Mae sicrhau nad yw ieithoedd lleiafrifol yn cael eu hanwybyddu’n hanfodol ac yn bosib wrth i ddatblygiad Deallusrwydd Artiffisial gamu ymlaen. Gall DA chwyldroi defnydd ieithoedd lleiafrifol gan sicrhau eu defnydd a’u ffyniant yn y byd digidol yn ôl Dr Cynog Prys o Brifysgol ϲʹ.
Bydd arbenigwyr mewn meysydd o DA a thechnoleg ddigidol, ieithyddiaeth a chymdeithaseg ledled Ewrop yn cydgyfarfod mewn digwyddiad a drefnir gan Dr Cynog Prys ym Mhrifysgol ϲʹ ar 9 Medi i drafod y chwyldro presennol a’r hyn sydd i ddod ym maes technolegau iaith a fydd yn effeithio ar ddefnydd iaith
Un o’r siaradwyr allweddol yn Technoleg a hawliau ieithyddol: edrych tua’r dyfodol yw Miriam Gerken, awdur adroddiad a gomisiynwyd gan Ysgrifenyddiaeth Cyngor Ewrop ar sut y bydd DA yn effeithio ymrwymiad y Cyngor i gefnogi ieithoedd lleiafrifol drwy eu Siarter Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd rhanbarthol neu leiafrifol.
“Gall technolegau iaith a DA ddarparu symbyliad i warchod a hybu ieithoedd rhanbarthol a lleiafrifol,” esbonia Miriam.
“Bydd galluogi pobol i ddefnyddio ieithoedd lleiafrifol yn ddigidol, boed mewn swyddogaeth swyddogol, fel cwsmer neu i ymgysylltu ag eraill, yn fodd i ieithoedd llai eu defnydd barhau’n gyfoes ac yn rhan hanfodol o hunaniaeth ddiwylliannol gwlad. Gall DA gyfrannu drwy sicrhau bod technolegau iaith fel cyfieithu peirianyddol, sgwrsfotiaid, synthesis llais a hyd yn oed is-deitlo awtomatig, sydd ei hangen i sicrhau bod fideos ar-lein yn cydymffurfio â safonau hygyrchedd, ar gael yn dewis ieithyddol pobol.
“Mae’r holl dechnolegau iaith hyn yn dibynnu ar ddata hyfforddi sydd yn cael ei brosesu gan ddefnyddio prosesu iaith naturiol (natural language processing neu NLP). Nod NLP yw datblygu rhaglenni gyda’r gallu i ddarllen, prosesu, dadansoddi ac yn y pendraw, deall iaith naturiol yn eu holl gymhlethdodau. Mae technolegau NLP yn cynnig posibiliadau diri ar gyfer defnyddio ieithoedd rhanbarthol neu leiafrifol yn y byd digidol, sef pam bod angen iddynt fod yn rhan o warchod ieithoedd heddiw.”
Meddai Cynog,
“Mewn sawl ffordd, mae’r iaith Gymraeg mewn sefyllfa gref, yn enwedig o’i gymharu ag ieithoedd lleiafrifol eraill. Mae technolegau iaith Gymraeg yn ein galluogi i ddefnyddio Cymraeg yn y sffêr digidol, ond mae heriau yn dal i fodoli tra bod y cynnig digidol yn gynyddol soffistigedig.”
“Golyga’r ffaith nad yw’r sector breifat yn cael ei gynnwys o dan ddeddfwriaeth Cymraeg presennol fod canran helaeth o’n bywydau digidol, sydd yn cael eu defnyddio gan siaradwyr Cymraeg, yn parhau i fod ar gael drwy Saesneg yn unig. Yr her ganolog ar gyfer technolegwyr iaith Gymraeg a’r gwneuthurwyr polisi yw canfod datrysiadau technolegol i’r broblem.”
Trefnir Technoleg a hawliau ieithyddol: edrych tua’r dyfodol gan Language in the Human-Machine Era, rhwydwaith o arbenigwyr ledled Ewrop. Mae’r cyfan yn ran o weithgareddau rhwydwaith COST (European Cooperation in Science and Technology) sy’n cael ei ariannu gan yr Undeb Ewropeaidd.
Mae’r digwyddiad sydd yn ddi-dâl i fynychu yn cynnwys arddangosfa gyda sgyrsiau gan dechnolegwyr blaenllaw Ewrop gan gynnwys Hillary Juma, Rheolwr Cymunedau Common Voice, project Ewropeaidd i greu set ddata ddigidol llais, wedi ei bweru gan leisiau gwirfoddolwyr o amgylch y byd. Gall y set ddata ddigidol ei defnyddio i adeiladu apiau i hyfforddi modelau dysgu peirianyddol.
Hefyd yn yr Arddangosfa bydd cyfle i weld rhai o’r technolegau diweddaraf. Mae'r rhain yn cynnwys LinguaSkin, sydd yn caniatáu cynnig apiau we amlieithog, y cynorthwyydd llais Cymraeg, Macsen, a phrojectau sydd ar y gweill gan Ganolfan Bedwyr ac Uned technolegau Iaith Prifysgol ϲʹ.
Mae modd archebu tocyn i fynychu’r digwyddiad rhad ac am ddim wrth ddilyn: