Fel sy’n cael ei gydnabod yn eang erbyn hyn, mae angen brys i ymateb i’r argyfwng hinsawdd drwy leihau faint o garbon deuocsid sydd yn ein hatmosffer. Gall ehangu arwynebedd coetiroedd – yng Nghymru, gweddill Prydain, ac yn fyd-eang – chwarae rhan bwysig yn cyrraedd y targed “sero net” hwn gan fod coed sy’n tyfu coed yn cymryd carbon a’i storio.
Yn eu cyfraniad i lyfr newydd pwysig mynediad agored, , mae tîm o Brifysgol ϲʹ, fodd bynnag, wedi tynnu sylw at y risg na fydd coetiroedd un pwrpas 'dal carbon' o bosibl yn bodloni’r amrywiaeth o anghenion fydd yn wynebu cymdeithas yn y dyfodol.
Mae gwersi o hanes, yn enwedig yn ystod y can mlynedd a mwy ddiwethaf o goedwigaeth dan arweiniad y wladwriaeth, yn dangos risgiau’r dull hwn. Dros y cyfnod hwn mae polisi coedwigoedd yn aml wedi annog plannu coed ar gyfer cynhyrchion penodol - yn aml ar adegau o brinder canfyddedig - megis llongau pren, coed ar gyfer rhyfela yn y ffosydd, matsys, a nifer o rai eraill. Ond mae coed yn cymryd amser i dyfu ac yn aml mae anghenion a blaenoriaethau cymdeithas wedi symud ymlaen o'r cynhyrchion hyn erbyn i'r coed a blannwyd fod yn barod i'w cynaeafu. Mae hyn wedi rhoi llawer o goed, coedwigoedd a fforestydd i ni ddarparu ar gyfer anghenion nad oes gennym bellach.
Wrth gwrdd â’r flaenoriaeth uchel bresennol o ddefnyddio coetiroedd newydd i ddal carbon, mae hanes yn dweud wrthym felly y byddai’n ddoeth sicrhau bod y coedwigoedd rydym yn eu creu yn wydn ac yn gallu bodloni’r blaenoriaethau fydd yn dod i’r amlwg dros y degawdau nesaf.
Dan arweiniad Dr Sophie Wynne-Jones, sy’n Ddarlithydd mewn Daearyddiaeth Ddynol ac ar hyn o bryd yn Gymrawd Mewnwelediad Ymddygiadol Amaethyddiaeth Sero Net i Lywodraeth Cymru, mae’r ymchwilwyr yn archwilio sut y gallai edrych o safbwynt tymor hir ar bolisi coedwigaeth – sy’n cyd-fynd yn agosach â rhychwant oes coed – helpu i ddatblygu adnoddau coedwig hyblyg sy’n gallu addasu’n well i anghenion cyfnewidiol cymdeithas. Gallai hyn ein harwain at ddatblygu tirweddau gyda mathau amrywiol o goetir a all ddarparu lleoedd ar gyfer bywyd gwyllt, hamdden, lles, a chynhyrchu coed, ochr yn ochr â storio carbon i frwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd.
'Llywodraethu fel coedwig'
Gall polisi coedwig sy’n cymryd i ystyriaeth tyfiant coed dros gyfnod hir ac sy’n osgoi newid rhy gyflym yn ein tirwedd ein helpu i osgoi’r camgymeriadau seiliedig ar feddwl tymor byr yr ydym wedi’u gwneud yn y gorffennol. Mae hefyd yn fwy tebygol o gael ei dderbyn ymhlith ein cymunedau gwledig.”
Adeg tyngedfennol i bolisi gwledig yn y Deyrnas Unedig
Ychwanegodd Dr Wynne-Jones,
“Mae hon yn adeg dyngedfennol i bolisi gwledig yn y Deyrnas Unedig ac mae angen i ni ddod o hyd i ffyrdd newydd o gyflawni ein nodau plannu coed yn effeithiol ac yn sensitif. Mae deddfwriaeth fel Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) a pholisïau fel Coedwig Genedlaethol Cymru yn ein hannog i edrych yn y tymor hir. Gall hyn ein galluogi i feddwl yn wahanol am blannu coed wrth i ni ymateb i heriau newid hinsawdd.”
Mae’r llyfr, a gyhoeddir y mis hwn gan Routledge, yn rhoi golwg gynhwysfawr ac amlddisgyblaethol o lywodraethu gwledig a chymdeithas yn y Deyrnas Unedig ar ôl Brexit. Mae’n ymdrin nid yn unig â pholisi coedwigoedd, ond hefyd digideiddio gwledig, rheoli tir amaethyddol ac amgylcheddol, entrepreneuriaeth gymdeithasol wledig, ac ynni.