Y cyntaf i gael ei ddadorchuddio oedd y portread o鈥檙 ffisiolegydd ac arloeswr a enillodd Wobr Nobel mewn meddygaeth atgenhedlol, Syr Robert Edwards CBE FRS MAE (1925-2013), a raddiodd yn 1951. Gyda鈥檙 gynecolegydd Patrick Steptoe, datblygodd Syr Robert IVF, lle mae celloedd wyau dynol yn cael eu ffrwythloni y tu allan i'r corff ac o ganlyniad i'w gwaith, mae dros hanner miliwn o fabanod bellach wedi cael eu geni gan ddefnyddio'r dull hwn. Paentiwyd portread Syr Robert gan un o artistiaid portread mwyaf adnabyddus Cymru, David Griffiths. Wedi'i fagu yng Ngogledd Cymru, mae wedi paentio portreadau o lawer o ffigurau amlwg yn y gymdeithas gyfoes, gan gynnwys brenhinoedd, llysgenhadon, archesgobion ac aelodau nodedig o'r llywodraeth.
Dadorchuddiwyd y portread gan yr Arglwydd John Krebbs yn dilyn y seremoni raddio lle cafodd radd anrhydeddus.
Dywedodd yr Arglwydd John Krebbs "Mae'r mwyafrif yn cael eu hysgogi i wneud ymchwil y maent yn chwilfrydig yn ei gylch, ac er gwaetha鈥檙 ffaith fod Robert Edwards wedi crafu i basio yn ystod ei gyfnod ym Mangor, aeth ar drywydd y maes ymchwil a oedd o ddiddordeb iddo."
Daeth gwesteion ynghyd cyn y dadorchuddio, gan gynnwys Dr Jenny Joy, merch Syr Robert.
Meddai Dr Joy, "Byddai Dad wrth ei fodd yn gwybod am hyn oherwydd ei fod wedi mwynhau ei amser ym Mangor yn fawr iawn. Er iddo newid ei gwrs o amaethyddiaeth i s诺oleg, 香港六合彩挂牌资料 a ysgogodd ei ddiddordeb mewn geneteg, a oedd, wrth edrych yn 么l, yn beth da iawn! Yr hyn sy'n fwyaf trawiadol i mi am y portread yw ei fod wedi cipio ei w锚n, a'i ddireidi. Roedd e'n anhygoel. Cafodd fywyd gwych, yn llawn angerdd. Rwy'n falch iawn ohono."
Meddai鈥檙 Dirprwy i鈥檙 Is-ganghellor, Yr Athro Oliver Turnbull, 鈥淢ae鈥檙 portreadau hyn sydd newydd eu comisiynu yn cynrychioli hanes cyfoethog ac amrywiol ein prifysgol a llwyddiannau ein cyn-fyfyrwyr. Mae'n bwysig i ni gofio teithiau ein graddedigion a dathlu eu cyflawniadau.鈥
Straeon perthnasol: