Goroesi Cyfnodau Anodd drwy Fuddsoddi yn y Dyfodol
Mae cwmnïau'n wynebu nifer o heriau, yn amrywio o brinder llafur i gostau cynyddol cyflenwadau i bryderon cynyddol ymhlith defnyddwyr am effaith amgylcheddol y cynhyrchion a'r gwasanaethau y maent yn eu prynu.
O gwmnïau twristiaeth i fanciau amlwladol, mae'r heriau hyn yn effeithio ar gwmnïau waeth beth fo'u nodweddion unigol. Sut ddylai cwmnïau ymateb i’r heriau hynny? Yn ffodus, mae gwahanol fecanweithiau'n bodoli a all alluogi cwmnïau i oroesi a ffynnu mewn cyfnodau heriol o’r fath. Yn eu plith mae buddsoddi mewn gweithwyr, gwneud mwy o ddefnydd o dechnoleg, a chynnig cynhyrchion neu wasanaethau newydd. Mewn unrhyw gwmni, mae'n debygol y bydd angen cymysgedd o’r mecanweithiau hyn.
Buddsoddi mewn Gweithwyr
Trwy fuddsoddi a hyfforddi eu gweithwyr a thrwy roi cyfleoedd i weithwyr ddefnyddio eu sgiliau newydd, gall cwmnïau wneud eu gweithleoedd yn fannau mwy deniadol i weithio ynddynt, gan eu helpu i recriwtio a dal eu gafael ar weithwyr allweddol. Mae’r gweithwyr yn aml yn gwerthfawrogi'r cyfle i ennill medrau newydd a all arwain at gyfrifoldebau ychwanegol, gan eu galluogi i amrywio eu gweithgareddau a chryfhau’r cyfraniad a wnânt i'w cyflogwr. Yn wir, drwy wella sgiliau gweithwyr, gall hyfforddiant gynyddu cynhyrchedd gweithwyr, gan alluogi'r cwmni i gyflawni mwy gyda'r un nifer o weithwyr. Gall hyfforddiant ganolbwyntio ar 'sgiliau caled', megis cyllid, logisteg neu reoli adnoddau dynol, neu gallant geisio datblygu 'sgiliau meddal', gan gynnwys sgiliau arwain, cymell a chyflwyno. Dylai'r hyfforddiant geisio hybu effeithlonrwydd gweithwyr drwy ddyfnhau eu sgiliau swyddogaethol presennol a thrwy eu helpu i feithrin safbwyntiau newydd o ran sut i wneud eu gwaith. Yn ogystal, dylai’r hyfforddiant geisio paratoi gweithwyr ar gyfer y cam nesaf yn eu gyrfa yn y sefydliad drwy roi cipolwg iddynt ar eu personoliaeth eu hunain a sut mae gweithio ar eu liwt eu hunain a chydag eraill.
Gwneud mwy o Ddefnyddio o Dechnoleg
Yn aml gall technoleg gyfeirio at ddatblygiadau cyfrifiadurol newydd, megis deallusrwydd artiffisial, rhithrealiti neu realiti estynedig, ond gall fod yn llawer o bethau eraill hefyd. Gallai mabwysiadu dulliau cymharol syml o reoli cysylltiadau cwsmeriaid alluogi cwmnïau bach, er enghraifft, i olrhain yr ymholiadau y mae'r cwmni yn eu derbyn, dod i ddeall tueddiadau newydd y farchnad a sylwi ar gyfleoedd newydd yn y farchnad, a gallai hynny fod yn amhrisiadwy. Technoleg ar ffurf algorithmau yw sylfaen peiriannau chwilio. Gall deall sut mae'r peiriannau chwilio hynny'n gweithio helpu cwmnïau i ymddangos yn nes at frig rhestr ganlyniadau’r peiriant chwilio heb orfod talu am osod hysbyseb ar frig y dudalen. Er enghraifft, gallai ymgorffori ar wefan cwmni rai o’r geiriau y byddai darpar gwsmeriaid yn chwilio amdanynt wrth chwilio am gynnyrch neu wasanaeth gynyddu'r tebygolrwydd y bydd y wefan yn ymddangos yn uwch ar y rhestr ganlyniadau. Felly, hefyd, ymgorffori cysylltiadau at wefannau eraill neu o wefannau eraill, gan fod hyn fel arfer yn cynyddu pwysigrwydd y wefan honno o fewn yr algorithm. Drwy geisio cynyddu amlygrwydd eu gwefannau i beiriannau chwilio, gall cwmnïau ddechrau rheoli eu safle ar y rhestr ganlyniadau yn hytrach na gadael hynny yn nwylo ffawd. Yn fyr, gall cael strategaeth optimeiddio peiriannau chwilio arwain at sefyllfa lle mae cwsmeriaid yn fwy ymwybodol o gynhyrchion a gwasanaethau cwmnïau, a gall hynn gynyddu elw.
Cynnig Cynnyrch neu Wasanaethau Newydd
Dywedir yn aml mai'r unig gysonyn yw newid. I gwmnïau, mae hyn yn golygu meddwl yn barhaus am anghenion newidiol ac esblygol eu cwsmeriaid presennol a’u darpar gwsmeriaid. Mae hefyd yn golygu meddwl am y ffordd orau y gall y cwmni greu cynhyrchion neu wasanaethau sy'n diwallu'r anghenion hynny ac sy'n ychwanegu gwerth ar gyfer eu cwsmeriaid. Gall hyn gynnwys nodi cyfleoedd newydd a datblygu'r medrau sydd eu hangen i ddarparu cynhyrchion sy'n bodloni gofynion cwsmeriaid ac sydd eu hangen i wneud elw. Nid oes diben meddwl am gynnyrch gwych os oes rhaid i chi ddibynnu ar ddosbarthwr, sy'n cymryd y gyfran fwyaf o'r elw, i werthu'r cynnyrch hwnnw i gwsmeriaid. Yn ogystal, ni all pob cwmni fod fel Amazon a ddechreuodd fel siop lyfrau ar-lein ac sydd bellach yn gwerthu peth wmbredd o gynhyrchion ac sydd bellach yn gwneud llawer o'i refeniw a'i elw trwy’r is-gwmni Amazon Web Services sy'n darparu gwasanaethau cyfrifiadura yn y cwmwl i fusnesau eraill. Gall nodi marchnadoedd newydd i werthu iddynt hefyd olygu od angen i reolwyr cwmnïau feddwl am y gweithgareddau a'r cynhyrchion neu’r wasanaethau cysylltiedig y mae'r cwmni'n dda iawn am eu gwneud, ac yna nodi lle mae'r gweithgareddau hynny'n cael eu gwerthfawrogi gan grŵp arall o gwsmeriaid nad yw'r cwmni'n eu gwasanaethu ar hyn o bryd. Er enghraifft, mae cyfleoedd sylweddol yn bodoli i ffermwyr Cymru gan y gallai eu sgiliau wrth ofalu am fyd natur eu helpu i arallgyfeirio eu ffynonellau refeniw. O'u cymharu â'u cyd-amaethwyr yn Lloegr, mae ffermwyr Cymru yn cael llai o refeniw fel canran o gyfanswm eu hincwm o rentu eiddo. Yn yr un modd, mae gwerthu'n uniongyrchol i gwsmeriaid adwerthu yn cynnig ffordd arall i ffermwyr Cymru arallgyfeirio eu marchnadoedd. Er mwyn gallu manteisio ar y cyfleoedd hynny, efallai y bydd angen iddynt gydweithio ymhellach ag eraill i oresgyn rhai ffactorau, er enghraifft, pa mor bell ydynt o drefi a dinasoedd lle mae cwsmeriaid adwerthu'n byw.
Mae'r hinsawdd economaidd bresennol yn creu heriau difrifol i bob cwmni. Trwy barhau i fuddsoddi mewn gweithwyr, technoleg a chynhyrchion newydd, bydd cwmnïau mewn sefyllfa dda i ymateb i'r heriau hynny.
Yr Awdur
Athro mewn Rheolaeth yw Matthew Allen, a Phennaeth y Grŵp Busnes, Rheoli a Marchnata ym Mhrifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar gyfalafiaethau cymharol, theori sefydliadol, a pherfformiad sefydliadol. Ar hyn o bryd mae'n gweithio gyda busnesau i wella eu cynhyrchedd a rhoi hwb i'w refeniw a'u helw. Y strategaethau y mae'r cwmnïau hynny wedi'u datblygu i oresgyn yr heriau y maent yn eu hwynebu sy’n llywio cynnwys y blog hwn.
Ìý