M-SParc #ArYLon yn dod ag arloesedd i Stryd Fawr ϲʹ
Mae M-SParc, Cwmni Prifysgol ϲʹ, yn mynd #ArYLôn i ddinas ϲʹ, i ddod â gweithdai, cymorth busnes, desgiau cydweithio, ac ysbryd entrepreneuraidd i Fyfyrwyr, Busnesau a Chymuned ϲʹ.
Mae’r prosiect #ArYLon yn dod â’r cyfleoedd sydd ar gael yn M-SParc ar Ynys Môn, i galon cymunedau yng Ngwynedd a Chonwy sydd efallai yn teimlo na gallent gael mynediad iddynt fel arall. Cynigir gweithdai ym meysydd gwyddoniaeth a thechnoleg yn rhad am ddim, ac mae gofod gwneuthurwr Ffiws yn caniatáu prototeipio a phrofi syniadau. Mae darparwyr cymorth busnes o'r ecosystem yn bresennol i roi cyngor i fusnesau a'r rhai sydd â syniadau. Agorodd y gofod ar y 18fed o Hydref, ac mae’n fwrlwm o bobl o'r un anian yn astudio, gweithio, a dysgu.
Ar ôl gadael Caernarfon gyda bron i 500 o bobl wedi bod drwy’r drws, 74 o fusnesau wedi cael cymorth busnes a dros 200 o blant yn mynychu gweithdai STEM mewn cyfnod o chwe mis, mae yna gyffro gwirioneddol ynghylch dyfodiad #ArYLon ym Mangor. Mae M-SParc hefyd yn aros yng Nghonwy, gyda gofod ar y Stryd Fawr tan fis Mawrth.
Dywedodd Ben Roberts, Swyddog Prosiect #ArYLon, “Gall unrhyw un ddod i’r gofod! Mae'n agored i fyfyrwyr, busnesau, y cyhoedd, a bydd grwpiau ysgol yn cael eu gwahodd i gael eu hysbrydoli. Rydyn ni eisiau creu cymuned, ac i bobl deimlo bod yna gyfle ar garreg eu drws i fod yn entrepreneuraidd ac i archwilio meysydd gwyddoniaeth a thechnoleg.”
“Rydym hefyd wedi bod yn cynnig lle i gymdeithasau myfyrwyr gyfarfod a chymdeithasu, ac wedi dechrau eu cysylltu â rhai o’r tenantiaid gwych draw yn M-SParc. Mae hwn yn mynd i fod yn ased amhrisiadwy iddynt, yn enwedig ar ôl iddynt raddio ac yn chwilio am swyddi. Cydweithio, dyna sy’n gyrru hwn yn ei flaen!”
Yn ystod y noson lansio ddathlu gyda phartneriaid a busnesau lleol yr wythnos hon, llanwyd y gofod gyda phobl yn ciwio yn y stryd i fynd i mewn. Mae'r cyswllt â'r gymuned yn hynod bwysig; Mae #ArYLon yma i gefnogi a gweithio gyda menter leol. Mae'r lleoliad bellach ar agor i'r cyhoedd ac yn croesawu pobl drwy'r drysau.
Dyweddod Athro Andrew Edwards, Dirprwy Is-Ganghellor Cenhadaeth Ddinesig a’r Iaith Gymraeg, Prifysgol ϲʹ; “Fel Prifysgol, rydym yn falch iawn o weld prosiect M-SParc #ArYLon ar Stryd Fawr ϲʹ. Mae Stryd Fawr lewyrchus yn hollbwysig i’r Brifysgol, ac mae cryfhau ein cysylltiadau â phartneriaid i wella ac adfywio canol y ddinas yn flaenoriaeth allweddol. Mae'r Brifysgol wedi lansio ei Strategaeth Ymgysylltu Dinesig newydd yn ddiweddar, sy'n nodi sut y byddwn yn ehangu ac yn dyfnhau'r ystod eang o berthnasoedd rhwng y Brifysgol a chymunedau ym Mangor a thu hwnt.
Trwy ein Bwrdd Cymunedol, mae gennym hefyd lwyfan i weithio gyda phartneriaid allweddol yng ngogledd-orllewin Cymru, ac nid oes amheuaeth y bydd #ArYLon yn denu diddordeb, yn annog cydweithio ac yn ychwanegu gwerth at y gwaith adfywio sydd eisoes ar y gweill ym Mangor. Dymunwn y gorau oll i’n cydweithwyr #ArYLon dros y misoedd nesaf.”
Gallwch ddod o hyd i M-SParc #ArYLon ar 204 Stryd Fawr ϲʹ, ac maent yn parhau i gael eu lleoli ar y Stryd Fawr ym Mae Colwyn. Gwnewch yn siŵr i ddilyn eu cyfryngau cymdeithasol neu alw i mewn i tanio eich arloesedd a chreadigedd, welwn ni chi’n fuan!
Dywedodd Athro Andrew Edwards, Dirprwy Is-Ganghellor Cenhadaeth Ddinesig a’r Iaith Gymraeg, Prifysgol ϲʹ; “Fel Prifysgol, rydym yn falch iawn o weld prosiect M-SParc #ArYLon ar Stryd Fawr ϲʹ. Mae Stryd Fawr lewyrchus yn hollbwysig i’r Brifysgol, ac mae cryfhau ein cysylltiadau â phartneriaid i wella ac adfywio canol y ddinas yn flaenoriaeth allweddol. Mae'r Brifysgol wedi lansio ei Strategaeth Ymgysylltu Dinesig newydd yn ddiweddar, sy'n nodi sut y byddwn yn ehangu ac yn dyfnhau'r ystod eang o berthnasoedd rhwng y Brifysgol a chymunedau ym Mangor a thu hwnt.
Trwy ein Bwrdd Cymunedol, mae gennym hefyd lwyfan i weithio gyda phartneriaid allweddol yng ngogledd-orllewin Cymru, ac nid oes amheuaeth y bydd #ArYLon yn denu diddordeb, yn annog cydweithio ac yn ychwanegu gwerth at y gwaith adfywio sydd eisoes ar y gweill ym Mangor. Dymunwn y gorau oll i’n cydweithwyr #ArYLon dros y misoedd nesaf.”
Gallwch ddod o hyd i M-SParc #ArYLon ar 204 Stryd Fawr ϲʹ, ac maent yn parhau i gael eu lleoli ar y Stryd Fawr ym Mae Colwyn. Gwnewch yn siŵr i ddilyn eu cyfryngau cymdeithasol neu alw i mewn i tanio eich arloesedd a chreadigedd, welwn ni chi’n fuan!