyflwyno rhaglenni a diwylliant Cymraeg i gynulleidfa ehangach. Bu hefyd yn ysgrifennu ac yn cyflwyno rhaglenni Saesneg ar BBC Radio 4.