Y myfyrwyr ymchwil eithriadol eleni sydd wedi gwneud cyfraniad academaidd, diwylliannol neu gymdeithasol eithriadol at y brifysgol yw Beverley Pickard-Jones a Veronica Diveica, ill dwy yn astudio seicoleg yn Ysgol y Gwyddorau Dynol ac Ymddygiadol.
Beverley Pickard-Jones, sydd wedi ennill Medal Arian Cwmni鈥檙 Brethynwyr. Mae Beverley o Gyffordd Llandudno yn frwd am addysgu, ac enillodd Gymrodoriaeth yr AAU a gwobrau mewnol ac allanol yn ystod ei doethuriaeth. Mae hi'n datblygu enw da yn academaidd trwy gyhoeddi mewn cyfnodolion o safon uchel a adolygir gan gymheiriaid ac yn y wasg leyg, cyflwyno mewn cynadleddau, a dechrau projectau cydweithredol rhyngwladol. Mae hi hefyd wedi dyfeisio arbrawf newydd, a allai o bosib fod yn ddull clinigol o asesu diffygion canfyddiad o ddyfnder. Yn ogystal 芒鈥檌 hymchwil, mae wedi cyflwyno sawl menter gyflogadwyedd i baratoi israddedigion at yrfa mewn diwydiant ac wedi cyflwyno seminarau arbenigol ar yrfaoedd proffesiynol a methodolegau ystadegol i fyfyrwyr doethurol.
Mae Beverley wedi trefnu gweithgareddau ymgysylltu 芒鈥檙 cyhoedd i gynyddu effaith ei hymchwil a chodi proffil Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 trwy ymgysylltu 芒 grwpiau cymunedol a chreu cyfleoedd i鈥檙 cyhoedd gael gwybod am ymchwil a chymryd rhan mewn ymchwil. Cyd-drefnodd hefyd ddwy gynhadledd ddoethurol a threfnodd gyfres o sesiynau ysgrifennu i fyfyrwyr doethurol yn y brifysgol. Fel cynrychiolydd cwrs, mae hefyd wedi cynrychioli ei chyd-fyfyrwyr dros nifer o flynyddoedd.
Meddai Dr Ayelet Sapir, goruchwyliwr doethuriaeth Beverley, 鈥淢ae Beverley yn aelod gwerthfawr iawn o鈥檔 hysgol. Mae ei chyfraniad yn enfawr, mae wedi cael cydnabyddiaeth am ragoriaeth mewn addysgu, goruchwylio myfyrwyr yn annibynnol, a threfnu seminarau cyflogadwyedd i fyfyrwyr, gan ddangos ei photensial i ddatblygu鈥檔 addysgwr ac ymchwilydd uchel ei pharch.鈥
Dyfarnwyd medal Efydd Cwmni鈥檙 Brethynwyr i Veronica Diveica, o Rwmania, sy'n fyfyrwraig ddoethurol.
Mae Veronica eisoes wedi ennill ysgoloriaeth ymchwil PhD DTP gystadleuol ESRC Cymru a grantiau eraill, gan gynnwys ysgoloriaeth gan Raglen Gyfnewid Ddoethurol Globalink UKRI-Mitacs i ymgymryd ag interniaeth ymchwil yng Nghanada. Mae hi wedi ysgrifennu tri phapur ymchwil mewn cyfnodolion o safon uchel a adolygir gan gymheiriaid, wedi cyflwyno mewn cynadleddau rhyngwladol, ac wedi ennill tair gwobr academaidd sefydliadol yn ogystal 芒 gwobr 么l-radd genedlaethol gan Gymdeithas Niwroseicolegol Prydain.
Mae Veronica yn gweithio'n galed i gefnogi ei chyfoedion a chynrychioli'r gymuned ehangach o ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa yn y Deyrnas Unedig trwy wirfoddoli ar bwyllgorau lleol a chenedlaethol. Mae鈥檔 cyfrannu at y gymuned ddysgu ym Mangor, gan weithredu fel mentor ysgrifennu academaidd, goruchwyliwr traethawd hir a hyfforddwraig raddedig, ac enillodd Wobr Athro/Athrawes 脭l-radd y Flwyddyn yng Ngwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 yn 2022.
Meddai ei goruchwyliwr, Richard Binney, 鈥淢ae Veronica eisoes wedi dangos ei bod yn ymchwilydd rhagorol sydd 芒 photensial mawr i fod yn arweinydd ym maes niwrowyddoniaeth, yn ogystal 芒 bod yn fentor ysbrydoledig i genedlaethau鈥檙 dyfodol. Nodweddion ei phrojectau ymchwil yw defnyddio'r fethodoleg ddiweddaraf a safonau uchel o dryloywder a thrylwyredd. Mae hi wedi dod yn ymchwilydd medrus iawn sy鈥檔 defnyddio dulliau rhyngddisgyblaethol i ymdrin 芒 gwyddoniaeth sylfaenol a chymhwysol, ac mae hi eisoes wedi creu sawl cydweithrediad rhyngwladol sy鈥檔 adlewyrchu hynny. Mae Veronica hefyd yn ysgolhaig rhagorol o ran ei hymrwymiad i ddarparu gwasanaeth gwirfoddol i鈥檙 gymuned academaidd a鈥檙 gymuned fyfyrwyr.鈥
Meddai Caroline Bowman, Pennaeth Dros Dro Ysgol y Gwyddorau Dynol ac Ymddygiadol: 鈥淢ae鈥檙 ffaith bod y ddwy fedal wedi eu dyfarnu i fyfyrwyr o鈥檔 hysgol yn dangos gallu ac ymrwymiad eithriadol ein myfyrwyr, rydym yn falch iawn o gael cymuned 么l-radd mor fywiog ym Mangor!鈥