Wystrys wedi’u hadfer yn cefnogi bywyd morol
Datganiad i'r wasg gan ZSL
Prosiect cadwraeth yn dod o hyd i filoedd o anifeiliaid sy'n byw ochr yn ochr â’u meithrinfeydd wystrys arloesol.
Mae’r Prosiect Wystrys Gwyllt yn dathlu llwyddiant i fywyd gwyllt yn ystod Diwrnod Wystrys y Byd (5 Awst) ar ôl canfod dros 27,000 o anifeiliaid morol sy’n byw ymysg eu meithrinfeydd wystrys brodorol – sy’n dangos bod y prosiect adfer yn helpu mwy na dim ond wystrys.
Mae’r prosiect tair blynedd uchelgeisiol, sy’n rhychwantu rhanbarthau arfordirol ledled Cymru, Lloegr a’r Alban, yn gartref i dros 140 o feithrinfeydd wystrys a 4,000 o wystrys ar draws tri o Aberoedd Prydain.
Flwyddyn ar ôl i filoedd o wystrys brodorol (Ostrea edulis), sy’n cael eu cadw mewn meithrinfeydd ac yn cuddio o dan bontynau marina, gael eu dychwelyd i ddyfroedd y DU, mae’r prosiect adfer wedi darganfod 65 o rywogaethau gan gynnwys y llysywod Ewropeaidd mewn perygl difrifol, y corgimychiaid cyffredin, a’r cranc glas y môr sy’n byw ochr yn ochr â’r wystrys.
Nod y Prosiect Wystrys Gwyllt, partneriaeth rhwng y Gymdeithas Swolegol yn Llundain, Blue Marine Foundation a British Marine, yw helpu i adfer dyfroedd arfordirol ledled y DU drwy ddod ag wystrys brodorol yn ôl o’r perygl o ddiflannu’n llwyr ar ôl iddynt ostwng dros 95%. Yn cwmpasu Cymru, Lloegr a’r Alban, defnyddiwyd meithrinfeydd wystrys mewn rhanbarthau arfordirol yn Afon Conwy (Cymru), Firth of Clyde (Yr Alban) a Tyne a Wear (Lloegr). Flwyddyn yn ddiweddarach, mae’r meithrinfeydd eisoes yn dangos eu gwerth i’r amgylchedd y maent ynddo.
Mae wystrys brodorol, sy’n ennill y teitl ‘arwyr brodorol’, yn cynnig manteision enfawr i ddyfroedd arfordirol drwy helpu i lanhau moroedd ac mae eu meithrinfeydd yn darparu cynefin pwysig i sawl rhywogaeth o fywyd gwyllt y môr.
Dywedodd Celine Gamble, Rheolwr Prosiect Wystrys Gwyllt ZSL, “Mewn ymgais i adfer poblogaethau wystrys brodorol, ac yn eu tro i weithio tuag at ddychwelyd dyfroedd arfordirol iach a gwydn, fe wnaethom osod meithrinfeydd sy’n llawn wystrys o dan bontynau marina. Hyd yma, gyda chefnogaeth dros 200 o wirfoddolwyr cymunedol lleol, sydd wedi gwirfoddoli am dros 2,000 o oriau, rydym eisoes wedi gweld wystrys yn cael effaith gadarnhaol iawn, mewn cyfnod byr iawn.
“Er gwaethaf y ffaith eu bod yn fach o ran maint, mae wystrys wedi cael effaith enfawr ar eu hamgylchedd, gan gynnwys darparu cynefin hanfodol i rywogaethau pwysig fel llyfrothod, gwrachod eurben, crancod, cramenogion deudroediog, cregyn gleision glas, pysgod bol melyn a phibellau môr lleiaf. Rydym wedi bod yn falch iawn o ddod o hyd i’r rhain i gyd ochr yn ochr â’r meithrinfeydd wystrys brodorol rydym wedi’u sefydlu, o fewn blwyddyn i ni ddechrau’r prosiect.”
Dywedodd Maria Hayden-Hughes, Swyddog Prosiect Wystrys Gwyllt lleol, “Yn ein safle cadwraeth yn Afon Conwy, sy’n cael ei ddarparu gan Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol ϲʹ, gwelsom dros 40 o rywogaethau anhygoel fel cranc heglog hirbig, llyfrothod, pibellau môr lleiaf – perthynas agos â’r morfeirch, sef llyfrothod penddu, berdys symudliw yn byw ymysg y wystrys brodorol.”
Dywedodd Matt Uttley, Rheolwr Prosiect Adfer, Blue Marine, “Mae’n wych ein bod nawr yn gweld cynnydd mewn bioamrywiaeth o amgylch y meithrinfeydd. Mae wystrys brodorol yn beirianwyr ecosystem, sy’n golygu eu bod yn creu cynefin 3D cymhleth sy’n darparu mannau bwydo a meithrinfeydd ar gyfer rhywogaethau eraill. Lle rydym yn dod o hyd i boblogaethau gwyllt o wystrys brodorol, rydym hefyd yn dod o hyd i fwy o rywogaethau eraill. Gan ystyried bod gwelyau wystrys brodorol mor hanfodol i fywyd morol, ac eto’n un o’r cynefinoedd morol sydd dan y bygythiad mwyaf yn Ewrop, mae gwaith y prosiect Wystrys Gwyllt i adfer y cynefinoedd coll hyn yn hanfodol.”
Aeth Celine Gamble yn ei flaen, “Gallwn amcangyfrif, mewn un flwyddyn yn unig, bod y 4,000 o wystrys bellach wedi hidlo llygryddion allan mewn bron i 98 miliwn litr o ddŵr, sy’n cyfateb i bron i hanner miliwn o fathiau llawn dŵr. Nhw yw arwyr ein moroedd. Diolch i chwaraewyr Loteri Cod Post y Bobl, rydym yn dechrau gweld yr effaith mae wystrys brodorol yn ei chael ar gefnogi dyfroedd arfordirol iach, gwydn.”
Mae’r Prosiect Wystrys Gwyllt bellach wedi dechrau gweld y wystrys aeddfed yn y meithrinfeydd yn rhyddhau’r genhedlaeth nesaf o wystrys bach i wely’r môr. Bydd y wystrys ifanc, a elwir yn sil, yn setlo ar draws y tair rîff wystrys sydd wedi’u creu ar draws Aberoedd Prydain. Mae’r prosiect yn parhau i weithio gyda phartneriaid lleol i ddechrau adfer y riffau wystrys gwerth 20,000km2 sydd wedi cael eu colli o amgylch arfordir Prydain.
Cafodd y prosiect Wystrys Gwyllt £1.18m o gyllid a godwyd gan chwaraewyr Loteri Cod Post y Bobl drwy wobr flynyddol Dream Fund. Mae’r Dream Fund yn cael arian drwy’r Ymddiriedolaeth Arloesi Cod Post ac mae’n bodoli i roi cyfle i sefydliadau ddod â phrosiectau uchelgeisiol, arloesol a chydweithredol yn fyw.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i . į