Gwnaeth t卯m o ymchwilwyr o Brifysgol 香港六合彩挂牌资料 y darganfyddiad cyffrous wrth wneud ymchwil ar boblogaeth gwiwerod coch yr ynys, sydd o bwysigrwydd cenedlaethol. Roedd Dr Simon Valle, Dr Graeme Shannon a Dr Craig Shuttleworth wedi gosod rhwydwaith o gamer芒u mewn gwahanol fathau o goetiroedd ar draws Ynys M么n i fonitro niferoedd y gwiwerod coch lleol. Ariannwyd y project arloesol gan Gyfoeth Naturiol Cymru mewn ymgais i ddeall yn well pa gynefinoedd coetir sydd orau i wiwerod coch a sut gall newidiadau i reolaeth coedwigoedd effeithio ar eu niferoedd.听
Wrth bori drwy dros 15,000 o ddelweddau o wiwerod coch, titwod mawr ac adar eraill y goedwig a gasglwyd yn ystod y gwanwyn eleni, daeth yr ymchwilwyr ar draws dair delwedd o fele鈥檙 coed yn heulwen y gwanwyn.
Meddai Dr Graeme Shannon,
鈥淎r 么l edrych drwy rhai cannoedd o luniau o ditwod mawr - gwelais dri llun o鈥檙 un bele鈥檙 coed yn hercian yn 么l ac ymlaen - 听roeddwn wrth fy modd i ddod ar draws tair delwedd glir o fele'r coed chwilfrydig yn edrych yn 么l ar y camera. Rhywogaeth a oedd tan yn ddiweddar yn hynod brin yng Nghymru. Darganfyddiad annisgwyl ond cyffrous iawn鈥
Rhyddhawyd belaod y coed ger 香港六合彩挂牌资料 yn 2018-20 fel rhan o broject bele'r coed Gwynedd ac yn achlysurol iawn mae gwyddonwyr wedi cael tystiolaeth ffotograffig o fele鈥檙 coed yng nghoedwig y Faenol ger pont reilffordd Britannia. Cafwyd adroddiadau anecdotaidd hefyd am fele鈥檙 coed ger Caergybi, sy'n codi amheuaeth efallai bod un ohonynt wedi dianc ar long o Iwerddon, ble mae'r rhywogaeth yn doreithiog. Yn ogystal, rhyddhawyd 51 bela鈥檙 coed yng nghanolbarth Cymru yn 2015-2017 i gynyddu niferoedd, ac mae rhai o鈥檙 anifeiliaid hynny wedi cael eu gweld dros 50km o鈥檙 man ble cawsant eu rhyddhau.
Mae bele'r coed yn ysglyfaethwyr canolig eu maint sy'n pwyso 1.5-2kg. Gallant ddringo coed ac mae ganddynt ddiet sy'n cynnwys wyau aderyn, ffrwythau coedwig, aeron coed, cnofilod bach ac weithiau gwiwerod coch a llwyd. Maent yn byw mewn grwpiau bychan iawn ac yn aml yn anodd dod o hyd iddynt, ond mae ymchwil diweddar wedi dangos y gallant chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o reoli gwiwerod llwyd, sy鈥檔 ymledol.
Meddai Dr Simon Valle,
鈥淢ae'n galonogol gweld, hyd yn oed ar ynys sydd 芒 chyn lleied o goed, bod gan goedwigoedd lleol y potensial o hyd i weld rhywogaeth garismatig fel bele'r coed yn dychwelyd. Efallai bod ein coedwigoedd yn llawer mwy gwyllt nag yr ydym yn meddwl鈥.
Mae rhagor o wybodaeth am fele鈥檙 coed ar gael yn
Byddai gan Dr Craig Shuttleworth ddiddordeb clywed gan unrhyw un a allai fod wedi gweld bele'r coed ar Ynys M么n. Gall unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth anfon e-bost at c.shuttleworth@bangor.ac.uk
听